Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

At Fy Hen Feistr

Ystyried effaith caethwasiaeth ar ein ffordd o feddwl tuag at eraill.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried effaith caethwasiaeth ar ein ffordd o feddwl tuag at eraill.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Heddiw rydym yn mynd i feddwl am lythyr a gafodd ei ysgrifennu yn 1865, ddwy flynedd ar ôl i gaethwasiaeth gael ei wneud yn anghyfreithlon yn yr Unol Daleithiau. Cafodd y llythyr ei ysgrifennu yn ystod y flwyddyn y daeth Rhyfel Cartref America i ben.  

  2. Fe barhaodd Rhyfel Cartref America o 1861 tan 1865. Fe ddechreuodd oherwydd bod y taleithiau deheuol, yn unedig yn eu defnydd o lafur caethweision, yn anghytuno gydag etholiad, yn 1861, pan etholwyd Abraham Lincoln yn Arlywydd ar gorn rhaglen gwrth-gaethwasiaeth. Roedden nhw'n dadlau bod hawl gan bob talaith i osod eu cyfreithiau eu hunain ar gaethwasiaeth, a oedd yn golygu mewn difrif eu bod yn dymuno cadw caethwasiaeth. Pan etholwyd Abraham Lincoln, fe giliodd 11 o'r taleithiau deheuol o Unol Daleithiau America.

    Fe ffurfiodd y taleithiau deheuol yma Daleithiau Cydffederal America, y Confederate States of America, a chawsant eu hadnabod fel y 'Confederates'. Galwyd y 23 talaith ogleddol 'Yr Undeb' sef yr ‘Union’. Fe ymladdodd y taleithiau yma, ynghyd â saith talaith arall nad oedd hyd yn hyn wedi ymuno â'r Undeb, ryfel i atal yr UDA rhag chwalu.

  3. Yn 1863, ddwy flynedd wedi i'r rhyfel ddechrau, fe wnaeth yr Arlywydd Lincoln y Proclamasiwn Rhyddfreiniad - The Emancipation Proclamation. Byrdwn y proclamasiwn hwn oedd diddymu caethwasiaeth, yn cynnwys caethwasiaeth yn y taleithiau deheuol a oedd yn gwrthryfela yn erbyn yr Undeb (ond nid ar gyfer caethweision yn y taleithiau ar y ffin oedd wedi aros yn ffyddlon i'r Undeb).

    Roedd y Proclamasiwn Rhyddfreiniad yn gynhwysol ar gyfer 3.1 miliwn o'r 4 miliwn o gaethweision yn yr Unol Daleithiau. Ar amrantiad, fe ryddhawyd 50,000 o gaethweision o ganlyniad i'r Proclamasiwn, gyda'r mwyafrif o'r 3.1 miliwn oedd yn weddill yn cael eu rhyddhau wrth i fyddinoedd yr Union <http://en.wikipedia.org/wiki/Union_(American_Civil_War)> symud tua'r de.

    Yn dilyn pedair blynedd o ryfela, yn bennaf y tu mewn i'r taleithiau deheuol, fe ildiodd y Cydffederaliaeth a daeth caethwasiaeth yn anghyfreithlon ymhob man drwy'r wlad. 

  4. Yn 1865, ar ddiwedd y rhyfel, fe ysgrifennodd y Cyrnol P. H. Anderson, oedd yn byw yn nhalaith ddeheuol Tennessee, at un o'i gyn-gaethweision, yr oedd wedi rhoi'r enw Jourdon Anderson iddo. Fe ofynnodd i Jourdon ddychwelyd i weithio ar ei fferm. 

    Roedd Jourdon Anderson, fodd bynnag, wedi symud i Ohio, ac wedi dod o hyd i waith cyflogedig, ac o'r herwydd yn gallu cynnal ei deulu'n annibynnol.  Ym mis Awst 1865, fe anfonodd Jourdon ateb i'w hen feistr.  Dyma beth a ysgrifennodd.

  5. Darllenwch y llythyr: gwelwch yr adran  ‘Paratoad a deunyddiau’.

  6. Mae hwn yn llythyr sy'n dangos yn glir ddeallusrwydd a gallu rhywun oedd wedi cael ei ystyried yn is-ddynol yn ystod ei fywyd.

Amser i feddwl

Beth sydd yn bod, tybed, ein bod yn gallu barnu bod un grwp o bobl yn llai deallus, yn llai galluog, neu'n is-ddynol, dim ond oherwydd eu bod yn digwydd bod yn wahanol i ni, neu oherwydd bod hanes wedi gwaddoli un set o bobl â'r grym i wneud set arall o bobl yn israddol?

Beth wnaeth eich taro chi'n bennaf am y llythyr yma? (Saib)

Pa wersi sydd yn berthnasol i chi? (Saib)

Gadewch i ni benderfynu ymddwyn gyda thegwch a dealltwriaeth at bawb.

Gweddi

Helpa fi i weld y rhagrith yn fy mywyd,

a'i ddadwreiddio.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Llwythwch i lawr fersiwn o’r gerddoriaeth, ‘Mine eyes have seen the glory of the coming of the Lord’, sy’n cael ei chydnabod fel ‘the battle hymn of the Republic’ (ar gael yn rhwydd oddi ar y rhyngrwyd)

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon