Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

10 Perffaith

Y gymnastwraig Olympaidd, Nadia Comaneci, yn cyflawni’r amhosibl

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, er mwn annog y myfyrwyr i beidio â gosod cyfyngiad ar yr hyn y gallan nhw ei gyflawni.

 

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch ddau ddarllenydd (gallai gwisgoedd syml fel helmedau a chlipfyrddau ychwanegu at y cyflwyniad).
  • Fe welwch chi’r geiriau a lefarodd Iesu Grist, am ei ddisgyblion yn gwneud pethau mwy nag a wnaeth ef, yn Efengyl Ioan 14.12.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Er mwyn i ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol fod yn llwyddiannus, fe fydd angen casgliad enfawr o offer technegol. Rhaid cael offer i drosglwyddo sain, offer goleuo, ac mae’n hanfodol cael offer sy’n mesur a chofnodi, er mwyn y cystadleuwyr, y trefnyddion a’r gynulleidfa sy’n gwylio. Rhaid i bob darn o’r holl offer fod yn gymwys ar gyfer ei bwrpas. Gallai fod yn embaras mawr i’r trefnyddion pe byddai penderfyniadau pwysig yn cael eu nodi’n anghywir - fel, yn wir, a ddigwyddodd yng Ngemau Olympaidd Montreal yn 1976.

  2. (Daw’r darllenwyr i mewn)
    Darllenydd 1  O! Felly, dyma arena’r cystadlaethau gymnasteg. Mae’n lle mawr. Mae’n bwysig bod y byrddau sgôr o’r maint iawn. Ac fe ddylai digon o le fod arnyn nhw i ddangos marciau pob cystadleuydd yn glir. Pa fath o sgôr rydyn ni’n sôn amdano?

    Darllenydd 2  Wrth edrych yn ôl ar ganlyniadau Chwaraeon Olympaidd blaenorol a Phencampwriaethau Byd, rydyn ni’n sôn am sgôr o hyd at 9 pwynt 9 rhywbeth, ydyn ni?

    Darllenydd 1  Felly, sawl digid fydd ei angen ar y byrddau sgorio hyn? Mae gwneuthurwyr, sy’n cynhyrchu’r byrddau sgorio hyn yn y Swistir, eisiau i ni fod yn hollol fanwl gywir.

    Darllenydd 2  Yn fy marn i, mae lle i dri digid a phwynt degol yn ddigonol. Perffeithrwydd fyddai rhywbeth mwy na hynny. 

    Darllenydd 1  Wel, dydyn ni byth yn mynd i allu cael perffeithrwydd, ydyn ni?

  3. Arweinydd  Doedd y trefnwyr ddim wedi gofalu am y perffeithrwydd hwnnw yn achos y ferch 14 oed, Nadia Comaneci, a ddisgleiriodd yn ei champ, sef gymnasteg, rai blynyddoedd yn ôl. Yn ystod cystadleuaeth y tîm, pan oedd hi’n perfformio ar y bariau, fe lwyddodd Nadia Comaneci i gyflawni’r gamp yn berffaith. Fe ddyfarnodd y beirniaid 10 marc llawn iddi - ac fe aeth y rhai a oedd yn cadw’r sgôr i banig! Sut y gallen nhw ddangos 10.00 ar y bwrdd sgorio? Doedd ganddyn nhw ddim lle i ddigid ychwanegol. Yn y diwedd, yr hyn wnaethon nhw oedd dangos y sgôr fel 1.00.

    Fe ffrwydrodd yr emosiwn yn y dyrfa o wylwyr, ac fe guddiodd y trefnwyr eu hwynebau mewn embaras. Ac fe fu’n rhaid iddyn nhw ddioddef yr un embaras chwe gwaith yn ychwanegol yn ystod y gystadleuaeth honno wrth i Nadia Comaneci brofi ei bod hi’n bosib cyrraedd perffeithrwydd.

    Y broblem oedd bod y swyddogion wedi gosod cyfyngiad ar yr hyn yr oedd y cystadleuwyr yn mynd i allu ei gyflawni. Doedd neb erioed o’r blaen wedi cael y marc 10 am fod yn berffaith. Felly, roedden nhw wedi tybio na fyddai neb byth yn cyrraedd y safon honno, ac na fyddai angen dangos y marc hwnnw.

  4. Mae cyflawniad yn bwysig. Mae eich amser yn yr ysgol yn cael ei fesur yn nhermau’r hyn rydych chi’n ei gyflawni, yn bennaf trwy ganlyniadau arholiadau, ond mae gennym ni fesuriadau eraill hefyd. 

    Mae pob un ohonoch yn cael eich annog i osod targed i chi eich hunain, ac fe fydd yn rhaid i aelodau’r staff hefyd ragfynegi pa safon maen nhw’n meddwl y byddwch chi’n ei chyrraedd. 

  5. Mae dwy ffordd o edrych ar darged. Un ffordd yw ei gweld fel y man eithaf y gallwn ni gyrraedd ato. Os byddwn ni’n llwyddo i gyrraedd y targed, yna fe fyddwn ni’n bodloni ar hynny ac yn dathlu ein llwyddiant. Os ydyn ni’n methu cyrraedd y targed o ychydig, yna fe allwn ni o leiaf ddweud ein bod wedi cyrraedd bron iawn at y targed.

    Ond, ffordd arall o edrych ar darged yw fel man i’w gyrraedd ar daith hirach. Fe fyddwn ni’n cyrraedd y targed ac yn mynd trwyddo gyda’r momentwm rydyn ni wedi ei greu. Dyna beth ddigwyddodd yn achos Nadia Comaneci. Fe lwyddodd hi i berfformio i lefel ei chyflawniad blaenorol a dal ati. Fe ddaliodd ati nes iddi gyrraedd y 10 perffaith. Ac roedd hi’n credu y gallai hi wneud yn well na hynny hyd yn oed, pe byddai hynny’n bosibl!

  6. Doedd Iesu Grist ddim yn un a oedd yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn a allai fod yn bosibl ei gyflawni. Roedd Iesu’n siarad am fyw bywyd yn y ffordd lawnaf bosibl. Dywedodd y byddai ei ddilynwyr yn cyflawni hyd yn oed fwy nag a wnaeth ef. Trwy eu perthynas a’i gilydd, a’r ffordd roedden nhw’n helpu ei gilydd, fe anogodd Iesu ei ddilynwyr i anelu am y deg perffaith, a thu hwnt. 

    Yn fy marn i, mae hynny’n awgrymu bod y cyfleoedd sydd ar gael i ni yn ddi-ben-draw. Yr unig gyfyngiadau sydd yw’r cyfyngiadau y byddwn ni’n eu rhoi arnom ni ein hunain neu’r cyfyngiadau y mae pobl eraill yn eu gosod arnom ni.

Amser i feddwl

Felly, beth yw eich targedau chi? Beth yw’r rhagfynegiadau sydd wedi eu gosod ar eich cyfer chi? Meddyliwch am y rhain fel eich bwrdd sgôr personol.

Beth ydych chi’n feddwl yw’r cyfyngiadau sydd ar eich cyflawniadau posibl chi, a sut y byddai’r rhain yn cael eu cofnodi?

Pa effaith y gallai eich targedau a’r rhagfynegiadau eu cael arnoch chi?

Gadewch i ni gymryd sylw o’r targedau, ac anelu tuag atyn nhw, ac yna, gyrru’n syth trwyddyn nhw.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

diolch ein bod ni i gyd yn unigryw o ran ein potensial.

Gad i ni, gyda dy help di, nid yn unig gyflawni ein potensial, ond i fynd y tu hwnt iddo, a pheri syndod nid yn unig i bobl eraill ond i ni ein hunain hefyd.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Higher and higher’ gan Jackie Wilson

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon