Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Taro'n Ol

Archwilio ystyr trais ymhlith yr arddegau

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Egluro pa mor bwysig yw mynd i'r afael â thrais ar bob lefel. (Trafod rheoli teimladau).

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch bedwar darllenydd: trefnwch ddwy ferch i fod yn ddarllenwyr 1 a 3; a dau fachgen i fod yn ddarllenwyr 2 a 4.
  • Mae geiriau Iesu i’w cael yn Efengyl Mathew 5.39 (gwelwch yr adran ‘Amser i feddwl’).

Gwasanaeth

  1.  Arweinydd  Beth yw trais?

    Darllenydd 1  Os oes rhywun wedi bod yn siarad y tu ôl i’ch cefn, yn dweud pethau sydd ddim yn wir, mae’n iawn i chi eu gwrthwynebu. Os na fydd yr unigolyn hwnnw’n ymddiheuro, yna mae’n haeddu i rywun ei daro’n ôl. Nid trais yw hynny.

    Darllenydd 2  Os oes rhywun yn bygwth eich ffrind gorau, mae’n iawn i chi gefnogi eich ffrind, beth bynnag fydd hynny’n ei olygu. Allwch chi ddim gadael i rywun sy’n bwlio ddianc yn ddi-gosb. Nid trais yw hynny.

    Darllenydd 3  Nid yw gemau cyfrifiadurol yn real. Dim ond ffantasi ydyn nhw. Fe allwch chi ladd faint a fynnoch chi o elynion mewn gêm gyfrifiadurol, ac nid yw hynny’n amharu ar neb. Nid trais yw hynny.

    Darllenydd 4  Weithiau, efallai bod angen i chi roi ychydig mwy o berswâd ar eich cariad er mwyn datblygu perthynas fwy clos. Efallai nad yw hynny’n rhywbeth y mae ef neu hi’n barod amdano eto, ond fel yna mae pethau. Nid trais yw hynny. 

  2. Arweinydd  Mae ymchwil gan NSPCC dros y blynyddoedd diwethaf wedi datguddio penbleth bryderus o ran beth yw canfyddiad rhai yn eu harddegau o beth yw trais. Tybed, er enghraifft, beth oedd eich ymateb chi wrth i chi wrando ar y sylwadau a glywsoch chi nawr gan y pedwar myfyriwr. 

    Fyddech chi’n anwybyddu’r pethau sy’n cael eu dweud amdanoch chi y tu ôl i’ch cefn, neu a fyddech chi’n taro’n ôl? 

    Beth am y bwli? Sut byddech chi’n delio ag ef neu hi? Oni fyddai’n haeddu cael yn ôl yr un peth ag y mae wedi’i roi? 

    A yw gemau cyfrifiadurol yn gallu effeithio ar y ffordd rydyn ni’n ymddwyn yn y byd go iawn? 

    A yw gweithred rywiol heb gydsyniad yn rhywbeth o bwys mawr cyn belled nag yw’r person wedi’i dreisio neu wedi’i threisio’n llawn? 

    Mae’n debyg y bydd eich barn ynghylch y pethau hyn yn amrywio. 

  3. Fe wnes i ddefnyddio’r gair ‘pryderus’ wrth ddisgrifio’r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn ystyried beth sy’n dreisgar. Mae’r pryder yno am fod rhai arbenigwyr yn awgrymu bod derbyn trais yn beth sy’n tueddu i dreiddio i’n cymdeithas, ac mae derbyn trais - waeth pa mor fach - ymysg rhai yn eu harddegau, nid yn unig yn cael effaith sy’n effeithio ar eu bywydau ar y pryd, ond hefyd yn cael effaith sy’n gallu parhau am genedlaethau. 

    Mae blynyddoedd yr arddegau’n flynyddoedd pwysig pan fydd gwerthoedd personol yn cael eu sefydlu, y blynyddoedd pan fydd rhywun yn dewis ffordd y byddan nhw’n ymddwyn wedyn am weddill eu hoes. Yn eich arddegau rydych chi’n ffurfio’r math o ymddygiad a fydd yn ffordd rydych chi’n ymddwyn tuag at eich ffrindiau, eich cydweithwyr, eich cyd-aelodau mewn timau ac yn bennaf oll tuag at eich plant eich hun. Os yw’n beth derbyniol gennych chi i daro, yna fe fydd eich plant yn meddwl yr un peth yn y dyfodol. 

  4. Ond peth arall sy’n achosi hyd yn oed fwy o bryder yw’r ffordd y mae trais mor amlwg yn y cyfryngau. Mae gwerthoedd treisgar wedi bod yn rhan amlwg mewn ffilmiau a rhaglenni teledu, ond mae’r trais i’w weld yn fwy graffig y dyddiau hyn, yn fwy rheolaidd, ac ar gael yn rhwyddach yn ein cymdeithas nag a fu. Mae’r effaith fel effaith cyffuriau: ar y dechrau mae’n creu ymateb cryf yn y gwylwyr, ond wedi hynny mae angen mwy a mwy cyn gallu creu yr un synnwyr o sioc. 

    Meddyliwch pa fath o effaith y byddai wyth awr o Grand Theft Auto yn ei gael.

Amser i feddwl

Felly, beth fedrwn ni ei wneud gyda’r mater o drais? Fe hoffwn i awgrymu cynllun pedwar pwynt.

Pwynt un  Defnyddiwch rym corfforol dim ond i arbed eich hun. Nid yw’n anghywir i rwystro eraill rhag cymryd mantais arnoch chi - ond byddwch yn ymwybodol o ba bryd i stopio.

Pwynt dau  Byddwch yn edifar bob tro y byddwch wedi gorfod defnyddio grym, hyd yn oed pan oedd hynny’n ymddangos yn rheidrwydd. Ystyriwch hynny fel y lleiaf o ddau ddrwg.

Pwynt tri  Byddwch yn ofalus iawn wrth yfed alcohol. Mae effaith yr alcohol yn annog trais ymysg rhai yn eu harddegau ac yn rhwystro’r unigolyn rhag bod mewn rheolaeth lawn. Rydych chi’n fregus pan fyddwch chi wedi bod yn yfed alcohol.

Pwynt pedwar  Cofiwch eiriau Iesu: ‘Ond rwyf fi’n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy’n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro’r llall ato hefyd.’ Rydych yn llawer mwy dewr os ydych chi’n gallu troi’r foch arall a cherdded oddi yno, yn hytrach na tharo’n ôl.

Gweddi

Annwyl Arglwydd,

Diolch fod gen i’r dewis ynghylch sut y byddaf yn ymddwyn.

Mewn gwrthdaro a thyndra –

gad i mi feddwl sut i ymateb,

gad i mi fod yn ddigon dewr i wynebu fy ngreddf fy hun,

a greddf dreisgar pobl eraill,

a gallu dechrau cywiro’r niwed wedyn,

pwy bynnag fydd ar fai.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Teach your children’ gan Crosby, Stills, Nash and Young

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon