Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dwr

Herio’r myfyrwyr i ystyried beth sydd o dan yr wyneb.

gan Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Herio’r myfyrwyr i ystyried beth sydd o dan yr wyneb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tair potel o ddwr yfed - un o ddwr glân pur, un gyda halen wedi’i ychwanegu at y dwr, ac yn gyda siwgr wedi’i ychwanegu at y dwr. (Fe fydd yr halen a’r siwgr yn toddi’n well yn y dwr os gwnewch chi gynhesu’r dwr, ond rhowch gyfle i’r dwr oeri eto cyn defnyddio’r poteli yn y gwasanaeth.) Ceisiwch wneud yr un gyda’r halen a’r un gyda’r siwgr i ymddangos mor glir â phosibl, fel bod y tair potel yn edrych yr un fath. Ond fe ddylai’r blas fod yn ddigon cryf i’r myfyrwyr allu gwybod ar unwaith beth sydd yn y poteli!
  • Tair cwpan (neu setiau o dair). (Dewisol: gwellt yfed).
  • Er mwyn cael gwybodaeth am halen, edrychwch ar www.nhs.uk/chq/Pages/1138.aspx?CategoryID=51&SubCategoryID=167
  • Er mwyn cael gwybodaeth am siwgr, edrychwch ar www.nhs.uk/Livewell/Goodfood/Pages/sugars.aspx
  • Fe fydd arnoch chi angen pecyn o ‘Dioralyte’, neu gynnyrch tebyg.
  • Mae gwybodaeth am therapi hydradiad trwy’r genau (oral rehydration therapy) ar gael ar http://en.wikipedia.org/wiki/Oral_rehydration_therapy
  • (Dewisol) Paratowch fyfyriwr i ddarllen y darn o’r Beibl: Mathew 5.13.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am dri o wirfoddolwyr i ddod atoch chi a dewis un o’r poteli, yna blasu’r dwr, a dweud rhywbeth wrthych chi am ei flas a’i nodweddion.

    Holwch y myfyrwyr a oedd unrhyw ffordd y gallen nhw fod wedi dweud pa botel oedd â’r dwr pur ynddi, ar wahân i drwy flasu ei chynnwys.

  2. Holwch eto am enghreifftiau o achosion pan fyddwch chi’n methu dweud beth yn union sydd ‘yn y botel’, ac y gallai’n hawdd i chi gamgymryd ei chynnwys am rywbeth arall.

  3. Holwch a yw’r myfyrwyr yn gwybod beth yw swyddogaeth dwr, siwgr a halen yn y broses o’n cadw ni’n iach, (neu efallai ddim mor iach).

  4. Gofynnwch a oes rhywun, ryw dro, wedi yfed diod a oedd yn blasu’n hallt ac yn felys hefyd?

    Dangoswch y pecyn Dioralyte, ac eglurwch ei fod yn cynnwys powdr sy’n gyfuniad o halen a siwgr (Eglurwch mai dwr yw’r sylwedd pwysicaf ar gyfer iechyd y corff dynol. Sgwrsiwch am ba mor beryglus yw diffyg hylif yn y corff, cyflwr sy’n gallu cael ei achosi oherwydd dolur rhydd a chwydu. Yn y 1950au, gwnaed y darganfyddiad bod ychwanegu cymysgedd o siwgr a halen at ddwr, a’i roi i’w yfed i glaf sy’n dioddef yn ddifrifol o ddiffyg hylif yn y corff, yn debygol o’i gadw rhag marw. Mae’r therapi syml a hawdd hwn o roi hylif yn ôl yn y corff (oral rehydration therapy), yn arbed bywydau miliynau o  blant bob blwyddyn yn y byd sy’n datblygu. Yn 1978, mewn erthygl yn y cylchgrawn meddygol Lancet, roedd y therapi’n cael ei ddisgrifio fel ‘potentially the most important medical advance of [the twentieth] century’ - o bosib, ei fod yn un o ddatblygiadau meddygol pwysicaf yr ugeinfed ganrif.)

  5. Diweddwch y gwasanaeth trwy wrando ar ddarlleniad o’r geiriau a ddefnyddiodd Iesu wrth sôn am halen (Mathew 5.13):

    ‘Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw’n dda i ddim bellach ond i’w luchio allan a’i sathru dan draed.’

    Mae halen (ond dim gormod ohono) yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd. Rydym i gyd yn gwybod bod ychydig o halen yn mynd ymhell, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae halen wedi cael ei ddefnyddio hefyd ar hyd yr oesau i breserfio bwyd a gwneud iddo gadw. Roedd Iesu’n cyfeirio at halen craig, a oedd yn cael ei gloddio mewn ardal yn ymyl y Môr Marw. Roedd yr halen hwnnw’n gallu colli ei flas hallt, ac yna roedd yn ddiwerth.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll ac oedwch)

Ydych chi’n rhywun sy’n cyfrannu at iechyd eich cymuned, heddiw?

Meddyliwch amdanoch eich hun fel dwr glân pur, sy’n gallu disychedu pobl sychedig o’ch cwmpas chi.

Beth fyddwch chi heddiw?

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon