Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Gemau Olympaidd

Cyflwyno’r gwerthoedd Olympaidd.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cyflwyno’r gwerthoedd Olympaidd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr unrhyw glip fideo oddi ar y Rhyngrwyd, neu wefan y BBC am y Gemau Olympaidd, a’r neges sy’n cyd-fynd â’r lluniau. Er enghraifft, mae un clip ar wefan y BBC sy’n cyflwyno’r nifer o genhedloedd ac athletwyr sy’n cymryd rhan. Edrychwch ar: news.bbc.co.uk/sport1/hi/olympic_games/world_olympic_dreams/9404959.stm
  • Am ragor o wybodaeth am y gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, edrychwch ar y wefan: getset.london2012.com
  • The most important thing in the Olympic Games is not to win but to take part, just as the most important thing in life is not the triumph, but the struggle. The essential thing is not to have conquered, but to have fought well.’ (dyfyniad oddi ar wefan pwyllgor y Gemau Olympaidd)

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y fideo ar y Gemau Olympaidd i'r myfyrwyr (gwelwch yr adran 'Paratoad a deunyddiau'). (Cyn dangos y fideo, efallai y byddwch yn dymuno ychwanegu y bydd cwis ar ôl y gwasanaeth yn seiliedig ar y fideo yma.) Awgrymir ar y wefan eich bod yn gofyn:

    –  Faint o wledydd fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd?
    –  Faint o athletwyr fydd yn cymryd rhan?
    –  Faint o bobl fydd yn gallu eistedd yn y Stadiwm Olympaidd?
    –  Faint o gampau sy'n rhan o'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd?
    –  Faint fedrwch chi eu henwi?
    –  Ydych chi eisoes yn cymryd rhan eich hun mewn unrhyw un o'r chwaraeon neu’r campau hyn?
    –  Sawl medal aur Olympaidd fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y Gemau?
    –  A fedrwch chi enwi unrhyw gampau a fydd yn newydd yng Ngemau Olympaidd 2012?
    –  Ymhle y bydd y digwyddiadau Olympaidd eraill yn digwydd y tu allan i Lundain, a pha gampau fydd yn digwydd yno?
    –  Pa gamp fyddech chi'n hoffi ei gweld fwyaf yn y Gemau Olympaidd?

  2. Trafodwch y ffaith bod miloedd o athletwyr o bob lliw a chred yn cyfarfod mewn un ddinas i gystadlu a pherfformio mewn ymdrech i gyrraedd at eu nodau personol a'u safon bersonol orau.

    Dywedwch fod saith o egwyddorion neu werthoedd cyffredin yn greiddiol i'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd. Mae'r gwerthoedd hyn yn tanategu'r gemau a chlymu'r athletwyr yn un.  Maen nhw'n crynhoi'r credo Olympaidd.

    Gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod beth yw'r gwerthoedd hyn.

  3. Mae yna dri o werthoedd Olympaidd ynghyd â phedwar o werthoedd Paralympaidd. Dyma nhw:

    Gwerthoedd Olympaidd

    -  parch: chwarae teg; gwybod beth yw eich ffiniau eich hun; gofalu am eich iechyd a'ch amgylchfyd eich hun
    -  rhagoriaeth: sut i gyflwyno'r ochr orau ohonoch eich hun, ar y maes chwarae neu mewn bywyd; cymryd rhan a gwneud cynnydd yn unol â'n hamcanion ein hunain
    -  cyfeillgarwch: sut i ddeall eich gilydd trwy gampau er gwaethaf y gwahaniaethau

    Gwerthoedd paralympaidd
    -  dewrder
    -  penderfyniad
    -  ysbrydoliaeth
    - cydraddoldeb

    Mae gan rwydwaith 'Get Set' fideo am y gwerthoedd hyn os ydych chi’n dymuno eu harchwilio'n fwy manwl (gwelwch yr adran 'Paratoad a deunyddiau').

  4. Trafodwch y ffaith bod athletwyr weithiau'n gallu colli golwg ar y gwerthoedd hyn a'u gwadu trwy dwyllo a chymryd cyffuriau.

  5. Trafodwch sut y mae holl grefyddau'r byd hefyd yn ein haddysgu i fyw ein bywyd, a helpu pobl eraill, a bod y gorau y gallwn ni fod.

    Weithiau mewn bywyd gallwn wneud camgymeriadau ac anghofio'r gwerthoedd hyn ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddod yn ôl ar y llwybr cyfiawn. 

Amser i feddwl

Meddyliwch am yr holl bobl sy'n paratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd. Beth mae'r math yma o ymrwymiad yn ei ddweud wrthych chi heddiw?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

 ‘Make it happen’ gan Mariah Carey

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon