Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mentro'r Bushtucker Trial

Mynd amdani

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i fod â’r dewrder i fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau cymdeithas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os yw’n bosib, dangoswch glip YouTube o ‘Bushtucker Trial’ nodweddiadol o’r rhaglen deledu, I’m a celebrity...  get me out of here (gwelwch rhif 1).
  • Dewiswch un i ddarllen y darn o’r Beibl, Actau 10.9–16 (gwelwch rhif 2).

Gwasanaeth

  1. Mae’n dymor yr hydref eto, ac mae bron yn amser cyfres arall o I’m a celebrity . . . get me out of here. (Gwnewch sylw o unrhyw wybodaeth berthnasol sydd gennych chi am y rhaglen.)

    Hoff ran nifer fawr o wylwyr y rhaglen yw’r ‘Bushtucker Trial’, lle mae’r cystadleuwyr yn gorfod bwyta rhai pethau neilltuol sydd i ni’n ymddangos yn atgas mewn rhyw ffordd. Efallai mai pryfed fydd y pethau hynny (yn farw neu’n fyw!), neu rywbeth sydd ag arogl cryf arno, neu efallai bod y cystadleuwyr yn cael eu herio i fwyta rhywbeth amrwd, rhywbeth y bydden ni’n arferol yn ei goginio cyn ei fwyta. (Os gallwch chi, dangoswch glip fideo byr o’r math hwn o beth allan o un o’r rhaglenni.) 

  2. Fe hoffwn i chi gadw’r syniad o ‘Bushtucker Trial’ yn eich meddwl wrth i chi wrando ar y darn canlynol yn cael ei ddarllen o’r Beibl.

    Darllenydd  ‘Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agosáu at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i weddïo, tua chanol dydd. Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair. Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua’r ddaear. O’i mewn yr oedd holl anifeiliaid ac ymlusgiaid y ddaear ac adar yr awyr. A daeth llais ato, “Cod, Pedr, lladd a bwyta.” Dywedodd Pedr, “Na, na, Arglwydd; nid wyf fi erioed wedi bwyta dim halogedig nac aflan. A thrachefn eilwaith meddai’r llais wrtho, “Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â’i alw’n halogedig.” Digwyddodd hyn deirgwaith; yna yn sydyn cymerwyd y peth i fyny i’r nef.’ (Actau 10.9-16).

  3. Mae rhai mathau o fwydydd y byddai Iddew ymroddedig ddim yn cael eu bwyta. Mae cig mochyn a physgod cregyn yn enghreifftiau nodweddiadol. Nid yw’r bwydydd hyn yn ‘kosher’, hynny yw, dydyn nhw ddim yn lân yn ôl y gyfraith Iddewig.

    Yn ei weledigaeth cyflwynwyd amrywiaeth o fwyd o’r fath i Pedr, ac roedd yn wir yn teimlo’n newynog. Ond, fel pob Iddew da fe wrthododd fwyta’r bwydydd hyn - a oedd yn ei olwg ef yn ‘aflan’. Yna fe glywodd lais Duw’n dweud wrtho ei bod hi’n iawn iddo fwyta, hyd yn oed y bwydydd hyn oedd ddim yn ‘kosher’, am fod Duw ei hun wedi dweud wrtho fod hynny’n iawn. Roedd Pedr yn cael ei annog i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau cymdeithasol a chrefyddol Iddewig arferol.

    Fe ddeallwn wedyn nad ymwneud â bwyd yr oedd y weledigaeth hon mewn gwirionedd. Roedd yn ymwneud â pherthnasu gyda phobl o bob hil, a’u cyflwyno i’r ffydd Gristnogol.

  4. Mae rhywbeth yn gyffredin rhwng y ‘Bushtucker Trials’ ar y rhaglen deledu a gweledigaeth Pedr. Mae gofyn i’r bobl enwog, sydd ar y rhaglen, fwyta pethau sy’n hollol dderbyniol mewn ambell ddiwylliant arall hyd yn oed os yw hynny’n ymddangos yn hollol atgas yn ein diwylliant ni. Mae cig amrwd, cynrhon a ffrwythau drewllyd yn wir yn amheuthun yng ngolwg rhai pobl mewn gwledydd eraill ac yn bethau y maen nhw’n mwynhau eu bwyta. Ein rhagdybiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol ni sy’n gwneud i ni feddwl bod y pethau hyn yn afiach. Fel mae fforwyr wedi darganfod wrth deithio’r byd, mae proteinau, carbohydradau a mwynau i’w cael yn y pethau hyn y mae pobl o ddiwylliannau eraill yn eu bwyta heb feddwl ddwywaith cyn gwneud hynny.

  5. Felly, sut mae disgwyliadau’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi’n ein rhwystro rhag archwilio’n llawn adnoddau’r gymdeithas ddynol mewn diwylliannau eraill? Sut gall ein safbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol ni ein rhwystro?

    Mae hil yn enghraifft amlwg. Mae gwerthoedd teuluol ac iaith yn gallu creu getoau bach sy’n anodd torri allan ohonyn nhw, yn enwedig o ran creu perthnasoedd.

    Yna, mae crefydd yn cyfrif, a hynny’n aml yn gysylltiedig â hil. Mae safbwyntiau cyfyng yn neilltuol o gyffredin lle mae gwahaniaeth mawr rhwng y rhai hynny sy’n dilyn ffydd a’r rhai hynny sy’n hollol seciwlar o ran eu safbwyntiau.

    Fe all pobl sy’n perthyn i wahanol grwpiau incwm ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain hefyd, ac fe allen nhw betruso wrth gymysgu gyda’r rhai hynny sydd â mwy neu sydd â llai o arian na nhw.

    Fe allai disgwyliadau gan ystyried a yw unigolyn yn fenyw neu’n wryw gael effaith ddifrifol hefyd ar y dewis o yrfa neu weithgareddau hamdden.

    Mae hyd yn oed disgwyliadau ynghylch llwyddo ym myd addysg yn gallu amrywio mewn gwahanol grwpiau cymdeithasol hefyd. Yn achos rhai nid yw’n beth ‘cwl’ i fod yn fyfyriwr gradd ‘A’.

  6. Mae’r Bushtucker Trials a gweledigaeth Pedr yn ein hannog i edrych y tu hwnt i’r ffiniau sy’n cael eu gosod gan y bobl lle rydyn ni’n byw ac wedi tyfu i fyny yn eu mysg. Bydd eu disgwyliadau’n parhau i fod yn wreiddiau i ni, ond cawn ein hannog i symud ymlaen ac archwilio pethau fel cerddoriaeth, credoau, gobeithion a disgwyliadau pobl eraill. A phwy â wyr, efallai y gwnawn ni fwynhau eu bwydydd gwahanol hefyd!

Amser i feddwl

Oes disgwyliad sy’n cael ei osod gan ein diwylliant, ein teulu, neu grwp o ffrindiau, sy’n codi rhwystrau? A yw hwn yn ddisgwyliad da, neu’n ffin gymdeithasol a diwylliannol sy’n eich tlodi chi a’r gymdeithas ehangach?

Oes cam cyntaf y gallech chi ei gymryd er mwyn gallu gweld y mater yn gliriach?

Gweddi

Arglwydd Dduw,

diolch am y cyfoeth o amrywiaeth sydd o’n cwmpas ym mhob man.

Diolch i ti am y cyfle sy’n cael ei gyflwyno gyda phob person newydd y byddaf yn ei gyfarfod.

Gad i mi fod â’r synnwyr o antur, a’r awydd i archwilio.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

The times they are a-changin’’ gan Bob Dylan (y gân enwog am ymgyfnewid cymdeithasol)

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon