Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newidiadau

Meddwl am newidiadau syn digwydd ym myd natur, ac annog y myfyrwyr i ystyried eu hymateb i newidiadau yn eu bywyd eu hunain.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Meddwl am newidiadau syn digwydd ym myd natur, ac annog y myfyrwyr i ystyried eu hymateb i newidiadau yn eu bywyd eu hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch un Arweinydd a dau Ddarllenydd. Trefnwch i Ddarllenydd 2 gael ei wisgo fel rhywun oedrannus.

  • Fe fydd arnoch chi angen dau lyfr stori.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Croeso i chi i’r gwasanaeth. Heddiw, rydyn ni’n mynd i fod yn ymdrin â mater sy’n effeithio ar bob un ohonom yn ein tro - newid.

    Mae pethau’n newid drwy’r amser ym mhob man yn y byd - ond a yw pethau’n newid er gwell neu er gwaeth? Mae pob un ohonom, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn dod wyneb yn wyneb â newidiadau yn ystod ein bywyd ein hunain.

    Darllenydd 1  Doeddwn i ddim yn hoffi’r newid o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Roedd pawb yn ymddangos mor fawr! Ac roeddwn i’n mynd ar goll o hyd ac o hyd am fod cymaint o goridorau, a finnau’n drysu’n lân. 

    Ond wedi dweud hynny, fe wnes i symud i fyw i dy arall fis yn ôl. Roedd hwnnw’n newid ardderchog. Mae pethau’n well o lawer yno. Mae gen i ystafell wely braf, mae gardd fawr yno, ac mae’r cymdogion yn glên iawn. 

    Mae ambell newid yn gallu bod yn anodd iawn. Rydw i’n gwybod hynny. Mae mam a thad Sophie wedi gwahanu ac mae Sophie’n drist iawn am hynny, ac mae hi’n methu’n glir â dod i arfer â’r newid hwnnw.

    Darllenydd 2  Mae’r byd wedi newid llawer ers yr adeg roeddwn i’n ifanc fel chi. Fyddech chi ddim yn credu! Doedd gennym ni ddim cyfrifiaduron na ffonau symudol bryd hynny. Roedd y byd yn ymddangos yn lle mwy diogel, dim cymaint o lofruddiaethau na thrais, na phryder am gynhesu byd-eang. 

    Ond mae ambell newid yn dda, er hynny. Y dyddiau hyn mae gwyddonwyr yn gallu dod o hyd i ffyrdd o wella pob math o afiechydon - ac mae hynny’n beth da. 

    Dydw i ddim yn gallu dal i fyny gyda’r holl bethau newydd hyn ychwaith! Roedd fy wyr yn dweud ei fod yn casglu arian at achos da, i gael sganiwr o ryw fath - CAT scanner - ac fe ddywedais i wrtho fo, ‘Does gen i ddim cath, a hyd yn oed pe byddai gen i un, fyddwn i ddim eisiau sganio’r gath!’ Pwy glywodd am y fath beth!

  2. Arweinydd  Mae’n wir! Mae pethau’n newid mor gyflym fel nad ydyn ni’n sylwi. Ond beth allwn ni ei ddysgu am ‘newid’ heddiw?

    Rydyn ni i gyd yn hoffi clywed am bethau’n newid mewn storïau hud a lledrith . . .

    Darllenydd 1  (yn darllen o lyfr chwedlau) ‘Ac fe aeth y dywysoges hardd yn nes at y broga hyll, gwyro ymlaen, a rhoi cusan ysgafn iddo, a CHWAP! Fe newidiodd y broga i fod yn dywysog golygus, y mwyaf golygus a welodd neb erioed . . . ac fe fu’r ddau yn byw’n hapus am byth wedyn.’ 

  3. Arweinydd  Rydyn ni i gyd eisiau credu y bydd popeth yn troi’n rhywbeth hardd yn y pen draw . . . 

    Darllenydd 2  (yn darllen o lyfr chwedlau arall) ‘Un diwrnod, fe ddeffrodd yr hwyaden fach hyll a chychwyn ar ei siwrne unig i lawr at y llyn. Wedi cyrraedd, fe edrychodd ar ei hadlewyrchiad yn y dwr, a beth welodd hi? Nid hwyaden fach hyll, ond alarch hardd, yr aderyn harddaf yr oedd wedi ei weld erioed. Dyna’r union hwyaden fach ddisylw a oedd wedi teimlo ei bod yn greadur bach hyll – tan y foment honno. 

  4. Arweinydd  Ym myd natur, rydyn ni’n gweld y newidiadau mwyaf rhyfeddol drwy’r amser. 
    –  mae’r penbwl sy’n nofio yn y pwll yn newid o fod yn benbwl i fod yn froga bach bywiog a fydd yn neidio o ddeilen i ddeilen ar wyneb pwll lili'r dwr. 
    –  mae’r lindysyn sy’n cnoi ac yn cnoi y naill ddeilen ar ôl y llall yn newid o fod yn lindysyn i fod yn bili-pala ysgafn hardd sy’n hedfan o flodyn i flodyn ac i ble bynnag y bydd yn dewis. 
    –  mae canghennau moel coeden yn y gaeaf, coeden fel y pren afal neu’r goeden geirios, yn cael ei haddurno â thuswau o flodau pinc hyfryd yn y gwanwyn.

    Ond, wedi dweud hynny, rydyn ni’n canfod rhai newidiadau dychrynllyd hefyd yn y byd o’n cwmpas hefyd.

–  Mae’r cefnforoedd mawr yn cael eu llygru fwyfwy gyda gwastraff diwydiannol a chlytiau olew. 
–  Mae fforestydd glaw enfawr yn cael eu torri er mwyn defnyddio’r tir ar gyfer datblygiadau amaethyddol mawr. 
–  Mae anifeiliaid yn cael eu hela a’u gyrru o’u cynefinoedd naturiol. 
–  Mae pobl yn cael eu lladd oherwydd eu cenedligrwydd, eu crefydd, neu liw eu croen. 

  1. Arweinydd  Sut byddwn ni’n ymateb i’r trawsnewidiadau rhyfeddol sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas ni?

    Ystyriwch y trawsnewidiadau hardd i ddechrau. Ydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol? Ydyn ni’n sylwi arnyn nhw, hyd yn oed? Neu, a fyddwn ni’n dathlu’r trawsnewidiadau hyn?

    A sut byddwn ni’n ymateb i’r newidiadau dychrynllyd sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas ni?

    Ydyn ni’n eu hanwybyddu, ac yn gobeithio y bydd y problemau’n diflannu? Neu, a ydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i amlygu’r newidiadau hyn ac ymgyrchu yn eu herbyn?

Amser i feddwl

Arweinydd  Mae ein dau siaradwr heddiw wedi amlygu newidiadau yn eu bywydau nhw. Gadewch i ni dreulio amser yn meddwl am sut rydyn ni’n ymateb i newidiadau yn ein bywyd ni ein hunain. Mae newid weithiau’n gallu bod yn broses anodd, sy’n brifo.

Darllenydd 1  Dim ond ar ôl oriau lawer o gerfio gofalus y mae lwmp  hagr o graig yn gallu dod yn gampwaith hardd.

Darllenydd 2  Pan fydda i’n gwneud cacen, rhaid i mi dorri’r wyau a chymysgu’r cynhwysion yn un gymysgedd o lanast gwlyb. Ond, wedyn, mae’r gymysgedd yn cael ei roi yn y popty poeth – ac ymhen sbel, fe ddaw allan fel teisen sbwng flasus.

Darllenydd 1  Dim ond ar ôl cael ei siapio a’i fowldio, a’i wasgu a’i siapio a’i fowldio eto, ei chwalu a’i siapio eto ac eto yn nwylo’r crochenydd y bydd y lwmp o glai’n dod yn botyn prydferth.

Darllenydd 2  Gall newidiadau yn ein bywyd fod yn beth poenus.
Fe all fod yn llanast.
Fe all fod yn hyll.
Fe all fod yn broses unig.
Fe all fod yn brofiad dryslyd.
Ac fe all wneud i chi deimlo fel pe baech yn cael eich chwalu.

Ond fe all newid fod yn gwneud pethau’n well.
Fe all newid greu rhywbeth hardd.

Mae newid yn angenrheidiol.
Mae newid yn anochel.
Mae newid yn rhywbeth sy’n digwydd.

Gweddi
Arweinydd  Gadewch i ni ddiweddu ein gwasanaeth gyda gweddi fer. Fe allech chi wneud y geiriau hyn yn eiriau i chi eich hunan, os hoffech chi.
Annwyl Dduw,
rydyn ni’n diolch i ti am y newidiadau rhyfeddol sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas.
Gad i ni sylwi ar y newidiadau hyn a’u dathlu.
Rydyn ni’n cofio hefyd am y newidiadau dychrynllyd sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas.
Gad i ni sylwi ar y newidiadau hyn a gweithredu i wneud gwahaniaeth.

Diolch i ti am y newidiadau cadarnhaol sy’n digwydd yn ein bywyd ni ein hunain.
Gad i ni eu gwerthfawrogi a’u cofleidio.
Rydyn ni’n cofio am y newidiadau anodd sy’n digwydd yn ein bywyd ni ein hunain.
Gad i ni eu hwynebu gyda dewrder a doethineb, a thyfu’n gryf trwy’r newidiadau hynny.

Mae newidiadau’n gallu gwella pethau.
Gad i ni gael ein gwella trwy newidiadau.
Mae newidiadau’n gallu creu pethau hardd.
Gad i ni fod yn harddach wrth i ni newid.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon