Disgwyliwch Yr Annisgwyl!
Dangos bod Duw’n addo bod gyda ni bob amser. Fe ddaw hapusrwydd mewn ffordd annisgwyl ambell dro.
gan Lee Jennings
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Dangos bod Duw’n addo bod gyda ni bob amser. Fe ddaw hapusrwydd mewn ffordd annisgwyl ambell dro. Disgwyliwch yr annisgwyl.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch nifer o anrhegion sy’n cynnwys eitemau na fyddai pobl yn disgwyl eu cael ynddyn nhw (e.e. anrhegion mawr crand wedi’u lapio’n wych, ond gyda rhywbeth bach dibwys iawn oddi mewn iddyn nhw, a fyddai’n debygol o achosi siomiant).
- Paratowch un anrheg arall mewn bocs blêr heb fod yn edrych yn ddeniadol mewn unrhyw ffordd, ond gydag arian neu rywbeth gwerthfawr oddi mewn iddo.
Gwasanaeth
- Gwahoddwch nifer o wirfoddolwyr i ddod atoch chi i’r tu blaen, a gofynnwch iddyn nhw ddewis anrheg i’w agor. Cyn iddyn nhw agor y parsel fesul un, gofynnwch iddyn nhw yn eu tro pam eu bod wedi dewis yr anrheg benodol honno.
- Yna, un ar y tro, rhowch gyfle iddyn nhw agor yr anrhegion, gan ofyn iddyn nhw wedyn sut roedden nhw’n teimlo wedi iddyn nhw agor yr anrheg. Mae’n debyg y bydd pob un yn dweud eu bod wedi cael rhywfaint o siom. (Neu efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n teimlo’n ddig wrthych chi am chwarae tric â nhw!)
Yn olaf, rhowch gyfle i’r un sydd wedi cael y bocs blêr, diaddurn, agor ei anrheg. Holwch yr un hwnnw sut roedd yn teimlo, a oedd ef neu hi wedi cael ei siomi o’r ochr orau?
Diolchwch i’r gwirfoddolwyr am eu help. - Un diwrnod, roedd Iesu yn mynd i ddinas Jerwsalem, ac roedd yn marchogaeth ar gefn ebol asyn. Roedd y bobl yn llawn cyffro am fod Iesu’n dod yno. Fe aethon nhw allan i’r strydoedd i’w gyfarfod, ac roedden nhw’n chwifio dail palmwydd wrth ei groesawu.
Yr unig broblem oedd, roedd yr Iddewon yn disgwyl brenin a fyddai’n dod i’w rhyddhau o afael llywodraeth y Rhufeiniaid. A doedden nhw ddim yn meddwl fod Iesu yn edrych fel yr un a fyddai’n gallu gwneud hynny. Ac am y rheswm hwnnw, doedden nhw ddim yn meddwl ei fod yn dweud y gwir, ac fe aeth rhai o’r bobl ag Iesu i’r llys o flaen barnwr. Roddwyd ef ar brawf, a’r ddedfryd oedd cael ei ladd trwy gael ei groeshoelio. Roedden nhw’n disgwyl rhywbeth neilltuol, ac roedden nhw wedi cael eu siomi gyda’r hyn gawson nhw.
Ond, fe ddaeth Iesu’n fyw eto, ac roedd hynny’n fwy o syndod i’w ffrindiau nag i’w elynion hyd yn oed. Cafodd eu tristwch ei droi’n llawenydd. - Fe wnaeth Duw i Iesu godi o farw’n fyw, a dyma’r hyn fyddwn ni’n ei gofio ar adeg y Pasg. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu’n dal i fod yn fyw, ac yn parhau i ofalu amdanom. Yn hytrach na bod yn siomedig, fe allwn ni fod yn wirioneddol hapus bod Iesu yn ein caru ac yn gofalu amdanom, bob un ohonom.
- Weithiau, yn ein bywydau, fyddwn ni ddim yn cael y pethau y byddwn ni’n disgwyl eu cael. Weithiau, fe fydd pobl yn ein siomi ni, ac weithiau fe allwn ni feddwl bod Duw wedi ein siomi ni. Ond mae Duw yn addo na wnaiff ein gadael ni, byth.
Pan ddaeth Iesu’n fyw eilwaith, fe ddywedodd y byddai’n anfon ei Ysbryd Glân i fod gyda ni, ac i’n helpu, fel ei fod yn gallu bod gyda ni bob amser. Dyma beth mae Cristnogion yn cofio amdano ar Wyl y Pentecost: Iesu’n anfon ei Ysbryd Glân i fod yn gymorth i Gristnogion ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Amser i feddwl
Roedd gwraig yn byw yn Norwich ganrifoedd yn ôl wedi dweud bod Duw wedi rhoi gweledigaeth iddi. Ac yn ei gweledigaeth roedd hi’n dal rhywbeth bach ar gledr ei llaw, rhywbeth bach fel cneuen. Pan ofynnodd hi i Dduw beth oedd y peth hwnnw oedd yn ei llaw, yr ateb gafodd hi oedd popeth oedd erioed wedi cael ei wneud. Pan ofynnodd hi i Dduw am y tristwch oedd ym mywydau pobl y byd, fe atebodd trwy ddweud y byddai popeth yn dda, a dyma’r frawddeg a ddyfynnodd y wraig: ‘All will be well, and all will be well, and all manner of things shall be well.’
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi addo bod gyda ni bob amser.
Diolch dy fod ti wedi addo y bydd popeth yn dda.
Helpa fi i gofio hynny, waeth beth fydd yn digwydd.