Yr Haf Gyda George Gershwin
Dathlu gallu creadigol y cyfansoddwr Americanaidd, George Gershwin.
gan Tim and Vicky Scott
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dathlu gallu creadigol y cyfansoddwr Americanaidd, George Gershwin.
Paratoad a Deunyddiau
- Am ragor o wybodaeth am George Gershwin edrychwch ar y wefan: http://en.wikipedia.org/wiki/George_Gershwin
- Cewch restr lawn o gyfansoddiadau George Gershwin ar en.wikipedia.org/wiki/List_of_compositions_by_George_Gershwin
- Fe fydd arnoch chi angen hen recordiad o glasur George Gershwin, ‘Summertime’ (er enghraifft, gan Louis Armstrong ac Ella Fitzgerald) a hefyd recordiad modern gan artist cyfoes fel Leona Lewis neu Norah Jones.
- Efallai yr hoffech chi gwtogi’r adran fywgraffyddol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3.
Gwasanaeth
- Chwaraewch y recordiadau sydd gennych chi o’r gerddoriaeth ‘Summertime’, a holwch y myfyrwyr ydyn nhw wedi clywed y gerddoriaeth o’r blaen, ac a ydyn nhw’n gwybod pwy gyfansoddodd y gân.
‘Summertime,
And the livin’ is easy.
Fish are jumpin’
And the cotton is high.’
Mae’r geiriau enwog hyn yn dod o’r gân ‘Summertime’, gan George Gershwin, a gyfansoddodd ar gyfer ei opera, Porgy and Bess yn 1935 (Gershwin ysgrifennodd y gerddoriaeth; ysgrifennwyd y geiriau gan yr Americanwr duBose Heyward). Fe ddaeth y gân yn glasur jas yn fuan iawn, ac yn ôl Wikipedia, mae’n un o’r caneuon sydd wedi cael ei chanu fwyaf gan gerddorion eraill yn hanes cerddoriaeth sydd wedi’i recordio, gyda mwy na 33,000 o ‘covers’ gan grwpiau a pherfformwyr unigol.
Holwch y myfyrwyr ydyn nhw’n gallu enwi unrhyw gerddoriaeth arall gan Gershwin. (Ei weithiau enwocaf yw’r cyfansoddiadau ar gyfer cerddorfeydd Rhapsody in Blue ac An American in Paris, yn ogystal â’r opera Porgy and Bess. Ymysg y caneuon unigol mae ‘I got rhythm’, ‘Swanee’, ‘Strike up the band’, ‘I got plenty o’ nuttin’’, ‘It ain’t necessarily so’, ‘They can’t take that away from me’.) - Felly, pwy oedd George Gershwin?
Gershwin oedd un o’r cyfansoddwyr clasurol/jas enwocaf a mwyaf poblogaidd yn yr ugeinfed. Mae ei gerddoriaeth wedi cael effaith fawr ar gerddoriaeth boblogaidd ac ar ffilmiau cyfoes (er enghraifft, cafodd ei gerddoriaeth ei defnyddio ar gyfer y ffilm Four Weddings and a Funeral, a nifer fawr o ffilmiau eraill). Cyfansoddodd sgoriau cyflawn ar gyfer sioeau cerdd Broadway ac ar gyfer ffilmiau cerdd Hollywood, yn ogystal â gweithiau clasurol, cerddoriaeth jas arbrofol yn aml, gweithiau unigol ar gyfer y piano, a nifer fawr o ganeuon poblogaidd.
Ar y radio, yn yr Hall of Fame, Classic FM pleidleisiwyd fod Rhapsody in Blue gan Gershwin yn rhif 22 o’r cyfansoddiadau clasurol mwyaf poblogaidd erioed.
Fe fyddai’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgrifenwyr. Yn aml, fe fyddai’r geiriau ar gyfer ei gerddoriaeth yn cael eu hysgrifennu gan ei frawd Ira.
Fe ddywedodd George Gershwin, ‘Music must reflect the thought and aspirations of the people and time. My people are Americans. My time is today.’ - Cafodd George Gershwin ei eni yn Brooklyn, Efrog Newydd, ar 26 Medi 1898, yr ail o bedwar o blant. Mewnfudwyr oedd ei rieni yn Efrog Newydd. Un o Ukrain oedd ei dad, ac un o Rwsia oedd ei fam, y ddau o deuluoedd Iddewig.
Clywed ffrind iddo’n chwarae’r ffidil a ysbrydolodd George i ddysgu cerddoriaeth. Pan oedd yn 10 oed, fe ddechreuodd ymarfer ar biano’r teulu. Pan oedd yn 12 oed, cafodd ei gyflwyno i bianydd o’r enw Charles Hambitzer, a ddaeth yn athro arno ac yn fentor. Fe ddysgodd Charles Hambitzer iddo ganu’r piano’n dda, a’i annog i fynd i gyngherddau. Hefyd fe helpodd Hambitzer ef i ddatblygu diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol Ewropeaidd.
Cyhoeddodd George ei gân gyntaf pan oedd yn 17 oed, ac ennill pum doler. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd ei gân ‘Swanee’, a ysgrifennwyd dair blynedd yn ddiweddarach, ac a berfformiwyd gan un o sêr Broadway, Al Jolson.
Gwaith clasurol mawr cyntaf George, a’i waith mwyaf poblogaidd, oedd Rhapsody in Blue, a gyfansoddwyd yn 1924 ar gyfer band jas a phiano.
Yn 1927, fe ysgrifennodd y sioe gerdd lwyfan Strike up the Band, ac fe roddodd y gân agoriadol yn rhodd i’r Brifysgol Americanaidd, UCLA, er mwyn i’r tîm pêl-droed yno ei defnyddio mewn gemau.
Yn y flwyddyn 1928 fe gyfansoddodd George gerdd ‘a symphonic tone poem’, o’r enw An American in Paris, tra roedd yn astudio cerddoriaeth glasurol am gyfnod byr ym Mharis. Roedd dylanwad cyfansoddwyr Ffrengig dechrau’r ugeinfed ganrif yn fawr ar ei waith, cyfansoddwyr fel Claude Debussy a Maurice Ravel. Yn 1928, gwnaeth George gais am gael astudio gyda Ravel ym Mharis, ond gwrthododd y cyfansoddwr Ffrengig ef oherwydd roedd yn ofni y byddai astudiaeth glasurol ddwys yn difetha’r arddull jas a oedd wedi gwneud Gershwin yn fyd enwog. Honnir bod Ravel wedi dweud wrtho, ‘Pam bod yn Ravel eilradd a thithau’n Gershwin rhagorol? - Why be a second-rate Ravel, when you are a first-rate Gershwin?’
Yn ogystal â phrofi llwyddiant tanbaid, fe brofodd George fethiannau arwyddocaol hefyd. Yn 1929, profodd rwystredigaeth a digalondid pan wrthododd Fox Film Corporation ei sgôr gyntaf ar gyfer ffilm yn Hollywood. Ac roedd y beirniaid yn feirniadol iawn o’r opera Porgy and Bess, a gyfansoddodd yn 1935, ac fe fu’n fethiant o ran gwerthiant tocynnau i’w gweld. (Er hynny, mae’n cael ei chydnabod erbyn hyn, yn un o operâu Americanaidd mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.)
Yn 1936, saith mlynedd ar ôl i’w sgôr ffilm gael ei gwrthod, fe gyfansoddodd y sgôr ar gyfer y ffilm jas-bale Hollywood o’r enw Shall We Dance. Yn 1937, derbyniodd Gershwin enwebiad ar gyfer Oscar am y Gân Wreiddiol Orau, am ‘They can’t take that away from me’, a ysgrifennwyd ar gyfer y ffilm honno, gyda’r geiriau gan ei frawd Ira. Ond yn drist iawn, fe ddaeth yr enwebiad yn fuan wedi iddo farw.
Daeth bywyd Gershwin i ben yn gynnar a thrasig o ganlyniad i dyfiant niweidiol ar yr ymennydd. Bu farw ar 11 Gorffennaf 1937, pan oedd yn ddim ond 38 oed.
Cariad bywyd Gershwin oedd cyfansoddwraig o’r enw Kay Swift, ac fe fyddai’n gofyn ei barn yn aml am ei waith. Wnaethon nhw ddim priodi, mae’n debyg am fod mam George ddim yn cymeradwyo iddo ei phriodi am nad oedd Kay o dras Iddewig. Roedd hyn yn golygu, yn eironig, bod cyfoeth sylweddol Gershwin, pan fu farw, wedi ei basio i’w fam. (Yn 2005, nodwyd yn y papur newydd, y Guardian, eu bod yn amcangyfrif, gan gymryd i ystyriaeth yr enillion roedd cyfansoddwr wedi’u hennill yn ystod ei fywyd, mai Gershwin oedd y cyfansoddwr cyfoethocaf erioed. Erbyn hyn, cyfansoddwyr ffilmiau a sioeau cerdd, fel John Williams ac Andrew Lloyd Webber yw rhai o’r cyfansoddwyr mwyaf cyfoethog sy’n byw heddiw.) - Mae theatr yn Broadway heddiw sydd wedi ei henwi ar ôl George Gershwin a’i frawd Ira. Ac mae’r Brifysgol Americanaidd UCLA wedi sefydlu gwobr am gyflawniad cerddorol er cof am George ac Ira Gershwin (ymysg rhai o’r cerddorion sydd wedi ennill y wobr honno mae Frank Sinatra, Stevie Wonder a Lionel Richie).
Mae si ar led bod y cyfarwyddwr ffilm, Stephen Spielberg, yn ystyried cyfarwyddo ffilm am fywyd George Gershwin, gyda’r actor enwog a fu yn Star Trek, Zachary Quinto, yn ymddangos ynddi. Gwyliwch y gofod!
Amser i feddwl
Meddyliwch eto am reswm Ravel dros wrthod addysgu Gershwin: ‘Why be a second-rate Ravel, when you are a first-rate Gershwin?’
Mae pob un ohonoch chi’n unigryw ac arbennig. Peidiwch â cheisio bod yn unrhyw un arall heblaw chi eich hun, y ffordd y mae Duw wedi eich creu chi - yn gyfan ac yn hapus ynoch chi eich hun. Dyna mewn gwirionedd mae’n ei olygu i fod yn llwyddiannus. Does neb erioed yn union yr un fath â chi wedi bod o’r blaen, a fydd neb eto ychwaith, byth!
Roedd Iesu’n addysgu’r bobl fod gwir hapusrwydd yn dod o wybod bod Duw’n eich caru chi. Fe allwch chi gael yr hapusrwydd y mae Duw’n ei roi, waeth beth yw eich sefyllfa, waeth beth fydd yr anawsterau y byddwch chi’n eu hwynebu.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am athrylith greadigol George Gershwin.
Mae’r gerddoriaeth a gyfansoddodd yn parhau, ac yn cael ei charu gan lawer.
Dysga ni i fyw yn y fath ffordd fel bod ein bywydau fel alaw hyfryd o foliant am dy holl ddaioni di.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
Chwaraewch unrhyw ddarn o gerddoriaeth gan Gershwin y bydd y myfyrwyr yn mwynhau gwrando arno.