Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Olygfa O'r Top

Gweld bywyd o bersbectif gwahanol

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog myfyrwyr i ystyried pam y dylen nhw wynebu, yn hytrach nac osgoi, sefyllfaoedd anodd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gerdd ‘Climbing Suilven’ i’w chael yn y gyfrol Norman MacCaig - Collected Poems (Chatto Poetry, Chatto & Windus). Ac mae copïau (anghyfreithlon) i’w cael mewn gwahanol fannau ar y rhyngrwyd.
  • Mae stori Iesu yn esgyn i’r mynydd, a’i weddnewidiad, i’w chael mewn tair o’r Efengylau. Dewiswch rhwng Mathew 17.1–8, Marc 9.2–13 a Luc 9.28–36.

Gwasanaeth

  1. Honnir bod y dringwr, George Mallory, wedi ateb y cwestiwn, ‘Pam rydych chi eisiau dringo Mynydd Everest?’ gyda’r sylw, ‘Am ei fod yno.’ 

    Mae rhywbeth am unrhyw fryn neu fynydd yn gwneud i bobl fod eisiau ei ddringo. Fe allai hynny olygu tro bach hamddenol i fyny llwybr troellog, neu grafangio ymdrechgar dros greigiau a thrwy isdyfiant mwdlyd. Ond yn achos pawb sy’n ymgymryd â’r her, waeth pa mor anodd, fe fydd teimlad o gyffro yn dod gyda’r ychydig fetrau olaf, wrth weld y wlad oddi tanoch a chithau’n gweld gwychder yr olygfa o’r top. 

  2. (Darllenwch gerdd Norman MacCaig, ‘Climbing Suilven’ amdano’i hun yn dringo mynydd mewn rhan anghysbell o Ucheldiroedd yr Alban, sy’n darlunio’r ymdrech fawr a’r wobr a gafodd o olygfa hardd o’r copa.)

    Mae’n amlwg bod yr ymdrech oedd ei hangen i gyrraedd y copa yn enfawr, ond roedd y wobr yn nhermau golygfa wych o’r top, a’r synnwyr o gyflawniad, yn gwneud iawn am y poenau yn y coesau a’r diffyg anadl a churiad calon cyflym. Fe allwch chi weld pethau o ben mynydd na fyddech chi’n eu gweld o’i odre. 

  3. Fe fyddai Iesu’n dringo i ben bryn neu fynydd yn rheolaidd. Roedd pen bryn yn hoff fan cyfarfod ganddo pan fyddai’n pregethu ac yn addysgu’r bobl. Mae un rhan o Efengyl Mathew yn cael ei galw’n ‘Bregeth ar y Mynydd’.

    Un waith fe aeth Iesu â Pedr, Iago ac Ioan, tri o’i ddilynwyr agosaf, i ben mynydd, ymhell oddi wrth y torfeydd fyddai’n ei ddilyn i bob man. Yno, fe welodd y tri disgybl Iesu mewn goleuni hollol newydd. Mae’r adroddiad yn yr Efengylau’n disgrifio sut y gwelodd y tri disgybl Iesu’n newid, o ran y ffordd yr oedd yn edrych, ac fe glywon nhw lais Duw’n siarad o’r nefoedd. Ar ben y mynydd hwnnw fe wnaeth Pedr, Iago ac Ioan werthfawrogi pwy oedd Iesu, a sylweddoli sut roedd yn gweld ei genhadaeth mewn bywyd.

Amser i feddwl

Mae bywyd yn llawn heriau. Mae rhai’n ymddangos eu bod o fewn ein cyrraedd yn hawdd. Mae eraill yn ymgodi drosom ni fel mynyddoedd uchel, ac yn ffurfio rhwystr sy’n ein gwahanu o ble’r hoffen ni fod mewn gwirionedd.

Mae’n bosib i’r her fod ar sawl ffurf wahanol. Efallai mai unigolyn arall y mae’n rhaid i ni ei wynebu, perfformiad y mae angen ei roi, neu dasg i’w chyflawni, fe allai fod yn gais am gymorth, neu’r angen i ymddiheuro, neu demtasiwn i’w osgoi. Fe allai fod yn demtasiwn i gymryd y ffodd hawdd, gan osgoi’r her a’r ymdrech i oresgyn yr anhawster. Hawdd fyddai meddwl, a gobeithio, y byddai pawb efallai’n anghofio am y sefyllfa cyn hir.

Sut bynnag, mae’n bosib y byddai cyfle’n cael ei golli wrth gymryd y ffordd hawdd. Fe wnaeth Norman MacCaig, a disgyblion Iesu, ddarganfod eu bod, trwy ymdrechu i ddringo’r mynydd a goresgyn y rhwystr, wedi gweld pethau o bersbectif hollol newydd.

Wrth i ni fynd i’r afael â rhwystrau, mae ein bywyd yn newid. Fe fyddwn ni’n dysgu rhywbeth newydd amdanom ein hunain: ein penderfyniad, ein dewrder, a’n hadnoddau personol ein hunain. Mae’n bosib hefyd y byddwn ni’n dysgu rhywbeth am bobl eraill yn y ffordd y byddan nhw’n ymateb i’n geiriau a’n gweithredoedd.

Trwy gyrraedd y copa rydyn ni’n gweld pethau o bersbectif newydd na fydden ni byth wedi eu gweld wrth aros yn ddiogel wrth odre’r mynydd. Mae’n werth dringo bryn neu fynydd ambell dro.

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch am yr heriau y byddwn ni’n eu hwynebu.

Gad i ni weld pob her, nid fel rhwystr

ond fel cyfle i weld pethau o bersbectif gwahanol.

Gad i ni fod â’r disgwyliad a’r penderfyniad i wynebu’r her

ac yna i fwynhau’r safbwynt trawsffurfiol.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

‘Climb every mountain’ – The Sound of Music (gyda’r tafod yn y foch!)

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon