Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Uffern Y 'Maint Mawr'

Cwestiynu’r cwlt ‘maint mawr’.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cwestiynu’r cwlt ‘maint mawr’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os yw’n bosib, llwythwch i lawr yr adran berthnasol oddi ar y wefan: www.bbc.co.uk/programmes/b01k0fs0 (‘The men who made us fat’);
    neu: www.imdb.com/title/tt0390521/ (‘Supersize me’);
    Os oes unrhyw aelod o’r staff neu un o’r myfyrwyr wedi colli llawer o bwysau’n ddiweddar (rhaid i chi fod yn hynod o sensitif wrth drafod hyn!) gofynnwch iddyn nhw fydden nhw fodlon siarad am sut y gwnaethon nhw hynny.
  • Fe allech chi gyflwyno rhannau agoriadol y gwasanaeth hwn ar ffurf drama.

Gwasanaeth

  1. Pe byddech chi’n mynd i’r rhan fwyaf o’r siopau coffi ar y stryd fawr, fe fyddai’r un sy’n paratoi’r gwpanaid i chi’n cymryd mai cwpanaid o faint canolig y byddech chi’n dymuno’i chael, nid cwpanaid fach.

    Pe byddech chi’n prynu popcorn yn y sinema, mae’n debyg y byddech chi’n cael cynnig prynu pecyn mawr, yn hytrach nag un maint canolig neu hyd yn oed un bach.

    Pan fyddwch chi’n prynu byrger, fe welwch chi bosteri’n cynnig ‘meal deal’ i chi, gyda’r dewis o becyn mawr o sglodion os hoffech chi.

    Y tro nesaf y bydd rhywun o’ch teulu chi’n prynu petrol, edrychwch ar y cownter yn ymyl y man talu - yn aml fe fydd bariau siocled ar werth yno am bris gostyngol.

  2. Fe ddechreuodd y ffenomen ‘maint mawr’ hon sawl blwyddyn yn ôl bellach mewn sinema Americanaidd, ac fe symudodd y rheolwr oddi yno wedyn i weithio i’r cwmni o siopau cadwyn mwyaf yn y byd, o bosib, sy’n gwerthu byrgers. Fe gododd yn gyflym trwy rengoedd y cwmni wrth iddo gyflwyno’r ffenomen ‘maint mawr’ i weddill y byd.

    Mae’r ‘maint mawr’ wedi datblygu’n rhyw fath o symbol statws. Mae faint o fwyd y gallwch chi ei fwyta wedi dod yn symbol (mewn ffordd od) o ba mor fawr a chaled ydych chi.

  3. Rhan o’r broblem, fodd bynnag yw lle mae’n ymwneud â bwyd, dydyn ni ddim yn rhoi digon o ystyriaeth i’n cyrff, a dim yn sylweddoli beth a faint, mewn gwirionedd, sydd ei angen ar y corff. Ffactor arall yw bod cymaint o fwyd ar gael i ni yng ngwledydd y gorllewin. Oherwydd, fe allen ni fwyta bob awr o’r dydd, bob dydd, pe bydden ni eisiau - ac mae rhai yn gwneud hynny. Neu, fel mae’r dywediad Saesneg yn nodi - Because we can graze all day, every day, we do!

    Nid dim ond mater o galorïau yn hyn. Er enghraifft, fe fydd rhai myfyrwyr coleg yn peidio â bwyta ar ddiwrnod pan fyddan nhw’n mynd allan i yfed, gan feddwl y bydd y calorïau sydd yn y diodydd yn gydradd â’r calorïau y bydden nhw wedi eu cael yn y bwyd pe bydden nhw wedi bwyta. O ran nifer y calorïau, efallai y byddai hynny’n wir, ond wrth i ni fwyta pryd o fwyd fe gawn ni ein calorïau o amrywiaeth o wahanol fwydydd, ac mae pob math neilltuol yn dod â’i fath neilltuol o faetholion.

    Dim ond calorïau siwgr sydd mewn gwin, lle mae platiaid o ginio’n cynnwys calorïau o brotein, carbohydradau, braster a rhai o’ch ffrwythau a llysiau pump y dydd. Mae angen y maetholion hyn ar eich corff i’w defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i’ch cadw’n iach ac yn heini. Mae siwgr, mewn cyferbyniad â hyn, yn rhoi calorïau ‘gwag’ i chi, calorïau sydd yn rhoi dim ond egni, dim byd i gadw’r corff yn iach.

  4. O ganlyniad, rydyn ni’n gyffredinol fel cenedl yn mynd yn bobl dewach a thewach. Ond yn eironig, mae rhai’n mynd yn deneuach a theneuach wrth i’w perthynas â bwyd ddechrau mynd yn broblemus, ac ambell dro fe all hynny arwain at broblemau iechyd meddwl hefyd.

    Mae dilyn diet dan reolaeth, gan golli’r pwysau’n raddol bach, yn beth da os oes angen colli pwysau arnoch chi. Fel arall, mae’n synhwyrol cadw llygad ar yr hyn y byddwn ni’n ei fwyta, gan ei bod hi’n hawdd iawn ennill pwysau a mynd yn ordew gyda’r holl fwydydd da sydd ar gael o’n cwmpas ym mhob man.

  5. Felly, beth fedrwn ni ei wneud i osgoi’r uffern ‘maint mawr’?

    Pe byddai pawb yn dweud, ‘Na, cwpanaid fach o goffi, os gwelwch yn dda,’ yn y siopau coffi, fe fyddai’r siopau’n peidio â chynnig ‘paneidiau mawr’.

    Pe byddai pawb yn dweud, ‘Na, dim diolch,’ wrth weld y bariau siocled mawr am bris gostyngol wrth dalu am y petrol, fyddai’r siocled ddim yn cael y lle amlwg yno ar y cownter wedyn.

    Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, ysgrifennwch at y gwahanol gwmnïau gan ofyn iddyn nhw egluro’r tactegau sydd ganddyn nhw yn eu cynllun marchnata.

    Mewn rhai dinasoedd yn Unol Daleithiau America, ac yng ngwledydd Sgandinafia, mae’r diodydd meddal ‘maint mawr’ yn cael eu gwahardd oherwydd eu bod yn cynnwys yr holl galorïau siwgr. Fe allen ni bwyso ar ein llywodraeth i fabwysiadu’r un polisi - ysgrifennwch at eich cyngor lleol neu eich Aelod Seneddol.

    A phenderfynwch wrthod prynu’r diodydd ‘maint mawr’ rhain yn y sinemâu, a’r allfeydd eraill, fel parciau thema.

    Ewch i’r arferiad o ddarllen y cyfarwyddiadau dietegol sydd ar y pecynnau bwyd wrth i chi eu prynu. Mae’r labeli ar rai o’r bwydydd wedi’u lliwio’n goch, yn felyn, neu’n wyrdd, er mwyn nodi cynnwys uchel, canolig neu isel o fraster, siwgr neu halen. Ceisiwch osgoi’r bwydydd sy’n cario’r label goch. Wrth wneud hynny, fe fyddwch yn gwybod bod yr hyn rydych chi wedi’i brynu’n fwyd iachus.

Amser i feddwl

Dim ond un corff gawn ni. Ein cyfrifoldeb ni ein hunain yw sut rydyn ni’n trin y corff hwnnw.

Mae arnom ni i gyd angen bwyd da, ymarfer rheolaidd, ein ‘pump y dydd’ o lysiau a ffrwythau, a digon o gwsg.

Meddyliwch am y llefydd rydych chi’n mynd iddyn nhw sy’n cynnig i chi ddiodydd neu ddognau o fwyd ‘maint mawr’ yn hytrach na maint canolig neu fach. Sut gallech chi ofyn yn garedig iddyn nhw am ddogn maint llai?

Sut y gallwch chi fwyta’n rheolaidd ychydig bach mwy o fwyd iach ac ychydig llai o’r bwydydd sydd heb fod mor dda ar eich lles – fe wyddoch chi beth rydw i’n ei olygu!

A gadewch i ni ddiolch i Dduw am y bwyd ardderchog sydd ar gael i ni yn y wlad hon – y ffrwythau a’r llysiau, y cigoedd a’r cynnyrch llaeth. Rydyn ni wedi’n bendithio â digonedd, ond mae’n gallu bod yn felltith wrth i ni ei gamddefnyddio.

Gweddi

Dad nefol,

diolch i ti am y bwyd sydd gennym ar ein cyfer.

Helpa fi i fod yn gyfrifol yn y ffordd y byddaf yn bwyta ac yn yfed,

fel y gallaf drin fy nghorff gyda’r parch y mae ei angen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon