Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gobaith Ar Adeg Y Nadolig

Annog y myfyrwyr i ystyried beth yw ystyr y gair ‘gobaith’, a deall bod y Nadolig yn adeg o obaith mawr i Gristnogion

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried beth yw ystyr y gair ‘gobaith’, a deall bod y Nadolig yn adeg o obaith mawr i Gristnogion.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch y myfyrwyr beth yw eu gobeithion ar gyfer y dyfodol (swydd dda, digon o arian, enwogrwydd, priodas hapus?). 

  2. Mewn arolwg, gofynnwyd i bobl beth hoffen nhw ei wneud pe bydden nhw’n cael miliwn o bunnoedd. Roedd yr atebion yn amrywio – dywedodd sawl un y bydden nhw’n hoffi prynu’r holl bethau yr oedden nhw wedi bod yn dymuno’u cael: ty mawr, dilladau o bob math, ac ati, ac roedd llawer wedi dweud y bydden nhw’n hoffi mynd am wyliau i fannau rhyfeddol. 

  3. Mae llawer o bobl sydd wedi ennill y loteri, ac wedi cael symiau mawr o arian, wedi dweud nad yw ennill swm enfawr o arian ddim yn union fel roedden nhw wedi dychmygu y byddai. Mae llawer o’r enillwyr wedi bod yn anhapus wedyn. 

    Mae rhestr wedi ei llunio o’r hyn sydd wedi digwydd i rai pobl yn yr Unol Daleithiau ar ôl iddyn nhw ennill y Loteri. Mae’n datguddio’r pethau canlynol yn achos rhai enillwyr: 

    –  tlodi, ar ôl gwario’r arian i gyd ar gyffuriau; 
    –  tlodi, ar ôl gwario’r arian i gyd ar gamblo eithafol; 
    –  colli ffrindiau; 
    –  cweryla ac anghydweld â’u cydweithwyr; 
    –  dyledion, oherwydd eu bod wedi methu rheoli’r arian yn iawn. 

  4. Mewn llawer rhan o’r byd heddiw, ymddengys mai ychydig o obaith sydd. Mae bywydau’n cael eu dinistrio mewn rhyfeloedd cartref chwerw, tra mae miliynau o bobl yn newynu, yn ddigartref, yn unig, ac yn byw mewn ofn.

    Dydyn ni yn y wlad hon ddim yn gwybod sut beth yw byw dan amgylchiadau felly. Ond, er hynny, mewn ffyrdd symlach o lawer, fe fyddwn ninnau’n cael profiad weithiau bod pethau rydyn ni’n gobeithio amdanyn nhw ddim yn digwydd felly bob tro. Wrth i’r Nadolig nesáu, efallai y byddwn ni’n dymuno cael anrhegion arbennig, ac wedyn yn cael ein siomi. Ac yn y dyfodol, efallai y bydd rhai yn gweld nad ydyn nhw’n mwynhau’r swydd roedden nhw wedi bod am flynyddoedd yn gobeithio’i chael!

  5. Mae Cristnogion yn credu mai gwyl o obaith yw’r Nadolig. Mae’n dathlu’r ffaith bod Duw wedi anfon ei fab i’r byd i ddod â heddwch ymysg pobl. Mae’r Nadolig yn adeg i bobl anghofio am gwerylon, a byw ynghyd mewn heddwch a charedigrwydd.

  6. Dyma stori wir am rywun a ddaeth o hyd i obaith a heddwch mewn lle llawn anobaith. Dangoswch y llun o Clair Cline (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

    Peilot yn yr Ail Ryfel Byd oedd Clair Cline. Un diwrnod, pan oedd yn hedfan dros yr Almaen, fe saethwyd ei awyren i lawr, cafodd ei ddal ac fe’i cymerwyd yn garcharor rhyfel. Fel y dynion eraill a oedd yn garcharorion, roedd yn byw mewn baracs pren ac yn cysgu ar welyau bync garw ar sachau’n llawn gwellt. Mae’n debyg y byddai’r dynion wedi marw o newyn oni bai bod sefydliad y Groes Goch wedi darparu parseli o fwyd iddyn nhw o dro i dro. Roedd yn lle digalon, ac roedd Clair yn teimlo’n isel iawn ei ysbryd. 

    Doedd gan y dynion ddim byd i’w wneud ddydd ar ôl dydd, a’u problem fwyaf oedd diflastod. Un diwrnod, gweddïodd Clair ar Dduw, ‘Arglwydd, helpa fi i feddwl am rywbeth i’w wneud, rhywbeth adeiladol!’ 

    Yn sydyn, fe glywodd rywun yn chwibanu tiwn a oedd yn gyfarwydd iddo ers y dyddiau y byddai’n arfer chwarae’r ffidil. Cafodd Clair syniad! Fe fyddai’n gwneud ffidil!

    Ond ei broblem wedyn oedd nad oedd ganddo ddeunyddiau i wneud ffidil. Edrychodd o’i gwmpas. Edrychodd ar y gwelyau bync. Roedd darnau o bren ar draws eu gwaelod. Perffaith! Ac fe ddechreuodd dynnu’n darnau pren yn rhydd. 

    Dros y misoedd nesaf, fe fu Clair yn bargeinio ei gyfran o fwyd a gai ym mharseli’r Groes Goch gyda rhai o geidwaid y carchar er mwyn cael cyllell boced a phethau eraill y byddai eu hangen i wneud ei ffidil. Fe gasglodd Clair a’i ffrindiau y glud sych oedd ar gefn eu cadeiriau a’i doddi i wneud glud addas i ddal darnau’r ffidil gyda’i gilydd! Ac felly, o gam i gam, yn araf bach, fe ddechreuodd y ffidil siapio. 

    Roedd yr holl ddynion, yn cynnwys ceidwaid y carchar, wedi rhyfeddu. Cafodd un ceidwad afael ar linynnau ffidil iddo. A phan oedd y ffidil wedi’i gorffen fe ddaeth ceidwad arall â bwa i Clair! Er syndod mawr i bawb, roedd sain y ffidil yn hyfryd.

    Noswyl y Nadolig dechreuodd Clair chwarae’r alaw ‘Dawel nos’ ar ei ffidil – ymunodd y dynion eraill yn y baracs ag ef, gan feddwl am eu teuluoedd gartref. Roedden nhw’n canu’r geiriau Saesneg ‘Silent Night’, ac ymhen ychydig roedden nhw’n clywed lleisiau eraill yn canu, ‘Stille Nacht, Heilige Nacht, alles schlaft, Einsam wacht.’ Roedd rhai o’r gwarchodlu Almaenig wedi ymuno yn y canu!

    Ym mis Mai y flwyddyn ganlynol fe ddaeth y rhyfel i ben. Aeth Clair a’i ffidil gydag ef i’w gartref, ac fe’i cadwodd yno. Fe fu’r ffidil yn rhywbeth i atgoffa ei blant bod gobaith bob amser – hyd yn oed ar yr adegau anoddaf. 

  7. Ar adeg y Nadolig eleni, gaewch i ni gofio bod gobaith bob amser. Pan benliniodd y bugeiliaid a’r doethion o flaen y baban Iesu, roedden nhw’n llawn gobaith oherwydd y gwahaniaeth y byddai’r baban hwnnw’n ei wneud i’r byd. Gadewch i ni ddal gafael yn y gobaith hwnnw, a’r Nadolig hwn geisio gwneud ein rhan i ddod â heddwch a chadw gobaith.

Amser i feddwl

(Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r fersiwn ffidil o’r gerddoriaeth ‘Dawel nos’ fel cerddoriaeth gefndir ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’. Gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)


Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n teimlo heb obaith ar hyn o bryd?

Oedwch am foment a cheisiwch feddwl am ffordd y byddech chi’n gallu dod â rhywfaint o obaith i’r unigolyn hwnnw y Nadolig hwn.

(Saib)

Oes heddwch rhyngoch chi a’r rhai o’ch cwmpas chi ar hyn o bryd? Oes problemau neu hen gwerylon sydd angen eu datrys? Pam na wnewch chi ddefnyddio tymor y Nadolig i gymodi, a rhoi popeth mewn trefn?

(Saib)

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch bod adeg y Nadolig yn adeg o obaith.

Diolch dy fod ti wedi anfon Iesu i’r byd ar adeg y Nadolig,

er mwyn rhoi gobaith i ni y gall y byd fod yn lle gwell.

Helpa ni i wneud ein rhan

i ddod â gobaith a heddwch i’r byd.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Defnyddiwch fersiwn y ffidil o’r gerddoriaeth ‘Dawel nos’ (Gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon