Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Yw Pussy Riot?

Ystyried treial merched ‘Pussy Riot’ yn Rwsia.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried treial merched ‘Pussy Riot’ yn Rwsia. (Gwasanaeth sy’n esbonio)

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr luniau o’r merched o Rwsia, sydd ar hyn o bryd yn y carchar. Mae apêl wedi cael ei gwneud yn erbyn y ddedfryd o ddwy flynedd o garchar. Ar 1 Hydref, fe ohiriodd y llys Rwsiaidd wrandawiad yr apêl. Gwiriwch y Rhyngrwyd am y wybodaeth ddiweddaraf.
  • Llwythwch i lawr luniau o garcharorion gwleidyddol eraill oddi ar wefannau fel un Amnesty International.
  • Llwythwch i lawr gerddoriaeth siant fynachaidd nodweddiadol, yn ddelfrydol siant fynachlog y grefydd Uniongred.

Gwasanaeth

  1. Mae tair merch yn eistedd mewn blwch gwydr mewn llys barn ym Moscow. Mae Nadezhda Tolokonnikova, Yekaterina Samutsevich a Maria Alyokhina wedi cael eu cyhuddo o hwliganiaeth wedi iddyn nhw berfformio cân brotest yn Eglwys Gadeiriol Iesu’r Gwaredwr, yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd ym Moscow, yn gynnar yn y flwyddyn 2012.

    Maen nhw’n gwrthwynebu ail ethol Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, sydd wedi dod yn gyfystyr â chenedlaetholdeb Rwsiaidd drahaus a chaled. Mae Putin hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddifrïo hawliau dynol a throi trefn y wlad yn ôl i drefn unbennaeth Sofietaidd. Er bod Putin yn boblogaidd gyda llawer o bobl yn Rwsia, credir bod rhywfaint o ddylanwadu brawychus wedi bod ar y pleidleiswyr yn ystod yr etholiad.

    Bu protestio mawr pan ail etholwyd Putin, ac fe ffurfiwyd grwpiau protest, fel Voina (Rhyfel) a ‘Pussy Riot’. Mae’r grwpiau hyn yn defnyddio celf a cherddoriaeth i fynegi eu dicter at y cyfeiriad y mae’r wladwriaeth Rwsiaidd yn ei gymryd. Mae’r tair sy’n cael eu cyhuddo yn aelodau o Pussy Riot, grwp pync, ac mae’n enw hefyd ar fudiad ehangach o ferched sy’n gwrthwynebu Putin.

  2. Fe ddigwyddodd y brotest yn yr Eglwys Gadeiriol ar ôl i Kirill I, pen yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd gefnogi Putin yn gyhoeddus, gan ddisgrifio Putin fel ‘gwyrth oddi wrth Dduw’. Perfformiodd tair a oedd yn aelodau o’r Pussy Riot gân oedd yn galw ar Fam Duw i gael gwared â Putin - ‘Mother of God, put Putin away’. Fe gawson nhw’u harestio ar ôl ychydig dros funud o berfformiad.

    Mae’r cyhuddiadau yn erbyn y tair yn deillio o’r ffaith bod eu perfformiad wedi digwydd mewn eglwys, fe gawson nhw’u cyhuddo o geisio annog casineb crefyddol a chabledd. Roedden nhw’n gwadu hynny, gan ddadlau eu bod yn gwneud protest wleidyddol yn erbyn Putin a’r gefnogaeth roedd yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd yn ei rhoi iddo.

    Cafwyd y tair merch yn euog ac fe’u dedfrydwyd i ddwy flynedd o garchar mewn gwladfa gosb.

  3. Tra roedd llawer o bobl gyffredin Rwsia’n cefnogi’r erlyniad, mae’r ddedfryd lem wedi ennyn beirniadaeth o bedwar ban y byd yn ogystal ag o fewn gwlad Rwsia ei hun. 

    Mae’r Eglwys Uniongred wedi dweud y dylid dangos trugaredd pe byddai’r tair yn edifarhau am eu ‘gweddi dull pync’. 

    Mae eraill wedi cymharu’r treial â threialon cyfnod Sofietaidd ac achosion o garthu unrhyw anghytuno gwleidyddol. 

Datblygiad pellach

Efallai yr hoffech chi ddysgu mwy am waith Amnesty ac, o bosib, fe allech chi ffurfio grwp cefnogi Amnesty yn eich ysgol i ymgyrchu (trwy ysgrifennu llythyrau) ar ran carcharorion gwleidyddol (gwelwch yr adran ‘Amser i feddwl’).

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll, ac edrychwch ar y lluniau o’r carcharorion.)

Efallai nad yw pawb yn cytuno â dull criw Pussy Riot o brotestio, ond fe fyddai llawer yn cytuno bod y ddedfryd yn un lem iawn.

Mae nifer fawr o bobl mewn sawl gwlad yn parhau’n garcharorion cydwybodol (y rhai hynny sydd wedi eu carcharu am fynegi eu barn mewn ffordd heddychlon neu oherwydd eu hil), yn cynnwys mewn gwledydd sy’n gynghreiriaid i’r D.U. Tra mae condemnio rhyngwladol wedi bod o du arweinwyr gwledydd y byd ynghylch pa mor llym yr oedd y gosb a ddedfrydwyd i Nadezhda Tolokonnikova, Yekaterina Samutsevich a Maria Alyokhina, yn hytrach na siarad dros achos y nifer fawr eraill o garcharorion gwleidyddol, mae llywodraethau ledled y byd wedi dewis cadw’n dawel.

Rhaid i genhedloedd ganiatáu rhyddid mynegiant, ynghyd â pharch at draddodiad a sefydliadau.

Sut gallwn ni weithio er mwyn cael rhyddid i fynegi ein hunain o ddydd i ddydd? Ydyn ni’n ceryddu yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud ynghylch gwleidyddiaeth neu ffydd Gristnogol, neu ydyn ni’n gwrando, hyd yn oed os ydyn ni ddim yn cytuno?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch y gerddoriaeth  rydych chi wedi ei llwytho i lawr, y siant fynachaidd nodweddiadol, wrth i’r myfyrwyr fynd o’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon