Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pleserau Euog

Ystyried ein ‘pleserau euog’ ein hunain, ac annog ein gilydd i sôn am y rhain.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried ein ‘pleserau euog’ ein hunain, ac annog ein gilydd i sôn am y rhain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi lwytho i lawr rai lluniau i gyd-fynd â’r gwasanaeth hwn.
  • Ceisiwch drefnu i ddangos clip YouTube o ran allan o opera Gilbert and Sullivan (gwelwch rhif 2).

Gwasanaeth

  1. Tybed oes rhai ohonoch chi sydd â rhywbeth rydych chi’n ei hoffi’n fawr, neu’n hoffi ei wneud, sydd heb fod yn rhywbeth cwl iawn i’w wneud? Efallai eich bod yn mwynhau canu clychau, yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth hen ffasiwn, neu’n mwynhau darllen math neilltuol o lenyddiaeth - neu efallai bod gennych chi eich hoff dedi neu degan arbennig, neu flanced hyd yn oed, y mae’n rhaid i chi ei chael i’ch helpu chi fynd i gysgu. Fe gyfaddefodd Summer sydd yn y rhaglen deledu Neighbours unwaith ei bod yn hoffi’r grwp pop Aqua. Hmmm!

    Fe hoffwn i chi feddwl am y pleserau bach yma sydd gennych chi, pleserau na fyddech chi’n cyfaddef wrth bawb amdanyn nhw. Tybed oes rhywun yn ddigon dewr i sôn yma am eu hoffter? (Efallai y bydd yn rhaid i chi gyfaddef beth yw un o’ch pleserau euog chi er mwyn cael eraill i sôn am eu hoffterau nhw.)

  2. Da iawn, a diolch i chi. Unwaith y flwyddyn mae rhai pobl yn treulio wythnos yn cymryd rhan mewn gwyl Gilbert and Sullivan. (Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi egluro pwy yw G&S, a beth yw natur eu gwaith. Os bydd arnoch chi angen cyfeiriad - YouTube, Prom 49 yn y 2012 BBC Promenade Concerts, a chwilio am The Yeoman of the Guard.)

    Pam rydyn ni’n ystyried gweithgareddau neu ddiddordebau fel hyn fel rhywbeth sydd ‘ddim yn cwl’? Pam mae ambell beth yn cael ei alw’n ‘bleser euog’? Mae arwyddocâd y gair ‘euog’ a hwnnw’n cael ei gysylltu â rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau fel petai’n awgrymu y dylech chi fod yn teimlo’n ddrwg am y peth.

    Yn wir, os yw rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau neu sefyllfa sy’n eich gwneud chi’n hapus - ac os nad yw’n gwneud drwg i unrhyw un - yna does dim bydd yn y peth y dylech chi fod yn teimlo’n euog yn ei gylch?

  3. Ar ddechrau’r gwasanaeth rwy’n siwr bod llawer ohonoch a oedd yn anfodlon dweud wrth y gweddill ohonom beth oedd eich pleserau euog. Pam roedd hynny tybed? Allwch chi awgrymu pam?

    Tybed oedd a wnelo hynny â’r ffaith nad yw pobl eraill yn meddwl bod gwneud y pethau hynny’n ‘cwl’ iawn. Ond beth sy’n ‘cwl’? Os na allwch chi oddef Tinie Tempah neu Dizzee Rascal, yna does dim pwrpas ceisio bod yn ‘cwl.

    Neu, os ydych chi ddim yn hoffi gwisgo rhai dilladau neilltuol, a chithau’n gwybod dydyn nhw ddim yn gweddu i chi, pam y byddech chi’n parhau i ymdrechu i deimlo’n dda ynddyn nhw?

    Rydyn ni i gyd yn gwybod bod pethau’n gallu dod i ffasiwn a mynd allan o ffasiwn wedyn yr un mor sydyn. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe fyddai dawnsio dawns neuadd (ballroom dancing) yn cael ei ystyried yn fath o bleser euog, ond gyda dyfodiad y rhaglen deledu Strictly Come Dancing, mae erbyn hyn yn rhywbeth cyffrous a ‘chwl’ iawn.

  4. Felly, y tro nesaf y byddwch yn treulio amser y gwneud rhywbeth sy’n cael ei ystyried fel rhywbeth sydd ‘ddim yn cwl iawn’ i’w wneud, neu sy’n cael ei alw’n bleser euog, cofiwch os nad yw’n peri niwed i chi nag i unrhyw un arall, ac os yw’n rhoi pleser i chi a chithau’n mwynhau, does dim posib iddo fod yn beth drwg!

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl am rywbeth rydych chi’n ei fwynhau, ond na fyddwch chi byth yn siarad gyda’ch ffrindiau amdano, a byddwch yn ddiolchgar am eich cyfrinach.

Ac yna meddyliwch sut y gallech chi gyflwyno’r gyfrinach honno i un neu ddau o’ch ffrindiau gorau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch rywfaint o gerddoriaeth Gilbert and Sullivan.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon