Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ennill Neu Golli?

“Y ras futraf mewn hanes”

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth yn seiliedig ar thema’r Gemau Olympaidd, er mwyn annog y myfyrwyr i ddewis gwirionedd a gonestrwydd mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch wyth o ddarllenwyr i chwarae rhan Mitchell, Williams, Johnson, Smith, Christie, Lewis, Stewart, da Silva. Fe ddylen nhw sefyll yn rhes, fel pe bydden nhw’n barod i redeg ras.

Gwasanaeth

  1.  Arweinydd  Mae’r ras derfynol yn y gystadleuaeth 100 metr yng Ngemau Olympaidd Seoul yn 1988 yn dal yn fyw yng nghof rhai pobl sy’n hoffi chwaraeon, a hynny am nifer o resymau.

    (Darllenwyr yn dod ymlaen ac yn gosod eu hunain fel pe bydden nhw’n barod i ddechrau rhedeg ras)

    Darllenydd 1 (yn camu ymlaen)  Ben Johnson ydw i, o Ganada. Fi enillodd y ras. Fe wnes i ennill y ras mewn amser a oedd yn torri’r record byd ar y pryd. Fe redais y ras mewn 9.79 eiliad.

    Darllenydd 2 (yn camu ymlaen)  Carl Lewis ydw i, o’r Unol Daleithiau. Fe wnes i ennill y fedal arian, gydag amser o 9.92 eiliad.

    Darllenydd 3 (yn camu ymlaen)  Linford Christie ydw i, o Brydain. Fe wnes i ennill y fedal efydd, gydag amser o 9.97 eiliad.

    Darllenydd 4 (yn camu ymlaen)  Calvin Smith ydw i. Fi oedd yn bedwerydd. Fy amser i oedd 9.99 eiliad.

    Darllenydd 5 (yn camu ymlaen)  Dennis Mitchell ydw i. Fi oedd y pumed.

    Darllenydd 6 (yn camu ymlaen)  Robson da Silva ydw i. Fi oedd y chweched.

    Darllenydd 7 (yn camu ymlaen)  Desai Williams ydw i. Fi oedd y seithfed.

    Darllenydd 8 (yn camu ymlaen)  Ray Stewart ydw i. Fi oedd yr wythfed. 

  2. Arweinydd  Dyna i chi beth oedd ras! Pedwar dyn yn gallu rhedeg y ras mewn amser a oedd yn llai 10 eiliad - a record byd newydd yn cael ei gosod. Felly, pam y gwnaeth newyddiadurwr o’r enw Duncan Mackay ysgrifennu mewn erthygl yn y papur newydd, The Guardian, ar 18 Ebrill 2003, bod y ras hon ‘the dirtiest race in history’?

    Gadewch i ni edrych yn fanylach ar y rhai a enillodd fedalau yn y ras honno. Yn gyntaf, Ben Johnson, a osododd y record byd nodedig honno.

    Darllenydd 1 O fewn munudau i ennill y ras, fe fu’n rhaid i mi gymryd prawf cyffuriau. Fe wnaeth y swyddogion ganfod fy mod i wedi bod yn defnyddio steroidau a oedd wedi cael eu gwahardd. Dygwyd y fedal aur oddi arnaf, cafodd y record byd newydd ei dileu, ac fe gefais fy ngwahardd rhag cystadlu mewn chwaraeon wedyn am weddill fy oes.

    Arweinydd  Felly, fe ddyfarnwyd y fedal aur i Carl Lewis, ac mae wedi parhau yn enillydd. Enillydd teilwng . . . ai peidio?

    Darllenydd 2  Yn y treialon ar gyfer Gemau Olympaidd yr Unol Daleithiau yn 1988, fe brofwyd fy mod wedi defnyddio cyffur a oedd yn fy symbylu. Er hynny, chefais i ddim gwaharddiad, ac roedd gweddill y tîm yn ddigon hapus i adael i mi redeg. Dim ond fi sy’n gwybod beth ddigwyddodd o ddifrif.

    Arweinydd  Roedd sylw Prydain ar Linford Christie, sy’n enwog am ei ddyfyniad ei fod bob amser yn amcanu i gychwyn rhedeg bob amser ar y ‘B’ yn y BANG o ergyd gwn y swyddog sy’n cychwyn y ras. A ddylai Linford Christie fod wedi cael ei ddyfarnu’n wir enillydd?

    Darllenydd 3  Yn union ar ôl y ras derfynol 100 metr honno, fe ddangoswyd canlyniad positif i brawf a roddwyd i mi am y cyffur sy’n symbylu - pseudoephedrine. Fe wnes i osgoi cael fy ngwahardd oherwydd pleidlais o 11 i 10 yn yr ymchwiliad swyddogol. Yn ddiweddarach yn fy ngyrfa, fe gefais i ganlyniad positif am y steroid anabolig, nandralone. 

  3. Arweinydd  Doedd dim un o’r tri hyn a oedd yn enillwyr medalau’n gwbl glir o amheuaeth. Ac nid yw’r sôn am gamddefnyddio cyffuriau ymysg yr wyth rhedwr yn gorffen yno.

    Yn y diwedd, gosodwyd gwaharddiad ar Dennis Mitchell yn 1998 am ddefnyddio steroidau anabolig.

    Fe gyfaddefodd Desai Williams ei fod ef hefyd, am ychydig, wedi defnyddio'r un cyffur ag a barodd i’w gydwladwr Ben Johnson gael ei wahardd.

    Dangoswyd bod Ray Stewart wedi bod yn delio trwy’r ebost ag unigolyn a oedd yn enwog am ddelio â chyffuriau gwella  perfformiad.

    O’r wyth a oedd yn rhedeg y ras 100 metr honno, dim ond Calvin Smith a Robson da Silva a fu’n ‘lân’ trwy eu gyrfa athletaidd. Wrth edrych yn ôl, felly, mae’n amlwg y gallwn ninnau, yn wir - fel y gwnaeth Duncan Mackay yn y Guardian - alw’r ras honno ‘the dirtiest race in history’.

  4. Fe wnaeth yr athletwyr rheini, pob un o’r wyth, eu dewis. Roedd cyffuriau ar gael yn rhwydd, ac mae’n amlwg eu bod yn cael eu defnyddio’n aml gan rai a oedd yn cystadlu mewn campau o’r fath. Ac ar y pryd doedd canlyniadau’r profion cyffuriau ddim mor fanwl gywir ag yw canlyniadau’r profion erbyn heddiw.

    Roedd y chwech a oedd wedi methu osgoi’r demtasiwn yn gwybod yn iawn beth oedden nhw’n ei wneud, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw fyw gyda’r canlyniadau. Yn achos rhai ohonyn nhw, mae’n amlwg ei fod wedi bod yn gywilydd cyhoeddus enfawr. Maen nhw’n cael eu difrïo fel twyllwyr a fu’n camddefnyddio cyffuriau. Dim amheuaeth. Yn achos Lewis a Stewart mae’n llai pendant. Er hynny, mae eu henwau da yn sicr o fod wedi cael eu difwyno. Mae’n rhaid iddyn nhw fyw gyda marc cwestiwn yn hofran uwch eu llwyddiant.

Amser i feddwl

Mae llawer o gyfleoedd i dwyllo mewn bywyd. Mae’r temtasiynau yno yn ystod arholiadau neu brofion yn yr ysgol, yno mewn perthnasoedd, a hefyd pan fydd pobl yn ymddiried ynoch chi i wneud tasgau pwysig, neu i gadw gwybodaeth yn gyfrinachol. Mewn achosion fel hyn, ac mewn llawer o sefyllfaoedd eraill, fe fyddwn ni’n cael ein hunain yn gorfod wynebu dewisiadau.

Fe fynegodd Iesu fod penbleth fel gorfod dewis rhwng ufuddhau i un meistr sy’n sefyll dros wirionedd neu feistr arall sy’n sefyll dros dwyll. Efallai bod yr ail feistr yn gallu cynnig ffordd gyflym a hawdd i lwyddiant cyhoeddus a bod yn boblogaidd - ond am bris. Fe ddaw gyda’r pris o wybod eich bod yn dwyllwr. Fydd y wybodaeth euog hon ddim yn diflannu, ac fe fydd bob amser yn pylu’r synnwyr o fodlonrwydd.

Wrth ufuddhau i’r meistr cyntaf, fel y gwnaeth Calvin Smith a Robson da Silva, mae’n bosib na fydd hynny’n arwain at yr un math o enwogrwydd cyhoeddus (does fawr neb yn cofio am y ddau hyn), ond fe all y ddau sefyll yn dalsyth gan wybod eu bod yn ‘lân’ a’u llwyddiannau’n ddilys.

Tybed pa feistr y byddech chi’n ei ddewis?

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am y cyfleoedd rydyn ni’n eu cael yn ein bywyd.

Weithiau fydd hi ddim yn hawdd gwneud y dewis gorau,

yn enwedig pan fydd cyfle i dwyllo’n ei hwynebu.

Gad i ni gael y dewrder i ddewis y ffordd ymlaen sy’n gywir a gonest.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Born to run’ gan Bruce Springsteen (Dangoswch y ddelwedd o’r gân sydd i’w chael ar y we, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’)

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon