Cofio
Meddwl am ystyr Dydd y Cadoediad
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am ystyr Dydd y Cadoediad
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr ddelweddau o feysydd y gad yn Fflandrys, a lluniau o’r mynwentydd lle mae’r milwyr a laddwyd wedi’u claddu (Gallwch ddod o hyd i rai delweddau gwych trwy chwilio ar Google).
- Fe fydd arnoch chi angen pabi coch a channwyll ar gyfer yr adran ‘Amser i feddwl’.
Gwasanaeth
- Ar yr unfed awr ar ddeg, o’r unfed dydd ar ddeg, o’r unfed mis ar ddeg yn y flwyddyn 1918, fe ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn Ewrop. Dyna pryd yr arwyddwyd y Cadoediad, fe arwyddwyd y cytundeb i ddod â’r elyniaeth i ben, ac fe ddaeth y rhyfel a ymladdwyd yn y ffosydd yng ngwlad Belg a Ffrainc , a oedd wedi para am bedair blynedd, i ben. Hyd heddiw, mae pobl yn cyfeirio at y diwrnod hwnnw, 11 Tachwedd, fel Dydd y Cadoediad.
O ganlyniad i gyfuniad o dactegau brwydro traddodiadol a thechnegau newydd blaengar cafodd nifer enfawr o filwyr eu hanafu a’u lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd nifer fawr iawn o ddynion eu lladd mewn brwydrau na lwyddodd i gyflawni fawr ddim. Doedd oriau lawer o frwydro gwaedlyd yn ennill dim ond ychydig filltiroedd o diriogaeth, a hynny wedyn yn cael ei golli wrth i’r gelyn wrthymosod a tharo’n ôl.
Yn y pen draw fe ddigwyddodd darfod y tanio o du’r Almaenwyr, nid oherwydd buddugoliaeth filwrol ardderchog ond yn hytrach oherwydd traul: roedd byddin yr Almaen yn mynd yn brin o ddynion ac o adnoddau. - Yn gynnar yn y bore ar 11 Tachwedd 1918, fe dorrwyd y newyddion i’r milwyr y byddai’r rhyfel yn dod i ben a chytundeb yn cael ei arwyddo am 11 o’r gloch y diwrnod hwnnw. Ond er hynny fe barhaodd y rhyfel hyd y funud olaf Ar y diwrnod hwnnw, fe laddwyd 2,738 o filwyr. Ac roedd llawer o’r marwolaethau hynny wedi eu hachosi oherwydd penderfyniadau gwirioneddol arswydus.
Fe wnaeth y lluoedd cynghreiriol barhau i fomio safleoedd yr Almaen rhag iddyn nhw orfod cario’r ffrwydron rhyfel trwm yn ôl gyda nhw i’w gwledydd eu hunain.
Fe ymosododd Henry Gunther, milwr Americanaidd, ar safle oedd yn perthyn i’r Almaen am 10.59 a.m. gan beri syndod mawr i’r milwyr a oedd yn gwybod mai dim ond munud yn unig o amser oedd ar ôl nes byddai heddwch rhwng y gweledydd. Fe geisiodd yr Almaenwyr ei rybuddio, ond fe’u gorfodwyd i danio’n ôl mewn braw am eu bywydau. Roedd Gunther wedi cael ei darostwng yn ei swydd am geisio perswadio ei ffrind i beidio ag ymrestru i ddod i’r rhyfel, ac roedd hynny wedi bod yn chwarae ar ei feddwl. Roedd ei ffrindiau yn cofio ei fod wedi dweud ei fod eisiau dangos i’r swyddogion a’i gyd-filwyr beth fyddai’n gallu ei wneud - ‘to make good before his officers and fellow soldiers’.
Lladdwyd yr olaf i’w ladd yn y rhyfel ar ôl i ddogfen y Cadoediad gael ei harwyddo. Fe gerddodd yr is-gapten Tomas, swyddog Almaenig, tuag at nifer o ddynion o fyddin America i roi gwybod iddyn nhw y byddai ei ddynion yn mynd o’r llefydd yr oedden nhw wedi bod yn lletya ynddyn nhw. Doedd yr Americaniaid hynny ddim wedi cael gwybod am y cadoediad ac fe saethwyd y swyddog Almaenig ganddyn nhw. - Cafodd y manylion am yr heddwch eu beirniadu mewn sawl cynhadledd cytundeb yn dilyn y cadoediad. Mae haneswyr yn cytuno’n helaeth bod y telerau llym a roddwyd i’r cenhedloedd gorchfygedig, yn enwedig yr Almaen, wedi cyfrannu at ddechreuad yr Ail Ryfel Byd. Mae’n hawdd dirnad yr awydd i ddial a fodolai ymysg y rhai oedd wedi brwydro dan amgylchiadau arswydus neu wedi dioddef diffygion ofnadwy a thrasiedïau. Mae’r penderfyniad i ddiddymu grym y cenhedloedd gorchfygedig yn ddealladwy hefyd. Ond roedd y telerau heddwch cosbol yn achos pennaf rhyfel gwaeth hyd yn oed a ddilynodd.
- Er bod 11 Tachwedd yn cael ei gofio fel dyddiad diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe barhaodd y gwrthdaro, yn enwedig yn Rwsia. Fe ymladdwyd rhyfel cartref enbyd rhwng llywodraethwyr Comiwnyddol newydd a’r hen gymdeithas elitaidd. Fe lusgodd y rhyfel hwnnw ymlaen hyd 1921, ac fe arweiniodd at ddyfodiad i rym un o’r unbeniaid mwyaf creulon mewn hanes, sef Stalin.
- Am y rhesymau hyn fe ddylid cofio’r cadoediad am yr hyn yw – sef diwedd ar ryfel ofnadwy. Nid yw’n cynrychioli buddugoliaeth dda neu fuddugoliaeth foesol. Yn hytrach, mae’n destament i ddioddefaint y rhai hynny yr effeithiodd y rhyfel arnyn nhw, ac mae’n gwneud i ni sylweddoli peth mor werthfawr yw heddwch.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll, a gosodwch hi yn ymyl pabi coch, a threuliwch ddau funud mewn tawelwch yn y ffordd draddodiadol o anrhydeddu’r rhai fu farw mewn rhyfeloedd ers 1914.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
Gwrandewch ar gerddoriaeth Elgar, Enigma Variations (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd)
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.