Hyn Yw Fy Hawl
Datganiad byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Archwilio ein rhagdybiaeth o hawliau dynol, a gweld nad yw hynny’n digwydd yn fyd-eang.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi lwytho i lawr luniau o brotestiadau oddi ar wefan newyddion.
- Fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘They dance alone’ gan Sting wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth. Mae’r trac yma’n cyfeirio at y rhai a aeth ar goll yng ngwlad Chile yn ystod llywodraethiad Pinochet.
Gwasanaeth
- Ar 10 Rhagfyr 1948, arwyddwyd dogfen gan aelodau sefydliad cymharol newydd bryd hynny, sef y Cenhedloedd Unedig. Roedd y ddogfen hon yn datgan ei bod yn mynd i siarad ar ran yr holl ddynoliaeth, ac roedd yn cadarnhau hawliau parhaol unigolion.
Doedd y syniad yma o hawliau dynol ddim yn syniad newydd ychwaith. Roedd gan nifer o genhedloedd, gyda Phrydain, Ffrainc ac Unol Daleithiau America yn eu mysg, gyfreithiau eisoes yn diffinio hawliau eu dinasyddion. Ond doedd gan sefydliad y Cenhedloedd Unedig, a oedd wedi ei sefydlu dair blynedd ynghynt ddim datganiad o’r fath. - Sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig ar ôl cyflafan fawr yr Ail Ryfel Byd, gyda’r prif nod o sicrhau na allai gwrthdaro o’r fath byth ddigwydd eto. Cyfeiriai siarter y Cenhedloedd Unedig, dogfen sylfaenol y sefydliad, at hawliau dinasyddion ond heb ddiffinio’n hollol beth oedd yr hawliau hyn. Felly, fe benderfynwyd bod angen datganiad cyffredinol o hawliau unigol.
- Mae’r datganiad gorffenedig ar hawliau dynol yn cynnwys 30 o Erthyglau sy’n sail i’r holl gyfraith ryngwladol.
Mae Erthygl 1 yn nodi bod pob unigolyn yn cael ei eni’n rhydd ac yn gyfartal o ran parch a hawliau – ‘All human beings are born free and equal in dignity and rights. They are endowed with reason and conscience and should act towards one another in a spirit of brotherhood’ has become almost universally accepted with little dissent.’ Ac mae’r erthygl yma wedi’i derbyn yn fyd-eang fwy neu lai heb fawr o anghytuno. Mae erthyglau eraill yn cadw hawliau dinasyddion i beidio â chael eu haflonyddu gan y wladwriaeth, i gael bywyd preifat, i beidio â chael eu cadw’n gaethweision, ac i gael hawl i fod yn berchen eiddo. Mae’r hawl i gael addysg, tâl cyfartal am waith cyfartal, a lloches, hefyd yn cael eu gwarantu gan y Datganiad. - Pan gyflwynwyd y Datganiad i’r General Assembly, sef prif senedd y Cenhedloedd Unedig, a’r unig un lle mae pob aelod-wladwriaeth â phwysau cyfartal, fe’i cadarnhawyd gyda 48 o blaid, a dim un yn erbyn; roedd wyth ymataliad (yr Undeb Sofietaidd a’i chynghreiriau, De Affrica a Saudi Arabia). Felly, fe ddaeth yn bolisi gan y Cenhedloedd Unedig i ddilyn yr hawliau a nodir yn y Datganiad.
- Er gwaethaf hyn, mae’n amlwg, 60 mlynedd yn ddiweddarach, bod hawliau dynol cyffredinol ymhell o fod yn weithredol. Mae Unbenaethau yn parhau i ormesu dinasyddion mewn rhai gwledydd, ac mae cenhedloedd fel China, Iran a Gogledd Korea yn parhau i gyflawni camdriniaeth ar raddfa fawr. Mae hyd yn oed rhai o’r gwledydd sydd wedi ymrwymo â’r Datganiad, fel Unol Daleithiau America a Phrydain wedi dechrau cymylu’r ffiniau. Er enghraifft, mae Erthygl 11 yn nodi na fydd unrhyw un yn gorfod wynebu arestiad, carchariad neu alltudiaeth fympwyol - ‘No one shall be subjected to arbitrary arrest, detention or exile.’ Mae hyn yn cael ei wyrdroi yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth.
Ar ben hyn, nid yw’r Erthygl hon yn gosod amodau cyfreithiol, nac yn un hawdd ei gweithredu.
Mae ymgais i gyflwyno hawliau dynol yn Irac ac Afghanistan wedi codi gwrthwynebiad oddi wrth gymunedau lleol a rhyngwladol. Ac mae’n ymddangos fel petai yna rywfaint o anghytuno rhwng safiad heddychol y Cenhedloedd Unedig a’u hymrwymiad i hawliau’r rhai sy’n cael eu gormesu. - Mae rhai wedi beirniadu’r Datganiad am ei fod yn coleddu diwylliant a gwerthoedd y gorllewin, sy’n methu cymryd i ystyriaeth y gwahaniaeth diwylliannol sydd rhwng gwledydd, ac yn lle hynny yn cymryd yn ganiataol mai gwerthoedd Ewrop ac America a ddylai fod yn werthoedd gweddill y byd. Os yw hynny’n wir, yna mae’r syniad o hawliau dynol cyffredinol wedi methu ac ni fydden nhw wedi gallu llwyddo byth.
Mae’r cwestiwn yma o wrthdaro rhwng gwareiddiadau yn un o faterion diffinio’r oes fodern, ac yn un sy’n annhebygol o gael ei ddatrys yn fuan. Mae’n anodd disgrifio gormes fel gwahaniaeth diwylliannol. Ar y llaw arall, mae’n bosib ystyried gwerthoedd y gorllewin fel arfau gormes a gwladychiaeth. - Hyd yn hyn, does neb eto wedi dod o hyd i ateb boddhaol i ddatrys y broblem hon, ac felly'r peth gorau i’w wneud yw penderfynu beth yw eich barn bersonol chi.
Amser i feddwl
Rydym yn cymryd ein hawliau mor ganiataol:
- yr hawl i godi ein llais yn erbyn ein llywodraeth.
- yr hawl i ymarfer ein crefydd.
- yr hawl i fyw heb ymyrraeth oddi wrth y wladwriaeth.
- yr hawl i addysg.
-yr hawl i bleidleisio ar gyfer ein llywodraeth.
Pa hawliau eraill sydd gennym yn ein bywydau, yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol o ddydd i ddydd?
(Derbyniwch rai awgrymiadau gan gadarnhau’r hawliau rheini.)
Gweddi
Treuliwch foment mewn distawrwydd yn meddwl am sut byddai ein bywydau pe byddai dim ond un o’r hawliau hynny’n cael eu cymryd oddi arnom ni.
(Saib)
Annwyl Dduw,
Rydym yn diolch am bawb sy’n gweithio i gynnal a chynyddu hawliau dynol ledled y byd.
Helpa fi i beidio byth â chymryd ein hawliau’n ganiataol, ac i weithio er mwyn cynnal a chynyddu’r hawliau dynol rheini er mwyn eraill.