Beth Ar Wyneb Y Ddaear Yw Ffracio?
Meddwl am y broses ddiwydiannol newydd o ffracio, a chanlyniadau posib y broses.
gan Claire Rose
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Meddwl am y broses ddiwydiannol newydd o ffracio, a chanlyniadau posib y broses.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr rai lluniau o’r broses hon, oddi ar:
http://www.bbc.co.uk/news/uk-14432401
http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-lancashire-13700575 http://www.blackpoolgazette.co.uk/news/business/fracking_water_pollution_fears_1_4054181 - Er mwyn cael barn rhai sy’n gwrthwynebu ffracio, gwelwch: <http://frack-off.org.uk/>
Am ragor o wybodaeth am ffracio, gwelwch <http://en.wikipedia.org/wiki/Hydraulic_fracturing>
Er mwyn cael gwybod beth yw sefyllfa’r llywodraeth Brydeinig, gwelwch <http://www.bbc.co.uk/news/uk-14432401> - Mae’n bosib cyflwyno’r gwasanaeth hwn ar ffurf deialog, gydag un yn holi’r cwestiynau ac un arall yn rhoi’r atebion.
Gwasanaeth
- Beth ar wyneb y ddaear yw ffracio? (Derbyniwch atebion. Gofal: fracking yw’r gair yma, ond ar y gyfres deledu 'Battlestar Galactica', mae ‘frakking’ yn cael ei ddefnyddio fel rheg.)
Nid yw mor anfoesgar ag y mae’n swnio! Ffracio neu ‘fracking’ yw'r ffurf fer ar y geiriau ‘hydraulic fracturing’, sydd yn broses o roi pwysedd ar graig siâl, (hynny yw craig gleiog) sydd yn ddwfn o dan ddaear, er mwyn rhyddhau'r nwy naturiol sydd ymhlyg yn y graig. Caiff y pwysedd ei greu trwy chwistrellu hylif, sy'n gymysgedd o ddwr, tywod a llawer o gemegolion gwahanol, i mewn i dyllau sydd wedi cael eu drilio i'r graig. Mae'r pwysedd uchel yn creu holltau yn y graig ac mae'r nwy yn gallu byrlymu allan.
Mae cwmnïau ynni wedi dechrau defnyddio'r dull hwn o gyrraedd at ddyddodion o nwy naturiol a fyddai fel arall y tu hwnt i'w cyrraedd.
Hyd yn hyn mae drilio am nwy gan ddefnyddio'r dull hwn wedi digwydd yn yr UDA. Ond yn ddiweddar, mae un cwmni ynni wedi dechrau arbrofi gyda ffracio ger Blackpool, ac mae safleoedd eraill yn y D.U. yn cael eu harchwilio hefyd. - Pam fod cwmnïau wedi troi tuag at ffracio fel dull i gyrraedd at nwy naturiol?
Mae'n mynd yn anoddach ac yn anoddach i ddod o hyd i'r holl ynni yr ydym ei angen. Mae'r safleoedd ynni cyflenwol traddodiadol ar gyfer nwy naturiol (fel Môr y Gogledd) yn prysur ddod i ben. Ond rydyn ni’n dibynnu ar danwydd ffosil - olew, glo a nwy - i gynhyrchu trydan, i gadw ein ceir i redeg, ac i wresogi ein cartrefi. Felly mae cwmnïau ynni yn chwilio am ffyrdd newydd i gael mynediad at y ffynonellau ynni hyn.
Ffracio yw un o'r ffyrdd newydd hyn y maen nhw wedi bod yn eu datblygu. - Beth yw'r manteision?
- Un o'r manteision yw ei bod hi’n bosib i ni wneud hyn yma yn y D.U. yn hytrach na gorfod dibynnu ar fewnforio nwy o wledydd eraill.
- Gall ffracio roi hwb hefyd i argaeledd nwy drwy'r byd, ac o ganlyniad leihau cost tanwydd i bawb ohonom.
- Nwy naturiol (y nwy sydd i'w gael o ffracio) yw'r tanwydd ffosil sy’n llosgi yn y modd glanaf, yn cynhyrchu 45 y cant o garbon deuocsid y llai na glo a 30 y cant yn llai nag olew. Felly mae'n opsiwn gwell ar gyfer yr amgylchfyd o’i gymharu ag ambell danwydd ffosil arall.
- Mae ffracio yn broses gymhleth, ac mae'r angen i dyllu cannoedd o ffynhonnau, ynghyd â'r isadeiledd mewnol fydd ei angen i gefnogi'r diwydiant ffracio, yn golygu y bydd miloedd lawer o swyddi newydd tra chrefftus yn cael eu creu. - Oes yna broblem?
Pan ddechreuwyd ffracio am y tro cyntaf yn yr UDA, fe fu’r llywodraeth yn asesu a oedd posibilrwydd y byddai'r gwaith yn achosi unrhyw niwed i'r amgylchfyd, neu i iechyd y cyhoedd, a daeth i'r casgliad y byddai'r risg yn fach iawn, iawn. Fodd bynnag, ers hynny, mae rhai pobl sy'n byw yn agos at safleoedd ffracio wedi adrodd am effeithiau ar eu hiechyd, yn cynnwys cur pen, gwaedlif o'r trwyn, teimlo'n simsan, a symptomau eraill. Mae'r pryderon hyn wedi gwneud i bobl edrych unwaith yn rhagor ar ba mor ddiogel yw ffracio.
- Mae rhai pobl wedi lleisio'u pryder y gall yr hylif tra gwenwynig sydd yn rhannol wedi ei sylfaenu ar ddwr, ac sy'n cael ei ddefnyddio yn y broses o ffracio, effeithio ar gyflenwadau dwr lleol. Cafodd dwr wedi ei lygru ei ddarganfod mewn nentydd yn agos at rai safleoedd ffracio. A thra bo rhai cemegolion sydd wedi eu darganfod yn y dwr yma yn achosi canser, dichon fod y mater hwn yn gallu bod yn un difrifol. Mae peth tystiolaeth hefyd bod ffracio wedi achosi i nwy methan dreiddio i’r cyflenwad dwr mewn rhai ardaloedd, ac y mae yna achosion wedi eu cofnodi o breswylwyr lleol yn gallu rhoi y dwr sydd yn dod allan o'u tapiau ar dân!
- Mae hylif ffracio hefyd yn tynnu cemegolion eraill allan o'r creigiau y mae'n treiddio trwyddynt; weithiau gall hyn gynnwys elfennu ymbelydrol, sy'n golygu bod yr hylif yn cael eu halogi. Fel gydag unrhyw wastraff ymbelydrol, mae cael gwared â'r hylif hwn mewn ffordd ddiogel yn dod yn broblem fawr.
- Ym mhob safle, rhaid tyllu cannoedd o ffynhonnau, a gall pob ffynnon ddefnyddio hyd at 9 miliwn litr o ddwr bob dydd. O hyn dim ond 50 y cant ohono y gellir ei ail-ddefnyddio (bydd y gweddill yn rhy lygredig) felly mae pryder am 'ansefydlogi'r ddaeareg’.
- Yn gysylltiedig â’r pwynt diwethaf, un o'r prif faterion ynghlwm wrth ffracio yw ei fod yn debygol o achosi daeargryn. Cafodd dau ddaeargryn yn ardal Blackpool yn y D.U. ym mis Mehefin 2011, eu cysylltu â’r broses o ffracio gerllaw (mae'n 'hollol debygol’, yn ôl adroddiad annibynnol) a rhoddwyd y gorau i'r gwaith tra bu ymchwiliad yn cael ei gynnal. Yn naturiol gall hyn fod yn achos pryder mawr i breswylwyr lleol.
- Ac yna mae’n rhaid ystyried y mater o newid yn yr hinsawdd. Mae ffracio yn ddull carbon-ddwys o gynhyrchu ynni - hynny yw, rhaid i ni roi llawer o ynni yn y lle cyntaf er mwyn cael at yr ynni arall, ar ffurf nwy, yn y diwedd. Ychydig iawn o nwy sydd yn cael ei gynhyrchu gan bob ffynnon, ac mae’n rhaid tyllu llawer o ffynhonau i wneud y fenter yn fuddiol.
(Am fwy o wybodaeth ar y pwyntiau hyn i gyd, a'r rhesymau paham y mae carfanau annog yn ffurfio i geisio atal y ffracio, gweler <http://frack-off.org.uk/>). - Beth yw ymateb y diwydiant ffracio?
Mae cynrychiolwyr y diwydiant ffracio wedi ymateb i'r cwynion am y llygru trwy ddweud mai achosion unigol o ymarfer gwael yw’r rhain, fel ffynhonau sydd wedi eu hadeiladu'n wael, neu ddwr wedi ei storio'n ddiffygiol ar yr wyneb, yn hytrach na chynrychiolaeth o’r broses ffracio’n gyffredinol.
Gallai'r daeargrynfeydd, fe ddywedir, fod yn ganlyniad i ffactorau daearegol anghyffredin, na fyddai'n debygol o ddigwydd eto.
Maen nhw hefyd yn dadlau gan fod nwy naturiol yn ffurf eithaf 'glân' o ynni, am ei fod yn llygru llai na rhai o’r tanwydd ffosil eraill. Mae'n opsiwn gwell ar gyfer yr amgylchfyd. - Beth sydd gan ein llywodraeth i'w ddweud?
Mae cynlluniau i ymestyn y defnydd o ffracio yn y D.U. ac mae safleoedd newydd yn cael eu harchwilio yng Nghaint (Kent) a Chymru.
Mae comisiwn dethol y D.U. ar ynni wedi bod yn edrych ar ddiogelwch ffracio, ac mae’n argyhoeddedig os caiff ei weithredu'n briodol a chywir, a bod y rheoliadau priodol yn eu lle, nid oes unrhyw dystiolaeth bod unrhyw berygl i gyflenwadau dwr y D.U. (gwelwch: <http://www.bbc.co.uk/news/uk-14432401>).
Datblygiad pellach
Mae'r drafodaeth ynghylch ffracio yn gymhleth, ond mae'n bwnc pwysig fydd yn cael effaith ar bob un ohonom yn y D.U. yn y blynyddoedd i ddod.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy, mae nifer o ffynonellau ar lein. Mae adroddiad y pwyllgor dethol ar ynni ar gael ar wefan Senedd y D.U. (UK Parliament), ac mae gwefan wybodaeth ddiwydiannol o'r enw ‘Hydraulic Fracturing Facts’ sy’n rhoi manylion cadarnhaol am fanteision ffracio.
Ar yr ochr arall i'r ddadl, mae ymgyrch genedlaethol o'r enw (Frack Off) sy'n mynnu diwedd ar y ffracio yn y D.U. ac mae gan grwpiau amgylcheddol fel Greenpeace hefyd ymgyrchoedd gwrth-ffracio - mae manylion pellach ar gael ar eu gwefannau.
Amser i feddwl
Os ydych chi'n byw yn agos at un o'r safleoedd hyn, beth yw eich teimladau am yr hyn sy'n digwydd?
Pe byddai safle ffracio yn cael ei sefydlu yn agos at eich cartref chi, sut y byddech chi'n teimlo?
Nawr treuliwch ychydig funudau yn meddwl am ein hangen dihysbydd am ynni. Beth fyddech chi'n gallu ei wneud i leihau'r angen hwn?
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Fragile’ by Sting (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr)
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.