Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Stori A Thwist Ynddi

Chwiliwch am y diweddglo hapus bob amser

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gan gyfeirio at brif themâu’r nofel Oliver Twist gan Charles Dickens, annog y myfyrwyr i ddatblygu agwedd gadarnhaol yn wyneb anawsterau bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

Paratowch ddau ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch stori sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:

    Darllenydd 1  Troseddwyr gyrfaol.

    Darllenydd 2  Mam ddibriod.

    Darllenydd 1  Llofruddiaeth.

    Darllenydd 2  Cam-drin plant.

    Darllenydd 1  Perthynas y tu allan i briodas.

    Darllenydd 2  Gwrth-Semitiaeth (hilyddiaeth yn erbyn Iddewon).

    Darllenydd 1  Llafur plant.

    Darllenydd 2  Yr heddlu’n ymlid –

    Darllenydd 1  a’r ymlid yn diweddu mewn crogi damweiniol.

    Darllenydd 2  Ac, ar ben y cyfan, dienyddiad un o’r dihirod am ei droseddau.

  2. Rwy’n gwybod bod hyn i gyd yn swnio fel episod arbennig y Nadolig o Eastenders, ond nid dyna beth sydd yma. Na, fe wnaeth stori sydd â phlot o’r fath, yn cynnwys yr holl elfennau hyn, ymddangos gyntaf yn y flwyddyn 1837, fesul pennod bob mis, mewn cylchgrawn o’r enw Bentley’s Miscellany.

    Os nad ydych chi eisoes wedi gallu dyfalu, rydyn ni’n gyfarwydd â’r stori heddiw dan y teitl Oliver Twist. Cafodd Charles Dickens, awdur Oliver Twist a nifer fawr o nofelau eraill, ei eni 200 mlynedd yn ôl, ar 7 Chwefror 1812. Eleni, mae nifer o ddigwyddiadau ledled y wlad i ddathlu dau ganmlwyddiant geni Charles Dickens.

  3. Fe fydd nifer ohonoch chi’n gwybod am brif elfennau’r plot: Oliver yn gofyn am fwy o fwyd, golygfeydd y pigwyr pocedi, ysgol Fagin ar gyfer y lladron bach, Bill Sikes yn llofruddio Nancy mor fwystfilaidd. Ond, mae fersiynau’r ffilmiau a’r sioeau cerdd wedi gweld yr angen i olygu llawer ar y stori oherwydd bod y plot gwreiddiol mor gymhleth ac yn cynnwys cymaint o’r digwyddiadau min dibyn ar ddiwedd pob pennod (cliff-hangers).

    Fe ysgrifennwyd y stori wreiddiol fel hyn am fod Charles Dickens, yr awdur, eisiau gofalu y byddai’r darllenwyr yn awyddus i ruthro bob mis i brynu’r cylchgrawn, er mwyn cael darllen pennod nesaf y nofel, a chael gwybod beth sy’n digwydd wedyn. Dyma sut roedd yn ennill ei fywoliaeth. Fe allech chi edrych yn benodol ar ddiwedd pob pennod er mwyn sylwi ar hyn. Ar ddiwedd pob pennod, mae Oliver, neu un o’r cymeriadau eraill, yn cael eu gadael mewn sefyllfa o ansicrwydd neu berygl. Beth fydd yn digwydd? Does bosib y gallai pethau fynd yn waeth? Prynwch y cylchgrawn ymhen y mis er mwyn cael yr ateb - dyna oedd y drefn.

  4. Ambell dro, fe all ein bywydau ninnau ymddangos felly. Fe allwn ni deimlo ein bod yn byw o’r naill greisis i’r llall, heb brin gael amser i ddod atom ein hunain cyn i broblem arall godi ei phen.

    Efallai bod hynny’n gallu dechrau ben bore wrth i ni godi. Bydd rhai pobl yn dweud eu bod wedi ‘codi’r ochr chwith i’r gwely’, sy’n golygu eu bod wedi dechrau’r diwrnod yn ddrwg eu hwyl. A does ond eisiau i rywun bryfocio rhywfaint arnyn nhw, neu iddyn nhw dderbyn tamaid o newydd drwg, ac maen nhw’n teimlo’n saith gwaith gwaeth wedyn, ac mae’n hawdd taro’n ôl ar lafar neu’n gorfforol hyd yn oed. Wedyn, fe fydd yr unigolyn hwnnw mewn helbul, a hynny yn ei dro’n codi lefel y straen ymhellach, ac fe allai hynny arwain at ddigwyddiad arall ar ben y cyfan. Ydych chi wedi cael profiad o sefyllfa debyg, ryw dro?

  5. Mae nifer o ffactorau allai achosi problemau fel hyn:

    Darllenydd 1  Perthynas wedi chwalu.

    Darllenydd 2  Canlyniadau gwael mewn prawf.

    Darllenydd 1  Annwyd neu gur pen.

    Darllenydd 2  Heb gael noson dda o gwsg.

    Darllenydd 1  Pryder am waith cartref na chafodd ei wneud.

    Darllenydd 2  Amser neilltuol o’r mis.

    Darllenydd 1  Rhywun wedi torri ei addewid i chi.

    Darllenydd 2  Diwrnod glawog.

    Beth bynnag yw’r achos, rydyn ninnau’n cael ein hunain mewn sefyllfa o fod ar fin dibyn, ac yn methu gweld ein ffordd yn glir allan o’r helbul. Ond, yn wahanol i ddarllenwyr cyntaf Oliver Twist, dydyn ni ddim yn gallu aros am fis heb wneud rhywbeth. Rhaid i ni naill ai gael ateb i’n problem ar unwaith, neu gael rhywbeth i ddal gafael arno, er mwyn gallu dal ati.

  6. Roedd darllenwyr gwaith Charles Dickens ar y pryd yn gwybod un peth yn bendant: waeth pa mor ddrwg yr oedd pethau yn achos Oliver, waeth faint o boen a thristwch oedd ar ddiwedd pob pennod, fe fyddai Oliver yn byw’n hapus byth wedyn, yn y diwedd. Roedd y darllenwyr yn gwybod hynny ar y pryd am mai dyna’r ffordd y byddai nofel fel hon yn gorffen bob tro - ‘and they lived happily ever after’.

    Roedd y cylchgrawn, Bentley’s Miscellany, yn cyhoeddi nofelau cyfres fel hon a fyddai’n rhoi i’r darllenwyr y sicrwydd y byddai’r da yn trechu yn y pen draw. Os hoffech chi weld sut mae hynny’n digwydd yn achos Oliver, yna mynnwch gopi o’r nofel.

Amser i feddwl

Ydych chi’n credu bod y byd i gyd yn eich erbyn? Neu, ydych chi’n credu bod grym yn gweithio er daioni i ddatrys pob problem yn y pen draw? Mae rhai pobl yn hoffi defnyddio horosgop i geisio gweld beth fydd ffurf y dyfodol. Ond, mae eraill yn derbyn y gwaethaf yn hollol besimistaidd.

Mae Cristnogion yn credu bod popeth, yn y pendraw, dan ofal Duw. O leiaf, mae Duw yn gallu ein rheoli os gwnawn ni adael iddo fod â gofal drosom, a ninnau’n dilyn ei arweiniad. Dyna un rheswm pam y bydd Cristnogion yn gweddïo. Maen nhw’n gweddïo er mwyn gwahodd Duw i fod gyda nhw ar yr adegau anodd a dangos iddyn nhw sut i ddelio â’r hyn sy’n digwydd. Fe all olygu gwaith caled, dweud sori, peidio ag ymateb yn ffyrnig, neu yn syml iawn dim ond bod yn amyneddgar. Yr hyn sy’n bwysig yw credu bod Duw yn gallu ein helpu i ddelio gyda beth bynnag fydd yn digwydd.

Yr hyn sy’n bwysig yw agwedd gadarnhaol, penderfyniad i beidio gadael i bethau fynd yn drech na ni, peidio ag anobeithio, ac aros am y ‘twist’ yn y stori.

Gweddi  

Annwyl Dduw,

diolch dy fod ti eisiau diweddglo hapus i’r stori yn achos pob un ohonom.

Diolch dy fod ti’n cynnig bod gyda mi, hyd yn oed ar yr adegau anoddaf.

Heddiw, fe hoffwn i ti fy helpu gyda ... (anogwch y myfyrwyr i feddwl am eu syniadau eu hunain yma, mewn moment o ddistawrwydd).

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Always look on the bright side of life’ gan Monty Python (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we)

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon