Roedd Marley Wedi Mawr
Gwasanaeth yn ymwneud â dau ganmlwyddiant geni Charles Dickens
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried perthnasedd y stori, A Christmas Carol gan Charles Dickens, i ni heddiw.
Paratoad a Deunyddiau
Trefnwch i arddangos y clip fideo o’r ffilm The Muppet Christmas Carol sydd i’w gael ar www.youtube.com/watch?v=KBthi_An5qQ (gwiriwch yr hawlfraint).
Gwasanaeth
- ‘Marley was dead: to begin with’ - yw un o'r brawddegau agoriadol mwyaf enwog sy'n bod. Dyma sut y mae Charles Dickens yn agor un o'i lyfrau mwyaf enwog, A Christmas Carol. Cafodd y llyfr hwn ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 1843 ac, fel pob un arall o lyfrau Dickens, nid yn unig y mae'n stori wych, mae cymaint yn cael ei ddatgelu yn y stori am amgylchfyd cymdeithasol y cyfnod dan sylw ganddo.
- Ond beth all y llyfr hwn, a gafodd ei ysgrifennu dros 200 mlwyddyn yn ôl, ei ddweud wrthym ni y dyddiau hyn? Wel, tipyn go lew, mewn gwirionedd, oherwydd, fel y gwelwch, nid oes dim yn newydd yn y byd.
Yn gyntaf, fodd bynnag, fe ddylen ni gyfarfod a phrif gymeriad y stori, Ebenezer Scrooge, cybudd o'r iawn ryw, a oedd yn cael ei gasáu gan bawb, ac mae ei eiriau enwog,‘Bah! Humbug!’ yn cael eu dyfynnu'n aml.
(Chwaraewch y clip o’r ffilm The Muppet Christmas Carol.)
Daw'r clip hwn o fersiwn y Muppets o'r stori A Christmas Carol, ac mae sawl fersiwn arall ar gael.
Byrdwn y stori hon yw'r newid sy'n digwydd oddi mewn i Scrooge ei hun. Mae'n newid o fod yn gybydd i fod yn rhywun sy'n sylweddoli nid yn unig y bydd y gweithredoedd y mae'n ei wneud mewn bywyd yn cael effaith arno yn ei farwolaeth, ond bod yn ofynnol iddo hefyd roi llawer o gariad i eraill er mwyn iddo dderbyn cariad gan bobl eraill a chael ei hoffi ganddyn nhw. - Mae'r stori yn dechrau Noswyl y Nadolig. Y noswaith honno, ac yn ddiweddarach yn ystod y nos, mae pedwar ysbryd yn ymweld â Scrooge.
Yr ysbryd cyntaf yw Marley, ei hen gydymaith busnes, sy’n ei rybuddio o'r hyn sydd yn mynd i ddigwydd iddo yn y byd a ddaw. Tynged Marley ei hun yw crwydro o gwmpas y byd yn dragwyddol, yn cario cadwyn drom, hir, swnllyd, sydd wedi ei chlymu amdano. Roedd y gadwyn wedi cael ei llunio gan ei weithredoedd yn y bywyd hwn. Mae Marley yn rhybuddio Scrooge fod ganddo ef hefyd gadwyn, 'cadwyn drom', yn hirach ac yn drymach hyd yn oed na'r un oedd gan Marley. Mae Marley yn dweud wrth Scrooge bod ganddo un gobaith o ddianc rhag ei dynged ofnadwy, ac y byddai hynny'n digwydd trwy ymweliad tri ysbryd.
(Nid yw'r ffaith bod Scrooge yn mynd i ddioddef yn y byd a ddaw, oherwydd ei fethiant i fod yn haelionus a charedig yn y bywyd hwn, yn annhebyg i'r syniad o farn sydd ynghlwm wrth Gristnogaeth; nac yn annhebyg ychwaith i Karma, sef dysgeidiaeth Bwdhaeth a Hindw sy'n datgan, y byddwch yn medi'r hyn y byddwch yn ei hau.)
Yn ddiweddarach y noson honno, pan mae cloch yr eglwys yn taro un o’r gloch y bore, mae Ysbryd y Nadolig a Fu yn ymweld â Scrooge. Mae wedyn yn cael ymweliad gan Ysbryd Nadolig y Presennol, a hynny’n cael ei ddilyn gan Ysbryd y Nadolig Sydd Eto i Ddod.
Fe ddangosodd Ysbryd y Nadolig a Fu elfennau o'i fywyd i Scrooge, elfennau sydd wedi ei wneud fel ag y mae. Fe welwn fod Scrooge yn blentyn unig, a anfonwyd i ffwrdd o'i gartref gan na fedrai ei dad ddioddef edrych arno yn dilyn marwolaeth ei fam. Mae hyn yn dangos i ni y gallwn fod yn gynnyrch ein profiadau.
Mae Ysbryd Nadolig y Presennol yn dangos y gellir dathlu'r Nadolig gyda chariad a llawenydd hyd yn oed yn y lleoedd tlotaf. Mae'r ysbryd yn mynd â Scrooge i gartref Bob Cratchit, gweithiwr cyflogedig sathredig i dan sawdl Scrooge. Roedd Bob Cratchit, ei wraig a'i blant yn dlawd iawn, oherwydd bod Scrooge yn talu cyflog pitw i Bob, ond ar Ddydd Nadolig maen nhw'n gwneud y gorau o'r ychydig sydd ganddyn nhw, hyd yn oed yn codi eu gwydrau i gyfarch ‘Mr Scrooge, Sylfaenydd yr Wyl’.
Tiny Tim, un o'r plant, yw'r cyfrwng sy'n cael ei ddefnyddio gan yr ysbryd i ddangos i Scrooge pa fodd mae ei ymddygiad cybyddlyd yn cael effaith ar bobl eraill. Bachgen bach yw Tim sydd yn wael, ac mae’n methu cerdded. Heb y gofal meddygol cywir, a bwyd maethlon, fe fydd Tim yn marw.
“Spirit,” meddai Scrooge . . . “tell me if Tiny Tim will live.”
“I see a vacant seat,” atebodd yr ysbryd ... . “and a crutch without an owner ... If these shadows remain unaltered by the Future, the child will die.”
Yna, mae'r ysbryd yn taflu'n ôl at Scrooge rhai geiriau yr oedd Scrooge wedi eu llefaru'n gynharach: “‘If he be like to die, he had better do it, and decrease the surplus population.”’
Pan welodd Scrooge pa mor ddideimlad yr oedd wedi bod, mae'n teimlo'n edifar iawn.
Mae Ysbryd y Nadolig i Ddod yn dangos y dyfodol i Scrooge. Bydd Tiny Tim yn marw, a bydd Scrooge ei hun hefyd yn marw. Ond tra bydd llawer yn galaru dros Tiny Tim, ni fydd neb yn galaru dros Scrooge, a bydd rhai'n siarad amdano fel pe byddai'n neb o bwys.
Mae Scrooge yn sylweddoli os yw am osgoi'r ffawd sydd wedi dod i ran Marley, ac os yw Tiny Tim i gael byw, mae'n rhaid iddo newid ei ffordd. Mae'n ymbil gyda'r Ysbryd i roi ail gyfle iddo. Mae'n addo y bydd yn anrhydeddu'r Nadolig yn ei galon a'i gadw ar hyd y flwyddyn.
Mae Scrooge wedyn yn deffro i ddarganfod ei bod hi’n fore Nadolig. Mae'n llawn o lawenydd y Nadolig. Mae'n prynu'r aderyn mwyaf yn siop y cigydd ac yn ei anfon i gartref y teulu Cratchit. Yn lle cwyno, ‘Bah! Humbug!’ ac achwyn mai rhywbeth i ffyliaid yw'r Nadolig, mae'n bloeddio 'Nadolig Llawen' ar bawb y mae'n ei weld. - Mae'r dröedigaeth hon yn brofiad ar raddfa o gyfartaledd enfawr. Fe lwyddodd Scrooge i ddianc rhag y dynged y rhybuddiodd Marley ef amdani, ac mae wedi profi gwaredigaeth.
Yr hyn sydd yn bwysig yw nid yn unig bod trawsnewid mawr yng nghymeriad yr hen ddyn cybyddlyd hwn, ond y ffaith ei fod ef ei hun yn deall bod ei weithredoedd yn mynd i gael effaith ar yr hyn all ddigwydd iddo. Mae'n penderfynu bod yn dda wrth ei gymheiriaid trwy gydol y flwyddyn. Dyna'r neges y gallwn i gyd gydio ynddi yn awr ar gyfer y dyfodol, neu ochel rhag cael ymweliad gan dri ysbryd pan fydd y cloc yn taro un!
Amser i feddwl
Chwaraewch y clip unwaith yn rhagor a gofynnwch i'r plant i feddwl am yr hyn y byddai'r Muppets yn debygol o’i ganu am bob un ohonom ni yn y dyfodol – a fyddai hynny'n dda, neu'n ddrwg?
Sut mae modd i ni adeiladu ar y da sydd yn ein bywydau?
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.