Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ymennydd Popcorn

Annog y myfyrwyr i weld yr haf fel cyfle i ddiffodd teclynnau technolegol a mwynhau bywyd ar gyflymdra arafach.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i weld yr haf fel cyfle i ddiffodd teclynnau technolegol a mwynhau bywyd ar gyflymdra arafach.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dewch i’r gwasanaeth yn bwyta popcorn allan o fag mawr, a gofynnwch: Pwy sy’n hoffi popcorn? Ble a pryd byddwn ni’n bwyta popcorn?

    Ceisiwch help gan un neu ddau o’r myfyrwyr i ddangos pa mor hawdd yw gwneud popcorn.

    Nodwch pa mor swnllyd a chyflym yw’r broses o wneud popcorn wrth i bob un o’r grawn glecian yn ddigymell. Fe all wneud i chi sylweddoli mor frau yw eich nerfau!

  2. Mae ymchwil diweddar yn dangos bod llawer ohonom ni’n dioddef o’r hyn y mae David Levy, sy’n llawfeddyg ar yr ymennydd, yn ei alw’n ‘ymennydd popcorn - popcorn brain’.

    Canlyniad gor-symbylu’r ymennydd sy’n achosi’r cyflwr ‘ymennydd popcorn’ , oherwydd yr arferiad parhaus o wneud aml orchwylion electronig drwy’r amser. Mae'n debyg bod ein hymennydd yn dod yn fwyfwy cyfarwydd â’r llif cyflym o wybodaeth gawn ni trwy gyfrwng y rhyngrwyd ac sy’n popio o’n cwmpas yn ddiddiwedd. O ganlyniad, rydyn ni’n ei chael hi’n anodd iawn dygymod â chyflymder arafach mewn bywyd.

    Yn ogystal ag ysgogi ein hymennydd, rydyn ni hefyd yn rhoi straen ar ein llygaid, yn dangos arwyddion o gynnwrf a straen, ac yn aml yn amddifadu ein cyrff o gwsg.

    Mae ymchwil yn dangos hefyd bod llwyrddibyniaeth ar y Rhyngrwyd yn gallu cyfyngu ar greadigrwydd ac ar y gallu i feddwl yn ddwys, ac mae hefyd yn llethu’r gallu i ryngweithio ag eraill. Mae Clifford Nass, seicolegydd cymdeithasol ym Mhrifysgol Stanford, yn yr Unol Daleithiau, wedi nodi bod astudiaethau’n dangos bod gwneud aml orchwylion ar y rhyngrwyd yn gallu gwneud i chi anghofio sut i ddarllen emosiynau dynol - ‘multitasking on the Internet can make you forget how to read human emotions’. Ac mae’n dweud ymhellach bod rhyngweithio dynol yn sgil mae rhywun yn ei dysgu, ‘Human interaction is a learned skill,’ meddai.

  3. Mae Dr Hilarie Cash, sy’n trin pobl sy’n gaeth i’w dyfeisiadau electronig yn rhybuddio trwy ddweud fel hyn, ‘the human brain is wired to crave the instant gratification, fast pace and the unpredictability of technology’. Mae’n dweud bod y Rhyngrwyd fel magnet, yn ein tynnu ni i mewn. Mae’n hawdd iawn i ni fynd yn llwyrddibynnol ar y Rhyngrwyd.

    Ydych chi a minnau’n gaeth i’r Rhyngrwyd?

    Darllenwch y cwestiynau canlynol i’r myfyrwyr a rhowch gyfle iddyn nhw feddwl am eu ffordd o fyw eu hunain o fyw:

    (a)  Wnaethoch chi agor eich ebost, gweithio ar eich cyfrifiadur, neu ddefnyddio eich ffôn symudol cyn dod i’r ysgol bore heddiw?
    (b)  Pa mor aml y byddwch chi’n agor eich ebost mewn diwrnod?
    (c)  Faint o amser fyddwch chi’n ei dreulio’n cysylltu â’ch ffrindiau ar Facebook?
    (d)  Ydych chi’n defnyddio’ch ffôn symudol ac yn cerdded ar yr un pryd?
    (e)  Ar gyfartaledd, faint o oriau y ddydd y byddwch chi’n eu treulio o flaen sgrin y cyfrifiadur?

    Fel arfer, pan fyddwn ni’n sôn am lwyrddibyniaeth fe fyddwn ni’n tueddu i feddwl am gymryd cyffuriau, ysmygu ac yfed alcohol. Ond tybed a allai fod yr un mor anodd ceisio goresgyn dibyniaeth ar dechnoleg ag yw i geisio goresgyn dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol? Ydyn ni wedi dechrau mynd yn gaeth i dechnoleg?

  4. Beth am geisio wynebu her yn ystod gwyliau’r haf?

    -  Penderfynwch ddiffodd eich holl declynnau electronig am rai oriau, am ddiwrnod cyfan, neu hyd yn oed am benwythnos. Efallai y byddai’n rhaid i chi guddio eich gliniadur a’ch ffôn symudol, neu ofyn i rywun eu cuddio ar eich rhan!

    (Nodwch sut rydych chi’n teimlo ar y dechrau. Yn ddigyswllt, efallai, yn rhwystredig, yn ddiamynedd gyda’r cyflymder bywyd araf hwn, neu hyd yn oed â’r nerfau’n fregus.)

    - Defnyddiwch yr amser rhydd fydd gennych chi i wneud rhywbeth gwahanol, fel darllen llyfr, cerdded am dro, ymweld â ffrind, gweithio ar ryw hobi sydd gennych chi.

    -  Syllwch allan trwy’r ffenestr. Mae Levy’n dweud eich bod wrth wneud hyn, dim ond am ddau funud hyd yn oed, yn hyfforddi eich ymennydd i arafu.

    -  Chwiliwch am ardd y gallech chi gerdded neu eistedd ynddi, a mwynhau’r heulwen.

  5. Ysgrifennodd Hanna Rion, a oedd yn arlunydd fyddai’n hoffi tynnu lluniau gerddi a thirluniau, ‘The greatest gift of the garden is the restoration of the five senses.’ Rhodd fwyaf yr ardd yw gallu adfer y pum synnwyr.

    Mae’n ddigon posib mai dyna fyddai’r oedolion yn eich teulu ei angen hefyd! Fe allwch eu sicrhau eich bod wedi clywed o le da ei fod yn iawn iddyn nhw segura yn yr ardd. 

    Dyma ddyfyniad gan yr athronydd Sam Keen: ‘Deep summer is when laziness finds respectability.’ Yng nghanol yr haf, mae’n iawn i chi ddiogi rhywfaint.

  6. Efallai na ddylem fod yn rhyfeddu cymaint ynghylch yr effaith y gall gardd ei gael arnom. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod Duw, wrth greu bodau dynol ar ei ddelw ei hun, wedi eu gosod mewn gardd hyfryd, ac yn yr awel ffres gyda’r nos fe fyddai’n dod i siarad gyda’i ffrindiau yno.

    Mae’n debyg y dylen ni arafu, a mwynhau harddwch y byd sydd o’n cwmpas, yn enwedig yn ystod dyddiau’r haf.

Amser i feddwl

Ydych chi’n meddwl bod ymennydd popcorn gennych chi?

Ar ddechrau gwyliau’r haf mae gennym ni gyfle i ddiffodd technoleg, a rhoi gwyliau bach i’n hymennydd trwy ddechrau gwerthfawrogi a mwynhau bywyd ar gyflymdra arafach.

(Diweddwch y gwasanaeth gydag un o’r ymarferion canlynol.)

1.  Treuliwch foment neu ddwy i arafu ac ailgysylltu â’ch synhwyrau. 

Anadlwch yn ddwfn nifer o weithiau. 
Beth ydych chi’n gallu ei glywed? 
Beth ydych chi’n gallu ei arogli? 
Sut mae eich ymwybyddiaeth wedi cael ei ddwysáu? 
Sut rydych chi’n teimlo?

2.  (Chwaraewch y recordiad o’r adar yn canu ar doriad y wawr: gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

Treuliwch foment neu ddwy yn gwrando ar y recordiad o’r adar yn canu ar doriad y wawr.


Dychmygwch mai mewn gardd heb fod ymhell oddi wrthych chi mae hyn yn digwydd.

Gweddi
Dduw hollalluog,
rydyn ni’n ddiolchgar am y symudiadau enfawr ymlaen sydd wedi digwydd yn ein hoes ni ym myd technoleg.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r cyfoeth o wybodaeth sydd gennym ar flaenau ein bysedd,
a’r gallu i gysylltu â phobl ledled y byd,
a’r symudiadau gwych ymlaen ym myd iechyd oherwydd cymhorthion cyfrifiadurol.
Rydyn ni’n ymwybodol, er hynny, nad yw ein hymennydd wedi ei wneud i ddelio â symbyliadau parhaus o’r math hwn.
Rydyn i’n gofyn am dy faddeuant di pan fydd ein cariad at dechnoleg wedi golygu ein bod yn niweidio ein cyrff,
ac yn torri ein hunain oddi wrth y byd real a’i holl harddwch,

a’r holl sydd ganddo i’w ddysgu i ni. 
Helpa ni ddod o hyd i’r cydbwysedd sy’n ein cadw ni’n iach 
ac yn ein cadw mewn cyswllt â’r byd bob dydd real a’i anghenion.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Chwaraewch gerddoriaeth sy’n gysylltiedig â’r ardd, fel er enghraifft, ‘The walk to paradise garden’ gan Delius.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon