Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Steil Neu Bwrpas

Pa mor bwysig yw ymddangosiad mewn gwirionedd?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ganolbwyntio mwy ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn hytrach nag ar y ffordd maen nhw’n edrych.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch ddau i ddarllen (un bachgen ac un ferch).
  • Efallai yr hoffech chi ddangos esiamplau o ddyluniadau technolegol y cwmni Apple yn rhannau olaf y gwasanaeth. Os nad oes gennych chi rai o’r rhain eich hun, efallai y bydd gan aelodau eraill o’r staff rai i’w dangos.
  • Mae geiriau Iesu am y beddau wedi eu gwyngalchu i’w cael yn Efengyl Mathew 23.27–28.

Gwasanaeth

  1. Rydw i wedi clywed bod dau fyfyriwr wedi ymuno â’r Cyngor Steil. Maen nhw eisiau sôn am hynny wrthym ni heddiw.

    Darllenydd 1 (bachgen)  Fe ddylech chi weld yr esgidiau pêl-droed rydw i newydd eu prynu. Rhai coch ydyn nhw, gyda streipen felen o’r cefn i flaen yr esgid. Mae’r gwadn yn ddu, ac yn rhan o’r gwadnau mae styds arbennig, ffasiwn newydd, ar ffurf ôl troed llewpard. Fe allwch chi weld eu bod yn esgidiau arbennig iawn, hyd yn oed os byddwch chi’n sefyll ar y llinell ystlys. Fe fydda i’n destun edmygedd pob un o’r chwaraewyr ac yn denu’r sylw i gyd cyn gynted ag y byddaf yn camu allan o’r ystafell newid.

    Dydw i ddim wedi chwarae ynddyn nhw eto gan nad ydw i eisiau eu baeddu.

    Darllenydd 2 (merch)  Pan fydda i yn y clyweliad ddydd Sadwrn, fe wna i argraff go iawn ar y panel beirniaid. Mae’r ffrog rydw i wedi ei phrynu’n ffrog unigryw iawn. Does dim ffrog debyg iddi i’w chael yn unrhyw un o siopau’r stryd fawr. Ar-lein rydw i wedi ei harchebu. Wrth i chi symud mae’r lliwiau’n newid o las i wyrdd ac i borffor. Felly, fe alla i wneud pob math o bethau gyda fy ngholur i gyd-fynd â’r ffrog. Tybed a ddylwn i liwio fy ngwallt hefyd i gyd-fynd â’r ffrog arbennig anhygoel hon? Fe allwn i gael rhesi glas, gwyrdd a phorffor bob yn ail.

    Dydi’r ffrog ddim wedi cyrraedd eto, felly dydw i ddim hyd yn oed wedi cael ei rhoi amdanaf. Dwi’n gobeithio y bydd hi’n ffitio. O! Dwi’n siwr y bydd hi’n ffitio fel maneg! Tybed ddylwn i fwrw golwg dros fy sgript? Fe wna i os caf amser.

  2. Mae’n debyg bod gan lawer ohonoch chi declynnau technolegol fel iPod, iPhone, iPad neu rywbeth o’r fath. Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch chi wedi clywed am Steve Jobs, y grym gyrru oedd y tu ôl i gwmni Apple, y cwmni sy’n cynhyrchu’r i-dechnoleg hon. Yn drist iawn, fe fu farw Steve eleni (2012).

    Sut bynnag, fel gyda llawer o ddatblygiadau newydd, mae rhywun arall bob amser yn y cefndir y mae ei gyfraniad i ddatblygiad y dyfeisiadau wedi bod yr un mor bwysig. Ac yn yr achos hwn, mae’r unigolyn hwnnw’n dod o Brydain!

    Jonathan Ive yw enw’r cynllunydd sydd y tu ôl i lawer o’r teclynnau technolegol a barodd i gwmni Apple ddod mor enwog. Yn gynharach eleni, cafodd ei gyfraniad ei gydnabod pan anrhydeddwyd ef farchog am wasanaeth i gynllunio a menter. Urddwyd ef yn Sir Jonathan Ive.

  3. Ond beth yn union y mae dylunydd yn ei wneud, a pham y mae cyfraniad Jonathan wedi bod mor nodedig?

    Pan fyddwch chi, mewn gwers dechnoleg, yn cael tasg i greu dyluniad, mae’n demtasiwn ceisio creu’r cynllun mwyaf gwreiddiol a mwyaf anghyffredin bosibl. Rydyn ni’n tueddu i feddwl mai creu rhywbeth anghyffredin a hollol wahanol i’r arfer yw dylunio. 

    Ond athroniaeth wahanol yw athroniaeth Jonathan Ive: mae ef bob amser wedi dechrau o’r safbwynt mai offer yw cynnyrch Apple yn eu hanfod, ac fe ddylai eu cynllun adlewyrchu hynny. Mewn geiriau eraill, mae swyddogaeth y teclyn – sef yr hyn mae’n ei wneud – yn bwysicach na’i steil – sef sut mae’r teclyn yn edrych. 

    Dadl Jonathan Ive yw os ydych chi’n darganfod y datrysiad ymarferol, yr un sy’n bendant yn fwyaf amlwg a phriodol, yna fe all rhywbeth felly ddatblygu’n glasur ym myd pethau wedi’u dylunio. Mewn geiriau eraill, os yw’r peth yn gweithio yn y ffordd orau bosib, yna fe fydd hefyd yn edrych yn dda ac yn teimlo’n iawn. 

    Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno â’r athroniaeth honno mewn cysylltiad â’r teclynnau Apple y maen nhw wedi’u defnyddio.

  4. Mae’n demtasiwn treulio llawer o amser yn pryderu am sut olwg sydd arnom ni, ac yn cynllunio ein hedrychiad. Rydyn ni eisiau arddangos delwedd neilltuol, er mwyn bod yn cwl, bod yn hunanfeddiannol, a bod ar flaen y gad. Rydyn ni hefyd eisiau cuddio’r hyn rydyn ni’n ei deimlo am ein diffygion. Rydyn ni’n deall bod yr olwg gyntaf yn cyfrif llawer yn ein cymdeithas ni heddiw. 

    Dyna beth oedd ym meddwl y cymeriadau roedd y ddau fyfyriwr yn eu portreadu gynnau. 

  5. Unwaith, fe ddisgrifiodd Iesu grwp o bobl a dweud eu bod fel beddau wedi eu gwyngalchu. Fe ddywedodd eu bod yn edrych yn dda, yn lân ac yn ddeniadol o’r tu allan, ond y broblem oedd, mai cnawd pydredig drewllyd oedd y tu mewn iddyn nhw. Roedd golwg yn gallu bod yn dwyllodrus.

    Tybed all hynny fod yn wir am y ddau gymeriad welsoch chi gynnau. Ydi (enw) yn beldroediwr mor ddawnus ag y mae ei esgidiau’n ein harwain i gredu? Ydi (enw) mewn difrif yn mynd i gael ei dewis i gymryd rhan yn y ddrama?

    Fe fyddai Sir Jonathan Ive yn awgrymu y dylen ni ddechrau trwy ofyn i ni ein hunain, ‘I ba bwrpas rydyn ni yma? Beth yw ein swyddogaeth?’

    Mae angen i’r peldroediwr gaffael y sgiliau angenrheidiol i fod yn rhan o dîm, lle mae pob un o’r chwaraewyr yn cyd-chwarae er mwyn ennill gemau. Mae angen i’r actor neu’r actores arddangos ei sgiliau perfformio er mwyn cael ei ddewis neu ei dewis i chwarae’r rhan.

    Mae’r esgidiau a’r ffrog yn amherthnasol os nad yw’r hyn sydd o’r tu mewn i’r cymeriad o unrhyw werth.

Amser i feddwl

Beth yw ein swyddogaeth yng nghymuned yr ysgol hon? I ba bwrpas rydyn ni yma?

(Treuliwch ychydig o amser yn trafod y gwerthoedd sy’n cael eu rhannu o fewn eich ysgol.)

Gadewch i ni ganolbwyntio ar gael y rhan honno’n iawn, ac yna rwy’n siwr y byddwn ni’n gallu gweld ein bod i gyd yn dod yn bobl fwy atyniadol.

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch am yr holl ddewisiadau sydd gennym ni.

Diolch am y boddhad a gawn

wrth wneud ein hunain i edrych yn dda.

Ond, gad i ni hefyd dreulio peth amser

yn datblygu personoliaethau atyniadol a defnyddiol,

fel y bydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud

yn cyfateb i’r ffordd rydyn ni’n edrych.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Devil in disguise’ gan Elvis Presley

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon