Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

100 Arwr: Chwilio am ysbrydoliaeth?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cyflwyno adnodd y gall myfyrwyr droi ato pe bydden nhw’n teimlo’n isel eu hysbryd, yn ddiynni, neu’n teimlo eu bod angen rhywbeth i’w hysgogi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Seiliwyd y gwasanaeth hwn ar gynnwys erthygl a ymddangosodd yn y Guardian, ddydd Gwener 23 Rhagfyr 2011.
  • Edrychwch ar wefan Tithiya Sharma, www.100heroesproject.com
  • Dangoswch y manylion am y wefan hon yn y dull sydd fwyaf priodol i’ch ysgol: rhwydwaith, bwletin, PowerPoint, ac ati (gwelwch rif 4).

Gwasanaeth

  1. Arweinydd (mewn llais tebyg i’r hyn y byddech chi’n ei glywed ar hysbyseb teledu Americanaidd)  A yw eich bywyd yn ddifflach a heb ysbrydoliaeth? A ydych chi'n deffro yn y bore ac yn meddwl a ddylech chi godi o'r gwely ai peidio? A ydych chi'n treulio'r diwrnod yn meddwl, ‘Dydw i'n malio dim?’ Pan fyddwch yn gosod eich pen ar y gobennydd gyda'r hwyr a fyddwch chi'n dweud, ‘Wel, mae hynna drosodd am ddiwrnod arall?’

    Os ydych yn debyg i rywun fel yna, does dim ond un ateb: mae angen arwr arnoch chi.

    (Saib)

  2. Dyna’n union sut roedd Tithiya Sharma yn teimlo. Doedd hynny ddim am ei bod yn aflwyddiannus.  Yn wir, roedd ganddi swydd dda iawn fel newyddiadurwraig yn New Delhi. Roedd hi’n ennill arian mawr, roedd hi’n gallu rhentu fflat foethus mewn rhan ffasiynol o'r ddinas, ac roedd ganddi gylch mawr o ffrindiau. Ond roedd hi'n teimlo’n ddiflas. Roedd hi angen newid yn ei bywyd. Felly fe adawodd hi ei swydd, fe werthodd ei heiddo, ac fe aeth allan i'r byd i chwilio am arwr.

  3. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tithiya wedi bod yn teithio ledled y pum cyfandir ac wedi ymweld â mwy na thri deg a dwy o wledydd. Mae hi wedi tystio i fywyd y rhai breintiedig ac wedi gweld ymdrech galed y rhai sy'n cael eu gormesu. Bu'n rhannu yn niwylliant pobl o wahanol ffydd grefyddol a rhai heb ffydd o gwbl. Bu'n cysgu yng nghartrefi'r cyfoethog, a bu'n bwyta gyda'r rhai oedd yn dlawd iawn. Ac yn ystod ei theithiau mae hi wedi cyfarfod â thros gant o unigolion y byddai hi'n eu galw'n arwyr. 

    Mae'r arwyr hyn yn amrywio, o unigolion fel:

    gweithiwr cymdeithasol sy'n trefnu gweithgareddau ar gyfer rhai sy'n chwilio am waith a glaslanciau anfodlon eu byd yn y favela (tref sianti) ddrwg-enwog, City of God, yn Rio de Janeiro, i

    sylfaenydd y Gymdeithas o Ferched Kigali mewn Mabolgampau, sy'n defnyddio cystadleuaeth i ddwyn cymod rhwng merched yr Hutu a'r Tutsi yn Rwanda; a'r

    gwr a'r wraig sy'n darparu gofal meddygol a chymdeithasol i ddioddefwyr trais yn y Congo, i

    sylfaenydd Clwb Pêl-droed FC Unity, sy'n darparu addysg yn seiliedig ar bêl-droed, a rhaglenni datblygu, ar gyfer grwpiau cymysg o bobl o gefndiroedd cymdeithasol, crefyddol ac ethnig. 

  4. Beth fu'r effaith ar Tithiya wrth iddi ddarganfod ei harwyr?

    Yn gyntaf, mae hi'n cael ei hatgoffa o ba mor lwcus y mae hi i allu teithio a chael y profiadau hyn.

    Yn ail, mae hi wedi ennill ymwybyddiaeth newydd o werth pobl, yn hytrach na lleoedd neu bethau.

    Yn drydydd, mae hi wedi canfod y gwirionedd ynghylch pa lwybr gyrfa y bydd hi'n ei ddilyn yn y dyfodol: fe fydd hi'n gweithio ar ran mudiad hawliau merched.

    Yn olaf, mae hi wedi dod yn frwdfrydig dros y syniad o ledaenu'r wybodaeth am waith ei harwyr dros y byd. Mae hi'n awyddus i eraill gael yr un ysbrydoliaeth ac a gafodd hi. Dyna pam rwy'n awyddus i drosglwyddo'r manylion am ei gwefan i chi. (Tafluniwch y manylion am y wefan, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

  5. Ond beth sy'n gwneud rhywun yn arwr? Mae Tithiya yn credu nad yw hynny’n ymwneud o gwbl â'r nifer o bobl y mae rhywun yn eu helpu. Mae'n fwy i’w wneud ag ansawdd yr help sy'n cael ei roi. Mae’n bosibl i unrhyw un ohonom fod yn arwr, dim ond i ni helpu bywyd un person arall mewn ffordd ystyriol.

    Mae'r arwyr y mae Tithiya yn sôn amdanyn nhw yn bobl
    sy'n rhoi'r darnau o'r pos gyda'i gilydd;
    yn rhoi ysbrydoliaeth;
    yn ymwneud bob amser â gweithgareddau o garedigrwydd;
    yn dwyn ynghyd bobl sydd wedi cael eu gwasgaru, ac, yn bennaf,
    yn bobl sy’n peidio â rhoi'r ffidil yn y to.

Amser i feddwl

A allech chi fod yr arwr oddi mewn i'ch grwp drama sydd angen ysgogiad?

yn eich tîm mabolgampau sydd yn colli'n aml?

gyda'ch mam, sydd wedi llwyr flino wrth ymdopi â swydd yn ogystal â gofalu am y teulu?

trwy ddod â sioncrwydd yn rheolaidd i fywyd person sy’n unig ac sydd yn methu mynd allan o’i gartref?

Efallai y gallem fynd ar daith o gwmpas gymuned ein hysgol ein hunain a chael hyd i'r arwyr. Rwy’n credu bod yno nifer dda ohonyn nhw.

Efallai y gallem ddod o hyd rhyw ysbrydoliaeth oddi wrthyn nhw, fel pan fyddwn yn codi bore yfory y bydd gennym reswm da i godi o'r gwely! A phan fyddwn ni wedi codi o'n gwelyau, efallai y gallem geisio bod yn arwyr.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

diolch i ti am ysbrydoliaeth a gawn gan yr arwyr 

yr ydym yn eu gweld o'n cwmpas yn y byd mawr.

Boed i ni ddilyn eu hesiampl a dod yn arwyr ein hunain,

pe byddai hynny ond mewn ffordd fach.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Search for the hero’ gan M People

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon