Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Distawrwydd!

Atgoffa’r plant peth mor bwysig yw distawrwydd.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant peth mor bwysig yw distawrwydd.

Paratoad a Deunyddiau

Mae stori Elias i’w chael yn llawn yn y ddwy bennod yn 1 Brenhinoedd 17—19 (gwelwch rhif 4).

Gwasanaeth

  1. Gweiddwch y gair ‘Distawrwydd!’ mor uchel ag y gallwch chi, a sylwch pa ymateb a gewch chi!

    Dywedwch eich bod chi’n mynd i sôn am ‘ddistawrwydd’ heddiw.

    Am beth rydych chi’n meddwl pan fyddwch chi’n clywed y gair ‘distawrwydd’? (Gofynnwch i’r plant am eu hawgrymiadau, neu gofynnwch iddyn nhw drafod hyn mewn parau.)

    Rhai awgrymiadau:

    -  arholiadau
    -  munud o ddistawrwydd, i gofio am rywun sydd wedi marw
    -  athro llym iawn
    -  heddwch a thawelwch
    -  adegau diflas heb ddim i’w wneud
    -  adegau pryd y bydd ofn arnoch chi oherwydd bod pob swn rydych chi’n ei  glywed yn sinistr.

  2. Ychydig iawn o ddistawrwydd y bydd llawer ohonom ni’n ei brofi yn ein bywydau prysur. Yn aml iawn, fe fydd ein ffrindiau o’n cwmpas, neu’r teledu ymlaen, ne fe fyddwn ni’n gwrando ar gerddoriaeth neu’n sgwrsio ar ein ffonau symudol.

    Fe fydd rhai ohonom ni’n teimlo’n anghyfforddus mewn tawelwch, ac yn barod i wneud rhywbeth i gael gwared â’r distawrwydd. Ychydig ohonom fyddai’n cyfaddef bod distawrwydd llethol yn beth pleserus.

  3. Ond, mae pob traddodiad crefyddol yn gwerthfawrogi distawrwydd neu dawelwch er mwyn gallu chwilio am gynnydd ysbrydol. Mae tawelwch mewnol yn rhoi cyfle i rywun gysylltu â’r dwyfol neu realaeth eithaf y foment.

    Fe ddywedodd William Penn (1644–1718), y Crynwr a’r gwladychwr o Loegr a sefydlodd wladfa ger Philadelphia yn America (yr enwyd un o Daleithiau America ar ei ôl – Pennsylvania), ‘True silence is the rest of the mind; it is to the spirit what sleep is to the body – nourishment and refreshment.’ Roedd William Penn yn credu bod gwir ddistawrwydd yn orffwys i’r ymennydd. Fel mae’r corff angen gorffwys i atgyfnerthu, mae distawrwydd yn bwysig i’r meddwl er mwyn iddo allu atgyfnerthu hefyd.

  4. Un dyn oedd wedi darganfod hynny drosto’i hun oedd Elias, cymeriad o’r Hen Destament. Gwrandewch ar yr adroddiad yma o beth fyddai Elias yn debygol o fod wedi’i deimlo a’i ddweud.

    ‘Digalon … isel-ysbryd … anobeithiol … pa eiriau alla’ i ddod o hyd iddyn nhw i ddisgrifio’r teimlad yma o ddiflastod?

    Fe fyddai’n dda gen i pe bawn i’n marw. Gadewch fi yma i farw. Ar ben fy hun, yn unig. Rydw i’n hollol unig.

    Yr unig broffwyd sydd ar ôl yng ngwlad Israel. Allwch chi ddychmygu sut deimlad yw hynny? Alla’ i ddim siarad ar ran Duw ar fy mhen fy hun ddim mwy. Rydw i’n flinedig. Yn hollol flinedig.

    Allwch chi ddychmygu pa mor amhosib yw hi i sefyll yn enw Duw ar adegau mor anodd, gyda brenhinoedd drwg yn cyflawni gweithredoedd mor ddrwg? Rydw i’n ofnus. Yn hollol ofnus.

    Mae bygythiadau’r frenhines ddrwg, Jesebel, yn atseinio yn fy mhen. Fe gefais i wared â’i phroffwydi hi - proffwydi  Baal, a nawr mae hi am fy ngwaed i.

    Gadewch fi yma i farw.’

    ‘Elias, dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr Arglwydd.’ A dyma’r Arglwydd yn dod heibio.

    Beth yw’r llais yna? Beth sy’n mynd ymlaen?

    Gwynt. Gwynt nerthol yn rhuthro. Ond nid yw’r Arglwydd yn y gwynt.

    Daeargryn. Daeargryn taranllyd sy’n hollti creigiau. Ond nid yw’r Arglwydd yn y daeargryn.

    Tân. Tân tanbaid, dinistriol. Ond nid yw’r Arglwydd yn y tân.

    Ac yna distawrwydd. Swn distawrwydd llethol.

    Ac ar unwaith, rydw i’n gwybod.

    Rydw i’n cysylltu â’r Duw byw.

    Duw sydd bob amser wedi darparu ar fy nghyfer i.

    Duw sydd bob amser wedi clywed cri fy nghalon.

    Wnaiff Duw ddim peidio nawr.’

  5. Fe wnaeth Elias gwrdd â’i Dduw yn y distawrwydd, ac fe roddodd yr Arglwydd synnwyr newydd o obaith a phwrpas iddo. Fe anfonodd Duw rywun i’w helpu, sef Eliseus, ac fe fyddai Eliseus, yn dal ati gyda gwaith Elias

Amser i feddwl

Fe ddywedodd yr awdur crefyddol Elisabeth Kübler-Ross: ‘Learn to get in touch with the silence within yourself and know that everything in this life has a purpose.’ Dysgwch gysylltu â’r distawrwydd oddi mewn i chi’ch hun, a dewch i wybod fod pwrpas i bopeth yn y bywyd hwn.

Fe ddaeth Elias o hyd i’r gwirionedd am y datganiad hwnnw ei hun.

Efallai yr hoffech chithau ei ddarganfod hefyd.

Gadewch i ni fyfyrio yn y distawrwydd ar bwysigrwydd tawelwch.

(Saib)

Gweddi

‘Weithiau, Arglwydd, yn aml –

fydda i ddim yn gwybod beth i’w ddweud wrthyt ti.

Ond rwy’n dal i ddod, mewn distawrwydd,

er mwyn y cysur hwnnw mae dau ffrind yn gallu ei gael wrth eistedd mewn distawrwydd.

A bryd hynny Arglwydd, dyna’r amser rydw i’n dysgu mwyaf gennyt ti.

Pan fydd fy meddwl yn arafu,

a’m calon yn peidio â rasio.

Pan fydda i’n gadael popeth, ac yn aros yn y distawrwydd,

Yn sylweddoli dy fod ti yn gwybod eisoes

am yr holl bethau roeddwn i’n mynd i ofyn amdanyn nhw.

Yna, Arglwydd, heb eiriau,

Yn y llonyddwch

Rwyt ti yno ….’

(Addasiad o ran o’r cyflwyniad i  A Silence and a Shouting, Eddie Askew, Leprosy Mission International, 1984))

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

 ‘The Sound of Silence’ by Simon and Garfunkel

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon