Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Etholiad Arlywyddol Unol Daleithiau America

Meddwl am arwyddocâd etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd 2012. (Gwasanaeth i esbonio)

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Meddwl am arwyddocâd etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd 2012. (Gwasanaeth i esbonio)

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr luniau o’r ddau ymgeisydd.

Gwasanaeth

  1. Ar ddydd Mawrth 6 Tachwedd eleni, bydd dinasyddion Unol Daleithiau America yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio er mwyn penderfynu a ddylai'r Arlywydd Democrataidd Barack Obama gael ail dymor o bedair blynedd yn ei swydd, neu a ddylid cynnig y swydd i rywun arall. 

    Mae tri chydymgeisydd yn gwrthwynebu Obama: Mitt Romney o'r Blaid Weriniaethol, Gary Johnson o'r Blaid Rhyddewyllyswyr a Jill Stein o'r Blaid Werdd. Fodd bynnag, dim ond Romney sydd yn debygol o osod sialens wirioneddol iddo. 

  2. Mae'r Arlywydd Obama wedi cael pedair blynedd brysur. Fe lansiodd ac fe reolodd gronfa fechnïaeth enfawr ar gyfer y banciau a'r diwydiannau oedd mewn trafferth, gyda'r nod o helpu economi'r Unol Daleithiau i oroesi'r argyfwng economaidd byd-eang. 

    Fe gyflwynodd becyn gofal iechyd sydd wedi ymestyn y gofal iechyd i lawer o Americanwyr nad oedd yn gallu ei hawlio o'r blaen.  

    Fe brofodd economi America gynnydd bychan ond cyson, er ni ellir profi a yw hyn o ganlyniad i bolisi'r llywodraeth neu fel arall, ac mae wedi bod yn achos trafodaeth fywiog iawn drwy'r wlad.

  3. Mae prif wrthwynebwr Obama, Mitt Romney, wedi dadlau bod y polisïau rhyddfrydol o eiddo'r llywodraeth wedi creu dyled enfawr y bydd rhaid mynd i'r afael â hi trwy doriadau mawr yn y gwasanaethau lles a rhaglenni llywodraethol ffederal eraill. Mae ef yn dadlau y bydd trethi isel a rheoleiddiadau gostyngol yn galluogi busnesau Americanaidd i gymryd yr arweiniad wrth greu adnewyddiad economaidd. Nid yw pawb, fodd bynnag, yn cytuno mai dyma'r ffordd orau ymlaen. 

  4. Gyda chyfradd diweithdra uchel, swyddi a chynnydd economaidd yw'r prif faterion ar gyfer yr etholiad. Mae Obama eisiau cynyddu grym y llywodraeth i weithredu fel gwarantwr o degwch ac fel un all roi benthyciad ariannol pan fydd popeth arall yn methu. Mae Romney eisiau cynyddu grym busnesau – bach a mawr – er mwyn creu economi sy'n fwy deinamig. 

    Mae gan y ddwy ochr eu cefnogwyr a'u beirniaid, a'r ddwy blaid yn derbyn biliynau o ddoleri mewn cefnogaeth oddi wrth gyfranyddion - o fanciau rhyngwladol hyd at gefnogwyr lleol sy'n awyddus i helpu. 

  5. Mae tonnau awyr y Teledu'n llawn o hysbysebion yn mawrygu mawredd un ymgeisydd tra mae'n dangos ffaeleddau'r ymgeisydd arall. 

    Gall hyn fod yn wylio anghyfforddus, ac mae'n sicr o fod yn wir fod yna weithiau ochr ddiflas i ddemocratiaeth. Ond mae'r etholiad hwn yn gosod gwir ddewis gerbron Americaniaid rhwng dau ymgeisydd sydd â dau safbwynt gwahanol ar ddyfodol America. Mae'r ddau'n unol o safbwynt gwladgarwch ac yn eu dymuniad i wneud America'n gryf yn yr unfed ganrif ar hugain.

  6. Un o gryfderau gwlad ddemocrataidd yw'r ffaith mai ei phobl ar y cyd sy'n penderfynu sut y maen nhw'n dymuno i'w gwlad gael ei rheoli. 

    Yn fuan ar fore 7 Tachwedd eleni, bydd pobl America'n darganfod sut fath o wlad y maen nhw am fod yn rhan ohoni am y pedair blynedd fydd yn dilyn. Fe fyddan nhw hefyd yn cael gwybod sut fath o bobl ydyn nhw ar hyn o bryd.

Amser i feddwl

Pe byddech chi'n pleidleisio yn yr etholiad yn yr Unol Daleithiau, pwy fyddai'n cael eich pleidlais?

Sut fyddech chi'n gweithredu yn y wlad hon i sicrhau'r math o gymuned yr hoffech chi fyw ynddi?

Pa fath o gyfrifoldebau sydd gan bawb ohonom tuag at y rhai sy'n byw mewn gwledydd llai dylanwadol?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch anthem genedlaethol America, neu unrhyw gerddoriaeth wladgarol o’ch dewis.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon