Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newidiadau Ym Myd Addysg Yn Japan

Ystyried sut mae gwlad Japan wedi newid o ganlyniad i’r daeargryn a’r tsunami yn 2011.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae gwlad Japan wedi newid o ganlyniad i’r daeargryn a’r tsunami yn 2011.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr rai lluniau o’r daeargryn a’r Tsunami yn Japan.
  • Roedd James Lamont, awdur y gwasanaeth hwn, yn gweithio fel cynorthwyydd iaith yn Japan pan luniodd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Ym mis Mawrth 2011, cafodd Japan ei tharo gan drychineb naturiol dychrynllyd. Ysgydwodd daeargryn enfawr - o nerth 9.0 ar raddfa Richter - y Cefnfor Tawel, oddi ar arfordir dwyreiniol Japan. Hwn oedd y daeargryn mwyaf nerthol erioed i daro Japan, gwlad y mae daeargrynfeydd bychan yn digwydd yno’n feunyddiol, ac sydd wedi cael pump o'r daeargrynfeydd mwyaf a gofnodwyd erioed.

    Oherwydd bod yr uwchganolbwynt wedi ei leoli yn y cefnfor, fe sbardunodd y digwyddiad gyfres o donnau llanw a oedd yn cyrraedd uchder o 40 medr a throsodd, ac a dreiddiodd hyd at 6 milltir i mewn i'r tir, gan achosi difrod enfawr i drefi a dinasoedd ar yr arfordir.

    Bu farw miloedd o bobl yn y trychineb a chyhoeddwyd bod llawer mwy ar goll. Fe ddywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Naoto Kan, bod yr adeg hon gyda'r fwyaf anodd i'r wlad ers yr Ail Ryfel Byd, pan ollyngwyd dwy fom atomig ar Japan.

  2. Mae'r modd y mae Japan wedi adfer ei hun ar ôl y trychineb wedi cael ei ganmol ar draws y byd, gyda phwyslais neilltuol wedi ei osod ar warineb a natur ddeddfgadwol ei dinasyddion. Fodd bynnag, ni ddylid meddwl am hyn yn nhermau ceidwadol. Fe newidiodd y daeargryn Japan, ac un o'r meysydd lle gwelwyd y newid mwyaf yw maes addysg.

    Ers y daeargryn, mae MEXT, y Weinyddiaeth Addysg, Diwylliant, Hamdden, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, wedi gosod pwyslais o'r newydd ar feithrin myfyrwyr i brofi llawenydd mewn addysgu a dysgu, a chael agwedd ysbrydol tuag at fywyd. Y nod yw defnyddio addysg i greu dinasyddion rhyngwladol cytbwys sydd yn abl i gynrychioli eu mamwlad dramor, a rhyngweithio â dinasyddion o'u diwylliant eu hunain yn ogystal â rhai o ddiwylliannau eraill.

    Mae yno ddymuniad i greu hoffter o addysg a chyfathrebu trwy gyfrwng polisïau addysg blaengar, fel ymwneud ag ieithoedd tramor o oedran cynnar. 

  3. Er gwaethaf bod pethau dychrynllyd yn gallu digwydd yn annisgwyl ac mewn ffordd anghyfiawn, mae'r cyfle ar gael bob amser i ddatblygu eich bywyd eich hun yn wyneb trychineb.  Yn unol â’u natur, mae trychinebau yn bethau trasig, ac ni ddylid meddwl amdanyn nhw'n llai na hynny, ond bydd yr angen am awch i fyw, am wybodaeth ac ysbryd yn aros bob amser.

Amser i feddwl

Meddyliwch am amser pan oeddech yn credu bod bywyd yn anodd iawn.

Ym mha ffordd y gwnaethoch chi dderbyn y profiad hwnnw ac adeiladu arno?

Sut mae'r profiad hwnnw wedi eich newid chi?

Wrth i ni fynd yn hyn, byddwn yn cael mwy a mwy o brofiad o alar, yn ogystal â llawenydd mawr – y ffordd yr ydym yn delio â'r hyn y mae bywyd yn ei daflu atom yw'r ffordd y deuwn i fod yr hyn ydyn ni.

Treuliwch ychydig funudau'n edrych yn ôl ar y digwyddiadau dychrynllyd yn Japan pan gafodd y wlad ei tharo gan ddaeargryn a tsunami.

Myfyriwch ar y ffordd y mae'r bobl yn benderfynol o fwynhau dysgu, ac o ganlyniad cael mwy o fudd o'u bywydau.

Rhowch ddiolch am y penderfyniad hwn.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Fragile’ gan Sting (ar gael yn rhwydd i’w lwytho i lawr oddi ar y we)

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon