Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Doethion

Meddwl beth yw ystyr doethineb.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Meddwl beth yw ystyr doethineb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar fwrdd gwyn, dangoswch y geiriau canlynol sy’n diffinio ‘doethineb’:
    (a)  ‘gwybodaeth ysgolheigaidd neu ddysg’
    (b)  ‘gwybodaeth o’r hyn sy’n wir a chyfiawn sy’n gypledig â barn gyfiawn yn ymwneud â gweithred, craffter, a mewnwelediad.
  • Yn achos Cristnogion, mae’n bosib i’r ‘doethineb’ sy’n cael ei ddisgrifio yn (b) gael ei ddiffinio fel ‘mewnwelediad i realiti ysbrydol sy’n arwain at eiriau a gweithredoedd fel rhai Crist’. Roedd Iesu’n siarad am y math hwn o ddoethineb, yn gyferbyniol i’r diffiniad cyntaf, pan ddywedodd, “Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r deallusion, a’u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.’ (Mathew 11.25–26).
  • Dangoswch un o’r delweddau sydd i’w cael ar y we, dan y pennawd: ‘Wise men still seek him’.

Gwasanaeth

  1. Rydym am ystyried y gair 'doethineb'. Pwy ydych chi'n ystyried yn berson doeth? (Gofynnwch am awgrymiadau a rhesymau am y dewis.)

    Mae'r bobl heb amheuaeth yn glyfar, ond a ydyn nhw'n ddoeth?

    Mae'n dibynnu ar yr hyn a olygwn gyda 'doeth'.  

  2. (Dangoswch y diffiniad cyntaf.)

    Mae gan Stephen Hawking, er enghraifft, yn sicr y math hwnnw o ddoethineb. 

    (Ychwanegwch unrhyw enw a awgrymwyd gan y myfyrwyr.)

    Efallai bod hyd yn oed rhai athrawon yma y byddech yn eu gosod yn y categori hwnnw! 

  3. Mae stori'r Nadolig yn cynnwys 'doethion o'r Dwyrain’. Roedd y rhain yn sicr yn ddynion ysgolheigaidd a dysgedig. Sêr-ddewiniaid oedden nhw, mae'n debyg, a oedd wedi astudio'r llu o ysgrifau hynafol gwlad Persia (gwlad sy'n adnabyddus heddiw fel Iran).

    Roedd seren anghyffredin yn y ffurfafen yn arwydd o enedigaeth bwysig. Roedd y doethion (y gair Groeg amdanyn nhw yw magi), o bosib, wedi teithio am bellteroedd maith dros fynyddoedd ac anialdiroedd i gyrraedd at wlad fach Palestina. Fe aethon nhw’n gyntaf i balas y brenin yn Jerwsalem. Wedi'r cyfan, dyna'r lle y byddech yn disgwyl dod o hyd i frenin.  Ond yn fuan iawn, fe wnaethon nhw sylweddoli eu bod yn chwilio yn y lle anghywir.

    Pan wnaeth y doethion adael palas y brenin, roedden nhw'n gorfoleddu wrth allu gweld y seren unwaith yn rhagor, yn symud yn y ffurfafen o'u blaen. Pan arhosodd y seren yn ei hunfan, roedd hynny uwchben stabl yn nhref fechan Bethlehem, chwe milltir i'r de o Jerwsalem.

    Aeth y doethion i mewn i'r stabl. (Efallai eu bod wedi codi eu dillad drudfawr i fyny ac wedi dewis yn ofalus iawn lle roedden nhw'n cerdded. Wedi'r cyfan, mewn stabl yr oedden nhw!)

    Mae'r Beibl yn dweud wrthym eu bod wedi 'syrthio ar eu gliniau ac addoli' wrth iddyn nhw weld Mair a Joseff a'r baban.

  4. (Dangoswch ddiffiniad (b).)

    Efallai y byddem yn dweud bod y doethion yn ddoeth oherwydd ar y foment honno, roedd ganddyn nhw 'wybodaeth o'r hyn sy'n wir a chyfiawn’.
     
    Rydym yn gwybod hefyd bod ganddyn nhw ddealltwriaeth a gweledigaeth o'r gwirionedd oherwydd roedden nhw'n cydnabod fod y baban newydd-anedig hwn rywfodd yn arwyddocaol – mae Cristnogion yn honni mai ef oedd Mab Duw – a bod oes newydd wedi dechrau o ganlyniad i'w enedigaeth.

    Gallai'r doethion hyn benlinio mewn stabl, addoli baban yn ostyngedig, ac offrymu rhoddion gwych - aur, thus a myrr. 

  5. Fe ddaeth yr union faban hwn, pan dyfodd i fyny, yn athro gwych. Fe ddywedodd wrth ei ddilynwyr am fod yn ddoeth wrth iddyn nhw fyw eu bywydau. Fe anogodd ef nhw i adeiladu eu bywydau ar sylfaen gadarn, dda o wirionedd a ffydd fel pan fyddai bywyd yn hyrddio'i amryw stormydd arnyn nhw, fe fydden nhw'n aros yn gadarn.

Amser i feddwl

Ystyriwch yr hyn rydych chi wedi ei glywed am Iesu, yn yr ysgol, gartref, yn yr eglwys, mewn llyfrau.

(Dangoswch un o’r delweddau ‘Wise men still seek him’, a rhowch amser i’r myfyrwyr fyfyrio’n dawel.)

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am bobl o'n cwmpas

sy'n glyfar a deallus

ac sydd â llawer o wybodaeth ac addysg i'w drosglwyddo i ni.

Diolch i ti am y rhodd o addysg rydd.

Diolch i ti bod dy ddoethineb di yn ymestyn y tu hwnt i wybodaeth ddynol.

Diolch i ti dy fod yn fodlon rhannu dy ddoethineb gyda ni,

a bod dy ddoethineb ar gael hyd yn oed i bobl ifanc.

Addysga ni yn dy ffyrdd.

Cerddoriaeth

neu Garol am y doethion

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon