Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Lafur Rhyngwladol

gan Claire Rose

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried beth oedd tarddiad yr Wyl Lafur.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Ar 1 Mai, bydd dros 80 o wledydd yn dathlu gwyl genedlaethol - Gwyl Fai, neu Wyl Lafur. Yn aml, ar Wyl Fai yn y D.U. (sydd eleni ar ddydd Llun 7 Mai), byddwn yn mwynhau'r dyddiau cynnes cyntaf yr haf, cael picnic yn y parc, ymweld â ffrindiau, neu hyd yn oed fynd i lan y môr.

    Ond pam y mae'r wyl hon yn bodoli? Beth yw ystyr ‘gwyl lafur’, a pham y mae’r diwrnod yn wyl y banc ac yn ddiwrnod o wyliau?

  2. Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe symudodd niferoedd enfawr o bobl o gefn gwlad, lle'r oedd llawer ohonyn nhw'n gweithio ar ffermydd, neu'n berchnogion tir eu hunain. Fe aethon nhw i'r dinasoedd, a dod o hyd i waith gwahanol.  Roedden nhw'n gweithio yn y ffatrïoedd newydd a oedd yn cael eu sefydlu ar draws y wlad, yn enwedig yn ninasoedd diwydiannol y gogledd a'r Canolbarth, dinasoedd fel Manceinion a Birmingham.

    Yn ystod y cyfnod hwn roedd llai o gyfreithiau i amddiffyn y gweithwyr yma, neu'r 'llafurwyr', ac roedd llawer ohonyn nhw yn gweithio oriau maith, chwe diwrnod yr wythnos, am gyflog isel iawn. Wrth wynebu'r amodau llym yma, fe ddechreuodd y gweithwyr drefnu eu hunain mewn grwpiau, neu undebau, fel eu bod yn gallu ymgyrchu gyda'i gilydd i sicrhau gwell amodau gwaith.

    Ym myd gwaith, erbyn hyn, o ganlyniad i ymgyrchoedd fel y rhain mae gennym benwythnos dros ddeuddydd, diwrnod gwaith wyth awr, gwyliau gyda chyflog a chyfnodau mamolaeth a thadolaeth. Ond nid peth hawdd oedd cyflawni'r newidiadau hyn, ac roedd gweithwyr yn aml yn troi at wrthdystiadau a hyd yn oed streiciau i leisio'u cwynion a sicrhau newid. 

  3. Fe ddigwyddodd gwrthdystiad gan weithwyr yn Chicago ar ddydd Mawrth, 4 Mai 1886, i gefnogi streicwyr oedd yn galw am ddydd gwaith wyth awr (nid oedd cyfyngiad ar oriau gwaith yn Unol Daleithiau America yr adeg honno). Ond aeth pethau o chwith yn ddifrifol. Taflodd rhywun anhysbys fom dynameit at yr heddlu oedd yn sefyll gerllaw. Yn yr anrhefn fe daniodd yr heddlu yn ôl at y dyrfa o wrthdystwyr, a lladdwyd wyth plismon a nifer anhysbys o'r gwrthdystwyr. 

    Caiff digwyddiad y diwrnod trist hwnnw ei gofio fel Terfysg Haymarket, am ei fod wedi digwydd yn Sgwâr Haymarket, ac fe adawodd y digwyddiad y mudiad llafur a'r undebau yn yr UDA yn ansicr ynghylch sut i ymateb a symud ymlaen â'u hymgyrchoedd.

    Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe drefnodd undebau Americanaidd wrthdystiad ar 1 Mai i gofio am y rhai gafodd eu lladd yn Nherfysg Haymarket, a dechrau eu hymgyrch am gael diwrnod gwaith wyth awr. Fe wnaethon nhw wahodd mudiadau llafur dros y byd i'w cefnogi.

    Bu'r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda gweithwyr yn cerdded gyda'i gilydd yn America, Ewrop a chyn belled â Chile a Chuba.

    Yn 1891 cafodd y diwrnod hwn ei alw yn Wyl Lafur, a chafodd ei fabwysiadu yn ddigwyddiad blynyddol byd-eang.

  4. Ers hynny, mae 1 Mai wedi bod yn bwynt ffocal allweddol i wrthdystwyr, yn neilltuol i fudiadau adain-chwith fel sosialaeth a chomiwnyddiaeth. Yn aml, mewn gwledydd comiwnyddol fel Tsieina a Rwsia, fe geir gorymdeithiau milwrol ar Galan Mai.   

    Yn y D.U. rydym wedi gweld gwrthdystwyr gwrth-gyfalafiaeth yn dod allan i’r strydoedd yn y dinasoedd mawrion, ac yn ddiweddar o ganlyniad fe welsom gerflun o Winston Churchill yn cael ei addurno gyda chynllun gwallt Mohawk o wair.

  5. Yn yr Ynysoedd Prydeinig mae'r diwrnod cyntaf o Fai, ers amser maith,  wedi cael ei ystyried fel diwrnod cyntaf yr haf.  Am ganrifoedd, ymhell cyn chwyldro diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu traddodiad ar Galan Mai i ddathlu dyfodiad yr haf – traddodiad o ddawnsio o amgylch y Fedwen Fai a llawenhau.

    Ni chollwyd yr hen draddodiadau cefn gwlad: maen nhw'n parhau i ddigwydd mewn sawl rhan o'r D.U. Gydag ychwanegiad o ddathliad Gwyl Lafur, mae dydd Gwyl Fai yn dod yn fwy cynhwysol.

  6. Mae Gwyl Lafur yn bodoli i'n hatgoffa o ymdrech gweithwyr dros y 150 mlynedd diwethaf i sicrhau amodau gwaith da a hawliau sydd ar gael i ni heddiw. Mae Gwyl Fai yn wyl bwysig ac unigryw yng nghalendr y DU.

Amser i feddwl

Dychmygwch ysgol heb gyfnodau o egwyl nag egwyl ginio.

Dychmygwch weithio mewn ffatri am hyd at ddeuddeg awr, gyda dim ond egwyl i fynd i'r toiled, a'r rheini hyd yn oed yn cael eu goruchwylio!  Dychmygwch fod heb benwythnosau'n rhydd.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

rydym yn ddiolchgar i'r rhai a enillodd i ni hawl i gydbwysedd yn ein bywyd gwaith

sy'n golygu y gallwn flodeuo fel unigolion.

Boed i ni fod yn ddiolchgar am wyliau

a chofio nad oedden nhw ar gael bob amser i bawb.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon