Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wythnos Y Senedd 2012

Dathlu democratiaeth fel thema ganolog Wythnos y Senedd 2012, ac archwilio prosesau democrataidd y D.U.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Dathlu democratiaeth fel thema ganolog Wythnos y Senedd 2012, ac archwilio prosesau democrataidd y D.U.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod rhywbeth o'r enw ‘Parliament Week - Wythnos y Senedd’, digwyddiad a fydd yn cael ei drefnu gan Senedd y D.U. yn digwydd rhwng 19 a 25 Tachwedd. Amcan yr wythnos yw cael pobl ar ledled y D.U. yn siarad am y Senedd, am wleidyddiaeth ac am ddemocratiaeth.

  2. Dangoswch y ffilm fer a luniwyd gan bobl ifanc yn rhan o Wythnos y Senedd flwyddyn yn ôl. Mae'r ffilm gyfan oddeutu 12 munud o hyd felly efallai yr hoffech chi chwarae detholiad, ac aros ymhen tua dau funud, pan fydd y siaradwr yn dweud ‘all their so-called sixth form have gone on to university’. 

  3. Mae llawer ohonom - staff, myfyrwyr a rhieni - o bosib wedi cwyno ryw dro am y 'nhw' ac rydym yn aml yn golygu pobl sydd mewn awdurdod, fel gwleidyddion yn un o'n seneddau cenedlaethol neu gynghorwyr ar ein cynghorau lleol. Byddwn yn clywed, neu hyd yn oed dweud, pethau fel:

    ‘Dydyn nhw ddim i'w gweld yn gwneud dim.’
    ‘Does ganddyn nhw ddim syniad beth yw bywyd go iawn.’
    ‘Maen nhw yno'n unig am yr arian.’

    Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cael eu hethol i'r Senedd neu i waith ar y cyngor yn gweithio'n galed ac yn ymrwymo'u hunain i newid y byd er gwell, a rhai, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lleol, yn gweithio heb gael cyflog oherwydd yr hyn y maen nhw'n credu ynddo.

  4. Os oes mater yr ydych chi’n awyddus i'w ddatrys ac yr hoffech chi i'ch Aelod Seneddol, Aelod Senedd Ewrop, neu gynghorydd tref neu ddinas, wneud rhywbeth amdano, ydych chi erioed wedi meddwl mai ar eich rhan chi y maen nhw'n gweithio? Fel y mae'r ffilm yn dangos, gallwch leisio'ch barn mewn gwahanol ffyrdd, a hyd yn oed os nad oes gennych hawl i bleidleisio hyd yn hyn, mae eich syniadau yn cyfrif.
    -  Mae gan y mwyafrif o bleidiau gwleidyddol adrannau a digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc. 
    -  Pe byddech chi'n ysgrifennu at eich Aelod Seneddol, fe dderbyniwch ateb. 
    -  Mae ymgyrchoedd sy'n ymwneud â phob math o faterion y gallwch ymuno â nhw (neu fe allech chi ddechrau un eich hun!).
    -  Mae gwefan, hyd yn oed, lle gallech chi ddechrau eich e-ddeisebau eich hun ar-lein.
    -  Gallwch newid pethau'n lleol trwy ymuno â chyngor ysgol neu gael eich ethol i helpu arwain clwb neu grwp.

  5. Gall gwleidyddiaeth ymddangos yn ddieithr, ac efallai eich bod yn teimlo nad oes ganddo fawr o ddim i'w wneud â’ch bywyd bob dydd chi, ond fel y mae Wythnos y Senedd yn dangos, fe allwch chi gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Daeth newidiadau enfawr i fod trwy weithredoedd pobl gyffredin yn ymwneud â gwleidyddiaeth: pleidlais i ferched, diddymu caethwasiaeth a chreu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er enghraifft. 

    Weithiau gall fod yn anodd iawn i newid rhai pethau, a gall gymryd amser hir, ond ni fyddai newid yn digwydd o gwbl heb i bobl gymryd rôl weithredol mewn democratiaeth, trwy ymgyrchoedd a thrwy ddefnyddio eu pleidleisiau'n ddoeth. 

  6. Eleni, fe ddechreuodd merch ysgol o'r enw Martha Payne ysgrifennu blog am ei chinio ysgol, gan roi asesiadau a dangos lluniau ohonyn nhw. Ar un adeg fe geisiodd ei chyngor lleol ei hatal, ond gyda phwysau o du pobl ar safleoedd cyfryngol cymdeithasol, yn fuan iawn llwyddwyd i adfer ei blog.  

    Gall pobl wneud gwahaniaeth – mae hynny hefyd yn rhan o ddemocratiaeth. 

  7. O bosib, nid yw ein system yn berffaith. Fe ddywedodd Winston Churchill, ‘It has been said that democracy is the worst form of government except all the others that have been tried from time to time.’ 

    Democratiaeth yw'r unig system sydd yn gwarantu llais i'r person cyffredin - ond rhaid i ni fod yn barod i ddefnyddio'r llais hwnnw.

    (Efallai yr hoffech chi atgoffa’r grwp y byddan nhw, ar ôl cyrraedd 16 oed, yn gallu paratoi ar gyfer yr etholiad nesaf trwy gofrestru i gael pleidleisio. Mae’r holl fanylion ar-lein. Gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

Amser i feddwl

Gan yr oedolion y mae’r bleidlais a’r grym ar hyn o bryd, ond mae’r dyfodol yn perthyn i chi. Beth wnewch chi â’r dyfodol, a sut gallwch chi ddechrau gwneud gwahaniaeth yn awr?

Cerddoriaeth

Chwaraewch gerddoriaeth brotest, fel ‘Peace train’ gan Cat Stevens, ‘Blowing in the wind’ gan Bob Dylan, neu unrhyw gan brotest arall sy’n ffefryn gennych chi.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon