Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Sy'n Glasur?

Dangos y neges ddiamser sydd yng ngwaith Charles Dickens.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos y neges ddiamser sydd yng ngwaith Charles Dickens.

Paratoad a Deunyddiau

  • Meini prawf llenyddiaeth glasurol oddi ar y wefan, classiclit.about.com
  • Mae’r wybodaeth gefndirol wedi’i chymryd o erthygl gan Carol Lee yn y papur newydd, The Times, 10 Mehefin 2006.

Gwasanaeth

  1. Holwch beth sy’n gwneud llyfr yn glasur?

    Eleni, rydyn ni’n dathlu dau ganmlwyddiant geni Charles Dickens. Ar y pryd, ychydig a feddyliai Charles Dickens y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn cyfeirio at ei lyfrau fel ‘clasuron’.

  2. Un diffiniad o ‘glasur’ yw hwn: The book must have universal appeal. The themes must be understood by readers from a wide range of backgrounds. Rhaid i’r llyfr apelio at bobl yn gyffredinol. Rhaid i’r themâu fod yn ddealladwy i ddarllenwyr o amrywiaeth eang o wahanol gefndiroedd.

    Gwrandewch ar yr hanesyn hwn sy’n ymwneud â’r nofel Oliver Twist, gan Charles Dickens, a’r effaith a gafodd y nofel ar bobl dduon yn Ne Affrica yn yr 1970au. Barnwch chi a fyddech chi’n cytuno, yn ôl y diffiniad uchod, bod Oliver Twist yn glasur.

  3. Yn 1976, bu plant croenddu yn protestio ar y strydoedd yn Soweto, tref yn Ne Affrica, ynghylch yr addysg a oedd i’w chael dan y gyfundrefn apartheid yn y wlad honno ar y pryd.

    Dywedwyd wrth y bobl dduon, a oedd eisoes wedi dioddef sarhad enbyd a chael eu cadw ar wahân yn unol â’r gyfundrefn apartheid, y byddai’r gwersi yn yr ysgolion yn cael eu dysgu trwy gyfrwng yr iaith Afrikaan o hynny ymlaen, iaith debyg i Iseldireg a oedd yn cael ei defnyddio gan rai o’r llywodraethwyr gwyn yno. Roedd hon yn ergyd drom arall i lawer o bobl dduon De Affrica, a hwythau eisoes wedi dioddef mwy na’u siâr o sarhad a chael eu gwneud i deimlo’n hollol israddol oherwydd lliw eu croen. Roedden nhw’n meddwl y byddai’r gorchymyn hwn yn eu hamddifadu o’r unig beth oedd ganddyn nhw ar ôl o’u rhyddid, sef y rhyddid i ddefnyddio eu meddwl a’u hiaith eu hunain.

    Roedd llawer o lyfrau wedi cael eu gwahardd dan y system apartheid, ond am ryw reswm doedd clasuron llenyddiaeth Saesneg ddim wedi cael eu gwahardd, ac roedd y disgyblon yn darllen y rhain yn awchus yn yr ysgolion.

    Yn y nofel, Oliver Twist, gan Charles Dickens, roedd y disgyblion yn gallu darllen am fachgen bach bregus, ond dewr iawn, o’r enw Oliver. Dyma fachgen amddifad a oedd yn cael ei drin yn greulon mewn wyrcws, ac a gafodd ei hun wedyn yng nghwmni drwg lladron. Roedd Oliver yn gwybod yn iawn beth oedd unigrwydd ac eisiau bwyd, ac fe gafodd fai ar gam am drosedd nad oedd wedi ei chyflawni.

    Roedd y disgyblion yn Soweto yn gweld eu hunain yn debyg i’r bachgen hwn, Oliver. Roedden nhw’n rhyfeddu wrth sylweddoli bod plant yn Lloegr hefyd wedi cael eu gorthrymu. Ac roedden nhw’n rhyfeddu nad oedd y llyfrau hyn wedi cael eu gwahardd yn eu hysgol a’u hardal! Fe roddodd y llyfr ddewrder arbennig iddyn nhw allu gwrthsefyll y system apartheid.

    Mewn parseli elusen y daeth y llyfrau i Soweto. Fe fyddai’r bobl ifanc yn dod at ei gilydd mewn cartrefi ac yn darllen yng ngolau cannwyll gan basio’r llyfrau oddi amgylch mewn cylch gan ddarllen yn eu tro. Mewn un ysgol, roedd 1,500 o ddisgyblion, a doedd dim ond tri chopi o’r llyfr Oliver Twist. Roedd llawer o’r disgyblion yn gorfod aros am fisoedd cyn cael tro i ddarllen y llyfr.

    Yng ngholeg Lovedale, un o brif golegau’r wlad i fyfyrwyr duon, fe ddilynodd y myfyrwyr esiampl Oliver a gofyn am ‘fwy’, ac fe wnaethon nhw ofyn am fwy o fwyd, mwy o wersi, a mwy o lyfrau a llyfrau gwell.

    Cyhuddwyd y myfyrwyr o drais cyhoeddus! Cafodd rhai eu diarddel a rhai eu carcharu hyd yn oed o ganlyniad i’r gweithredu. Ond roedd y nofel Oliver Twist a llyfrau tebyg yn parhau i roi cysur iddyn nhw. Oni dyna’r union beth yr oedd Oliver hefyd wedi gofod ei ddioddef dan law Mrs Sowerberry a Fagin? Roedd Charles Dickens yn deall yn union beth oedd eu cyflwr. Roedd Dickens ar eu hochr.

    Erbyn y flwyddyn ganlynol rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r iaith Afrikaan yn y dosbarthiadau, doedd pethau ddim yn gweithio. Ond roedd wedi costio’n ddrud i gael gwared â hi - roedd sawl un wedi talu’r pris gyda’i fywyd.

    Roedd yr un awdur arbennig hwn, Charles Dickens, a oedd wedi marw fwy na chan mlynedd ynghynt, wedi bod yn ysbrydoliaeth i filoedd o blant ysgol ac, yn achos plant Soweto, wedi eu dysgu bod dioddefaint yr un fath ym mhob man.

  4. Beth oedd y thema a fu’n gymaint o ysbrydoliaeth i’r plant duon yn Soweto dri deg o flynyddoedd yn ôl, rhywbeth yr oedden nhw’n barod i farw er ei fwyn?

    Fyddech chi’n cytuno bod y nofel Oliver Twist yn glasur?

Amser i feddwl

Arwydd bod awdur yn awdur arbennig yw bod ei themâu yn cyffwrdd bywydau llawer o bobl, mewn llawer lle, ac ar lawer o wahanol adegau.

Ydych chi, ryw dro, wedi darllen llyfr sydd wedi siarad â chi mewn ffordd neilltuol? Meddyliwch am sôn wrth eich ffrindiau am y llyfr arbennig hwnnw. Mae’n bosib y gall y llyfr siarad â nhw hefyd, yn yr un ffordd.

Gweddi

Dduw Hollalluog,

diolch bod grym geiriau’n gallu ein hysbrydoli,

ac yn gallu datgelu’r gwirionedd, a dod â dewrder a chysur i ni.

Diolch i ti am y ddawn o allu ysgrifennu.

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth, ‘Swing low, sweet chariot’ gan Paul Simon (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y we).

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon