Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Da Iawn Mam!

Sul y Fam

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi beth sy’n gwneud mam dda neu ‘ffigur mam’ dda, ac anrhydeddu pob gwraig sydd wedi chwarae rôl fel mam yn eu bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun o’ch mam chi eich hun, efallai, neu rywun sy’n ‘ffigur mam’ i chi, neu gasgliad o luniau mamau enwog a’u plant.
  • Fe allech chi chwarae gêm matsio plant enwog â’u mamau (bydd gennych chi eich casgliad eich hun, o bosib, ond dyma rai enghreifftiau):
    –  Heledd Cynwal, a’i mam Elinor Jones.
    –  Maddox, Zahara, Shiloh, Pax, Knox a Vivienne, a’u mam, Angelina Jolie
    –  Brooklyn, Romeo, Cruz a Harper, a’u mam, Victoria Beckham
    –  Charles, Anne, Andrew a Edward, a’u mam, the Queen
    –  Malia Ann a Natasha (Sasha), a’u mam, Michelle Obama
    –  Bart, Lisa a Maggie, a’u mam Marge Simpson
    –  Aimee, Kelly a Jack, a’u mam Sharon Osbourne.
  • Paratowch arddangosfa o luniau’r mamau enwog a’u plant, i’r myfyrwyr eu gweld wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Fel cyflwyniad, neu fel cân i ddiweddu’r gwasanaeth, chwaraewch ‘Mamma Mia’ gan Abba.
  • Rhybudd: Byddwch yn sensitif ynghylch sut rydych chi’n ymdrin â’r pwnc yma. Efallai nad yw profiad pawb o’u ‘mam’ yn brofiad positif bob tro. Gall Sul y Fam fod yn amser anodd i blant sydd heb fam yn byw gartref. Felly, yn y gwasanaeth hwn, ‘ffigur mam’ mewn ystyr gyffredinol a ddylid ei ddathlu – fe allai hynny gynnwys llysfam, mam faeth, modryb, nain neu chwaer hyn yn ogystal â mamau.

Gwasanaeth

  1. Bydd pobl ledled y byd yn dathlu Sul y Fam, ond ar adegau gwahanol ar y flwyddyn mewn gwahanol wledydd. Ond mae rôl y fam wedi bod yn rhywbeth i’w ddathlu a’i anrhydeddu trwy hanes yr oesoedd ers amser yr hen Roegiaid.

    Ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, bydd y bobl yno’n dathlu Sul y Fam ar y pedwerydd Sul yn y Garawys, ac eleni Mawrth 18 fydd y diwrnod hwnnw.

    Fe allwn ni ddefnyddio’r diwrnod hwn nid yn unig i anrhydeddu ein mam ond hefyd i ddiolch i ferched eraill sydd wedi chwarae rôl fel mam yn ein bywydau – pa un ai fel mam faeth neu fodryb, chwaer fawr neu nain neu unrhyw un sydd wedi bod yn gofalu amdanom.

    Fe fydd plant yn aml yn rhoi anrheg a cherdyn i’w mam ar y diwrnod arbennig hwn, er mwyn diolch iddi. Yn aml, fe fydd llawer o eglwysi yn rhoi sylw arbennig i hyn yn eu gwasanaeth y diwrnod hwn ac yn rhoi tusw o flodau’r gwanwyn i’r plant yn y gynulleidfa er mwyn iddyn nhw allu eu rhoi i’w mam fel arwydd o ddiolch am eu gofal a’u cariad trwy gydol y flwyddyn.

  2. Mae ein mamau’n golygu llawer iawn i ni. Does gan bawb ohonom ddim mam sy’n byw yn yr un ty â nhw, ond mae gan bob un ohonom rywun sy’n ‘ffigur mam’ i ni yn ein bywyd. Mae pob mam yn wahanol. Mae’n bwysig gwerthfawrogi ein mamau, wedi’r cyfan maen nhw wedi gofalu amdanom ni ers y dydd y cawsom ni ein geni, a chyn hynny hyd yn oed, ac mae’n bwysig gwerthfawrogi pwy bynnag sydd wedi bod yn ‘ffigur mam’ i ni hefyd.

    Ydych chi’n cofio eich mam yn trysori’r lluniau roeddech chi wedi’u gwneud pan oeddech chi’n llai? Ydych chi’n cofio eich mam yn eich dysgu i gau carai eich esgidiau cyn i chi ddod i’r ysgol? (Neu efallai mai Velcro oedd gennych chi’n cau eich esgidiau!) A meddyliwch am yr holl bethau mae eich mam wedi eu gwneud i chi ers hynny, ac mae hi’n dal i’w gwneud i chi, a hynny am ei bod yn eich caru chi.

    Os na  chawsoch chi’r math hwn o fagwraeth, neu os gwnaethoch chi fyw heb eich mam, gadewch i ni wneud heddiw yn ddydd i anrhydeddu’r ffigur mam yn eich bywyd sydd wedi eich ysbrydoli ac sy’n parhau i wneud hynny.

    Wrth gwrs, fe fydd adegau pan fyddwch chi’n anghydweld â’ch mam, ond ceisiwch weld y darlun llawn – sef bod eich mam yn eich caru ac mae’n debyg y byddai’n gwneud unrhyw beth yn ei gallu i’ch helpu chi pe byddech chi mewn unrhyw fath o drafferth.

  3. Mae mamau’n teimlo’n aml iawn nad yw eu gwaith byth yn dod i ben. Maen nhw’n aml yn teimlo wedi blino, does dim cyflog i’w gael am yr holl waith, ac yn aml mae cymdeithas yn anwybyddu rôl y fam. Felly, pam trafferthu bod yn fam? Pam y mae miliynau o ferched bob blwyddyn yn penderfynu eu bod eisiau bod yn fam?

    Ond mae bod yn fam yn brofiad gwerthfawr - mae’n bosib cael pleser anhygoel yn ddyddiol. Allwch chi byth orbrisio dylanwad mam dda. Mae arweinwyr yfory yn cael eu siapio yn eu cartrefi heddiw yn aml dan ddylanwad eu mam.

    Mae mamau’n cael dylanwad mawr ar eu plant - fydd eu geiriau byth yn cael eu hanghofio’n llwyr, ac fe fydd eu cyffyrddiad a’r atgof am eu presenoldeb yn para am oes. Mae therapyddion yn dweud wrthym fod dylanwad ein rhieni’n effeithio ar y ffordd y byddwn ni’n byw ein bywydau.

  4. Mae adegau emosiynol yn bethau cyffredin i bob mam, y cymysgiad o boen a llawenydd sydd i’w gael ar adeg geni babi bach; rhieni newydd yn dysgu ymdopi â chyfrifoldebau newydd a nosweithiau digwsg, ac yna ymhen blynyddoedd ar ôl hynny, rhaid dysgu gadael i’r plant ‘adael y nyth’ wedi iddyn nhw dyfu’n oedolion.

    Yn anffodus, am wahanol resymau, mae rhai mamau’n rhoi genedigaeth i blant na fyddan nhw byth yn eu gweld wedyn. Rhown ddiolch i Dduw am bobl fydd yn rhoi cartref cariadus i’r plant hynny, ac yn eu magu fel eu plant eu hunain.

  5. Weithiau, fe fydd ein mamau’n methu gwneud y pethau iawn, ond mae Duw’n rhiant perffaith – yn fam a thad ardderchog i bob un ohonom. Mae Duw yno bob amser i’n caru ni a’n cefnogi ni, beth bynnag y byddwn ni’n ei wneud.

Amser i feddwl

Mae Sul y Fam yn rhoi cyfle i ni gofio am ein mam, neu’r rhai sydd wedi bod fel mam i ni yn ystod ein bywyd. Gadewch i ni dreulio munud neu ddau yn meddwl am y bobl arbennig hyn: meddwl am y pethau maen nhw’n ei wneud i ni, meddwl am sut y gallwn ni ddweud wrthyn nhw ein bod yn eu gwerthfawrogi.

Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi gael eich annog gan eich mam, naill ai wrth iddi ddweud rhywbeth wrthych chi neu wneud rhywbeth i’ch helpu chi? (Saib)

Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi ddweud diolch wrth eich mam am ei chariad a’i holl ofal drosoch chi? Os yw eich mam wedi dangos i chi ei bod yn batrwm ymddwyn delfrydol, cofiwch ddiolch iddi. (Saib)

Ferched, os byddwch chi, neu, pan fyddwch chi’n famau eich hunain, pa fath o ddylanwad yr hoffech chi ei adael ar fywyd eich plant? (Saib)

Fechgyn, os neu pan fydd eich gwraig neu eich partner yn fam i’ch plant, addunedwch yn awr i’w gwerthfawrogi am fod yn fam, a pheidiwch ag anghofio dweud wrth fam eich plant, wrth eich mam eich hun, neu wrth yr un sy’n ffigur mam i chi, y tri gair bach syml, ‘Da iawn, Mam’.

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am ein mamau

ac am y rhai sydd wedi bod fel mam i ni yn ein bywyd.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Mama Mia gan Abba

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon