Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anadlwch Anadl Ddofn

Ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân, gwasanaeth ar gyfer y Pentecost

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Cyflwyno’r athrawiaeth Gristnogol i’r myfyrwyr, sef bod yr Ysbryd Glân yn ganolog i’r dychymyg dynol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch dri darllenydd (gwelwch rhan 1).
  • Caiff hanes dyfodiad yr Ysbryd Glân ar Ddydd y Pentecost ei ddisgrifio yn Llyfr yr Actau 2.1–4.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  O ble y daw syniadau da?

    Darllenydd 1  Mae Willis Carrier, y sawl wnaeth ddyfeisio aerdymheru, yn honni iddo feddwl am y cysyniad wrth iddo ddisgwyl am drên ar noson niwlog yn 1902. Fe wawriodd arno fod perthynas rhwng tymheredd, lleithder a gwlithbwynt (y pwynt pryd y mae llaith yn dwysau ac yn troi'n wlith). O'r foment honno o ysbrydoliaeth fe ddatblygodd yr aerdymherydd.

    Darllenydd 2  Fe ddywedir fod Archimedes, y mathemategydd a'r dyfeisiwr o wlad Groeg, wedi darganfod ei ddamcaniaeth enwog yn ymwneud ag arnofio pan oedd yn ymolchi mewn baddon. Mewn moment o ysbrydoliaeth fe sylweddolodd bod yna gydberthynas rhwng ei gorff yn y baddon a'r dwr oedd o'i amgylch.

    Darllenydd 3  Nid yw JK Rowling yn gallu dweud o ble y cafodd ei syniadau am Harri Potter. Nid yw’n gwybod sut yr oedd ei dychymyg yn gweithio mor llwyddiannus i greu cyfres mor boblogaidd o nofelau.

    Arweinydd  Mae syniadau yn ymddangos ar yr adegau mwyaf annisgwyl, yn aml heb i neb eu disgwyl ac o ffynhonnell sy'n amhosib ei hadnabod. Mae rhai pobl yn sôn am rym dychymyg, eraill am ysbrydoliaeth, yn llythrennol yn 'anadlu i mewn' syniadau.

    Bydd Seicolegwyr yn cyfeirio at y banc o atgofion yr ydym i gyd yn eu caffael, a'r ffordd y mae'r rheini yn graddol gydio'n ei gilydd i gynhyrchu'r hyn sy'n ymddangos yn ddarn newydd o ddealltwriaeth.

    Fodd bynnag, all neb nodi’n hollol glir beth yw ffynhonnell syniadau da. 

  2. Tuag at ddiwedd y mis hwn bydd Cristnogion yn dathlu gwyl y Pentecost. Mae'n gyfnod pryd y byddan nhw'n cofio am yr Ysbryd Glân yn dod ar y credinwyr Cristnogol cyntaf un. Roedd yn ddigwyddiad dramatig. (Efallai y byddwch yn dymuno adrodd y stori o'r Beibl yn Actau 2.1–4, gan ddefnyddio cyfieithiad modern.)

    Roedd gwyntoedd cryfion yn rhan o'r digwyddiad ynghyd â fflamau o dân. Y peth mwyaf syfrdanol o'r cyfan oedd bod dynion a merched cyffredin wedi dechrau gwneud pethau anghyffredin, fel siarad mewn ieithoedd nad oedden nhw erioed wedi'u dysgu, rhannu eu harian a'u heiddo personol gyda'i gilydd a dod ag iachâd i rai a oedd yn wael yn eu cymuned.  

  3. Mae Cristnogion yn credu mai Duw ynom ni yw'r Ysbryd Glân, sydd yn ein gwneud yn wahanol i bob creadur arall, ein gwreichionen greadigol, os mynnwch chi.

    Mae'r storïau yn y Beibl yn dangos bod yr Ysbryd bob amser wedi bod ar waith, o ddechrau’r greadigaeth, trwy hanes cenedl Israel hyd at y digwyddiadau ym mywyd Iesu a'r eglwys fore.

    Yn y Beibl fe gaiff yr Ysbryd Glân ei bortreadu'n aml trwy gyfrwng symbolau: mae'r rhain yn cynnwys gwynt, fflamau, anadl, ac ar ffurf colomen ddof. Fel arfer, pan fydd yr Ysbryd Glân yn ymddangos, bydd hynny er mwyn galluogi pobl gyffredin i wneud pethau anghyffredin. Byddai hynny'n rhan o'r ateb y byddai crediniwr o Gristion yn ei roi i'm cwestiwn gwreiddiol: O ble y daw syniadau da?

  4. Mae'r Ysbryd ynoch chi, ac ynof fi, oherwydd ein bod yn rhan o'r ddynoliaeth. Dyma'r hyn sy'n cael ei fynegi yn y Beibl pan ddywedir ein bod wedi cael ein llunio ar lun a delw Duw. Mae rhai Cristnogion yn credu mai oherwydd presenoldeb Duw ymhob un ohonom yr ydym yn fyw o gwbl. (Yr un gair sy'n cael ei ddefnyddio yn y Beibl am Ysbryd ac am anadl.) 

    Pan fyddwn yn cymryd camau breision o ddychymyg, a dangos lefelau newydd o greadigrwydd neu ddyfeisgarwch, mae fel pe byddem yn actio ychydig fel Duw.  Pawb ohonom. 

    Ond gwyl yw'r Pentecost i Gristnogion gredu bod hyd yn oed fwy yn bosibl. Mae'r Pentecost yn dangos Duw yn codi i lefelau newydd, y creadigrwydd, y dychymyg, a’r gweithredu sy’n perthyn i’r rhai sy'n credu yn Iesu Grist. 

Amser i feddwl

Mae'r gair Saesneg ‘inspiration’ yn golygu'n llythrennol 'cymryd anadl'  Dyna pam y mae'r ddelwedd o'r Ysbryd Glân fel anadl Duw mor ddefnyddiol.  Ar adegau pan fyddwn angen yr hwb ychwanegol, mae mor hawdd â chymryd anadl i mewn.

Efallai weithiau ni fydd angen cymaint o eiriau yn ein gweddïau, llai o eiriau a mwy o gadw'n dawel, er mwyn rhoi cyfle i anadl Duw gael ei hanadlu i mewn i ni.

Gweddi

Arglwydd Duw,

diolch i ti am y rhodd o'th Ysbryd Glân creadigol i bob un ohonom.

Pan fyddwn yn chwilio am ysbrydoliaeth mewn unrhyw agwedd o'n bywyd,

boed i ni gymryd anadl ddofn a throi atat ti.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

‘Every breath you take’ gan The Police

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon