Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Calendrau. Calendrau

Ystyried gwahanol systemau calendr, a thrwy hynny gydnabod gwahanol ddiwylliannau a normau cymdeithasol.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried gwahanol systemau calendr, a thrwy hynny gydnabod gwahanol ddiwylliannau a normau cymdeithasol. 

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim gwaith paratoi o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Wrth i ni symud ymlaen at flwyddyn newydd, mae llawer o bethau i'w hystyried. Byddai'r rhan fwyaf ohonoch yn dweud ein bod bellach yn y flwyddyn 2013 O.C. Mae hyn yn bod oherwydd, yn ôl y stori Gristnogol, ddwy fil a thair blynedd ar ddeg yn ôl, daeth yr angel Gabriel i lawr i'r ddaear i gyhoeddi dyfodiad y baban Iesu. 

    Mae rhai pobl yn credu bod hyn wedi digwydd yn union ddwy fil a thair blynedd ar ddeg yn ôl, ond mae llawer o Gristnogion yn amau a ddigwyddodd pethau yn union ar yr adeg honno. 

    Wedi dweud hynny, caiff y flwyddyn ei henwi fel 2013, yn unol â system a elwir fel y calendr Gregoraidd, a gafodd ei gyflwyno gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn 1582. (Caiff ei alw'n galendr Gregoraidd ar ôl y Pab Catholig, Gregory XIII, a gyflwynodd y calendr hwn.) 

    Ers hynny, fe ddaeth y calendr Gregoraidd yn galendr safonol ar gyfer y rhan fwyaf o'r byd. Yn aml, fodd bynnag, ni fydd pobl yn gosod y llythrennau C.C. a O.C., yn hytrach rhoi C.E. a B.C.E. - sy'n golygu, yn Saesneg, 'Common Era’ a ‘Before the Common Era’. Wrth wneud hyn maen nhw'n osgoi defnyddio'r derminoleg Gristnogol. (Mae O.C. yn golygu 'Oed Crist' a C.C. yn golygu 'Cyn Crist'.)

  2. Fodd bynnag, mae calendrau eraill yn bod. 

    Yn Siapian, er enghraifft, yn ogystal â bod yn 2013, hon yw'r bumed flwyddyn ar hugain o gyfnod Heisei. Mae'r rhif 25 yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi'n 25 mlynedd ers i'r Ymerawdwr presennol esgyn i'r orsedd. Mae pob ymerawdwr yn dewis teitl y bydd yn bobl yn cofio am ei deyrnasiad. Mae ‘Heisei’ yn golygu ‘heddwch tragwyddol’. Yn Siapian, caiff ei ystyried fel faux pas(cam gwag) i gyfeirio at yr ymerawdwr presennol ag enw ei gyfnod oherwydd bod hwn yn enw fydd yn aros ar ôl ei farwolaeth.

    Yn Ethiopia, 2005 yw'r flwyddyn gyfredol. Bydd blwyddyn newydd yn cychwyn ym mis Medi, fel arfer ar yr unfed dydd ar ddeg o Fedi, neu'r deuddegfed mewn blwyddyn naid. Mae'r system Ethiopaidd yn cynnwys deuddeg mis o ddeg diwrnod ar hugain, yn ogystal â thrydydd mis ar ddeg byrrach o bump neu chwech o ddyddiau. Mae'r dyddiad gwahanol wedi ei seilio ar system amgen o gyfrifo dyddiad ymweliad yr angel Gabriel â Mair.

  3. Mewn sawl diwylliant, caiff dechrau blwyddyn newydd ei nodi â dathliad mawreddog. 

    Bydd dyddiau pwysig eraill hefyd yn cael eu strwythuro o gwmpas y calendr. Mae gwyliau cenedlaethol, sy'n cael eu cadw ar yr union ddyddiau bob blwyddyn, yn enghraifft. 

    Mae'r dyddiau pwysig hyn ar y calendr yn amrywio o ddiwylliant i ddiwylliant. Hawdd i ni feddwl bod Dydd Calan yn gorfod bod ar 1 Ionawr, ond i'r Iddewon, er enghraifft, mae Dydd Calan fel arfer yn digwydd o gwmpas mis Medi neu fis Hydref ac nid yw'n cael ei gadw ar yr un diwrnod bob blwyddyn (eleni bydd yn digwydd ar 5 Medi), ac ar gyfer y Mwslimiaid mae'n digwydd fel arfer ym mis Tachwedd: 4 Tachwedd, eleni.

    Er bod y calendr yn teimlo fel rhan naturiol o fywyd, mor naturiol â’r tywydd neu gynnydd a chiliad y lloer (ar yr hwn y caiff llawer o'r calendrau eu seilio), mae'r calendr, mewn ffaith, wedi ei drefnu trwy fwy o gydsyniad na thrwy natur. Mae strwythurau a chredoau sy'n ymddangos mor naturiol, ar yr hyn y mae sawl cymdeithas wedi ei seilio, yn berthynol - hynny yw, maen nhw'n cael eu pennu gan ddiwylliant a hanes pob gwlad.

  4. Yn ogystal â dangos y gwahaniaethau rhwng diwylliannau, mae'r calendr hefyd yn gallu cyfeirio at nodweddion sy'n debyg. 

    Er bod y diwylliant byd-eang wedi mabwysiadu'r system Gregoraidd, mae cymunedau'n cadw at eu ffurfiau traddodiadol. Ac er bod gwyliau a dyddiadau arbennig yn gallu gwahaniaethu, mae'r rhesymau am y rhain yn debyg i'w gilydd, ac fe allwn eu deall: genedigaeth arweinydd neu athro ysbrydoledig, er enghraifft, neu weledigaeth a roddwyd gan Dduw.

    Gall bobl ledled y byd ddysgu oddi wrth ei gilydd, er eu bod ar yr un pryd yn cadw eu gwerthoedd eu hunain, eu diwylliant eu hunain, a'u ffordd o fyw.

Amser i feddwl

Roedd dyddiad y Flwyddyn Newydd ar hap, er hynny rydym yn dibynnu arno'n awr i bob pwrpas. Mae'r un peth yn wir am Ddydd Nadolig. (Cafodd Iesu, o bosib, ei eni yn y gwanwyn neu ddechrau’r  haf, gan na fyddai bugeiliaid yn gwylio'u praidd drwy'r nos ym misoedd y gaeaf.)

Pa ddyddiadau eraill yn eich bywyd sydd wedi dod yn bwysig, ond sydd wedi eu seilio ar ddigwyddiadau a allai fod wedi digwydd ar ryw ddiwrnod arall? Yr enghraifft fwyaf amlwg yw eich pen-blwydd.

Oes digwyddiadau eraill y gallech chi eu dathlu ar yr union ddyddiad bob blwyddyn?

Oes gan eich ysgol ddathliadau blynyddol ar ddyddiad penodol?

Pa mor gaeth ydych chi'n cadw at y dyddiadau hyn?

Pa mor bwysig yw traddodiadau lleol? Efallai bod eich cymdogion yn dathlu gwyliau na wyddoch chi ddim amdanyn nhw. Efallai, eleni, y gallech chi ofyn a dysgu mwy am ddiwylliant neu ffydd wahanol.

Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolch i ti am y cerrig milltir yn ein bywydau,
y penblwyddi, y dathliadau pen blwyddyn eraill, a digwyddiadau sy'n rhan o bob blwyddyn.
Boed i ni werthfawrogi'r dyddiadau hyn ym mywydau pobl eraill yn ogystal â’n bywydau ni ein hunain,
yn enwedig os ydyn nhw'n dathlu rhywbeth na wyddom ni ddim bron amdanyn nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon