Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pris Cyfeillgarwch

Archwilio cost y cyfeillgarwch rhwng Stephen Lawrence a Duwayne Brooks.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio cost y cyfeillgarwch rhwng Stephen Lawrence a Duwayne Brooks.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Ar 22 Ebrill 1993, am 10.35 p.m., roedd dau ddyn ifanc yn aros am fws yn Well Hall Road yn Plumstead, de-ddwyrain Llundain. Ychydig funudau'n ddiweddarach, roedd un ohonyn nhw'n farw, wedi ei drywanu am ddim rheswm mwy na lliw ei groen.

    Y dyn a fu farw oedd Stephen Lawrence, a byddai ei lofruddiaeth erchyll yn cael effaith ddifrifol ar gyfraith a chymdeithas Prydain. Y dyn arall oedd ei ffrind Duwayne Brooks.

    Pan ddigwyddodd yr ymosodiad, doedden nhw ddim yn y man aros am y bws. Roedden nhw wedi cerdded ar hyn y ffordd i weld a oedd bws yn dod. Roedd Stephen ar y blaen i Duwayne. Gwelodd Duwayne grwp o lanciau ar ochr arall y ffordd. Gwaeddodd y llanciau hyn, ‘What, what, nigger’ ac yn sydyn fe groeson nhw'r ffordd.  Cafodd Stephen ei amgylchynu ac ymosodwyd arno. Rhedodd yr ymosodwyr oddi yno ar ôl tua 12 eiliad. Galwodd Duwayne ar Stephen i redeg. Cododd Stephen ar ei draed a rhedodd y ddau ffrind gyda'i gilydd. Ond ar ôl rhedeg 130 llath, fe gwympodd Stephen a gwaedu i farwolaeth o'r ddau archoll yr oedd wedi eu cael. 

    Fe ddywedodd tri o bobl, a oedd yn sefyll yn yr arosfa fysiau, yn eu datganiadau tystiolaeth, bod yr ymosodiad wedi digwydd yn sydyn iawn, ac nad oedden nhw wedi gallu adnabod y llofruddion. Brooks oedd yr unig dyst i'r drosedd, a chymerodd ran yn rheng adnabod yr achos gwreiddiol yn erbyn y cyhuddwyr. Er hynny, bu raid iddo hefyd ddelio ag effeithiau seicolegol dychrynllyd y noswaith honno. Mae gweld ymosodiad ar ffrind a methu ag atal hynny, na helpu, yn dod â baich trwm gydag ef. 

  2. Yn dilyn y llofruddiaeth, roedd y prif rai a ddrwgdybid, wedi cael eu hadnabod o fewn tridiau, ond aeth pythefnos heibio cyn i neb gael ei arestio - yr eglurhad a roddwyd oedd nad digon o dystiolaeth gan yr heddlu i arestio neb. Fodd bynnag, mae'n rhan sylfaenol o gyfraith Prydain dim ond amheuaeth resymol sydd ei angen ac nid tystiolaeth. Mae angen tystiolaeth i wneud cyhuddiad, ond nid i wneud arést.

    Aeth yr anallu i gyhuddo ymlaen tan 2012, pan gafodd dau ddyn eu dyfarnu'n euog o lofruddiaeth Stephen Lawrence. Credir bod chwech o ddynion wedi cyflawni'r drosedd.

  3. Mewn cyfweliad gyda'r BBC fe ddywedodd Duwayne Brooks fod y 18 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn werth yr aros.  Ac yr oedd y deunaw mlynedd ddiweddar wedi bod yn galed.

    Fe ddioddefodd Brooks anhwylder straen ôl-drawmatig a gorfodwyd ef i fyw mewn ty diogel oherwydd ei gysylltiad â'r drosedd a'i statws fel yr unig dyst. 

    Mae'n anodd dychmygu pa mor anodd y gall fod i weld eich ffrind yn marw a gweld ei lofruddion yn cael cerdded yn rhydd am 18 mlynedd. Eto i gyd, mae'n bwysig i beidio â chael eich caethiwo gan y gorffennol, er mor drist ydyw, ond edrych tuag at y dyfodol.

  4. Cafodd Brooks ei ethol yn aelod o gyngor Lewisham yn 2009. Ardal amlddiwylliannol ac amrywiol yw Lewisham gydag anghyfartaledd incwm mawr. Mae hyn yn draddodiadol wedi bod yn rysáit ar gyfer rhaniadau cymdeithasol ond heddiw, diolch byth, mae hiliaeth yn llai derbyniol na'r hyn fyddai. 

    Mae Brooks wedi llwyddo i sicrhau cydlyniad cymdeithasol yn ardal Lewisham.

  5. Yn hytrach na chael ei adnabod trwy'r digwyddiadau trist y gorffennol, mae'n bwysig i rywun fel Brooks ddefnyddio'r digwyddiadau i greu dyfodol mwy positif. Nid oes raid i chi golli ffrind i allu derbyn y neges hon.

Amser i feddwl

Ychydig ohonom sydd wedi gweld ffrind yn marw, llai byth o dan amgylchiadau mor erchyll. Mae'n werth meddwl am y trawma a brofodd Duwayne Brooks a'r blynyddoedd a dreuliodd fel yr unig dyst, yn cofio am farwolaeth ei ffrind. 

Mae marwolaeth bob amser yn gwneud i ni holi'r cwestiynau mawr pwysig.  Fe ofynnwn: ‘Beth yn ychwanegol allwn i fod wedi ei wneud?’ Ac i Duwayne, mae'n rhaid bod y cwestiwn hwnnw wedi bod yn un anodd iddo fyw gydag ef.

Nawr, treuliwch ychydig funudau yn meddwl am y modd y mae Mr Brooks wedi cymryd y profiad hwn ac wedi adeiladu arno i weithio er lles ei gymuned. Mae'n awr yn gwasanaethu fel cynghorydd, yn cynrychioli ei gymuned ac yn gweithio i wella bywydau pobl Lewisham.

Gweddi

Efallai yr hoffech chi ddefnyddio'r geiriau hyn fel gweddi:


Boed i mi gymryd y pethau drwg sy'n digwydd i mi

a gweithio i ofalu nad yw pethau fel hynny'n digwydd i eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon