Buddugoliaeth 'Google Earth'!
Defnyddio stori Saroo Munshi Khan er mwyn meddwl am ddyfalbarhad a phwysigrwydd y teulu.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Defnyddio stori Saroo Munshi Khan er mwyn meddwl am ddyfalbarhad a phwysigrwydd y teulu.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r stori’n seiliedig ar erthygl yn y cylchgrawn Vanity Fair, Tachwedd 2012.
- Fe fydd arnoch chi eisiau darllenydd i ddweud stori Saroo.
- Byddwch yn sensitif, oherwydd fe allai’r gwasanaeth godi cwestiynau, yn enwedig yn achos plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sydd mewn gofal.
Gwasanaeth
- Arweinydd Pe byddech chi'n gwybod eich bod wedi cael eich mabwysiadu pan oeddech chi’n blentyn, pa mor bell fyddech chi'n fodlon mynd i ddarganfod eich teulu biolegol? Gwrandewch ar y stori wir hon.
- Darllenydd Cefais fy ngeni yn India, ac roedd fy nheulu yn dlawd iawn. Mor dlawd yn wir fel nad oedden ni'n mynd i'r ysgol - roedd fy nau frawd hyn, Guddu and Kullu, yn gweithio i gynnal ein mam, fy chwaer fach Shekila a mi.
Arweinydd Treuliodd Guddu ei ddyddiau’n chwilio am sborion ar drenau a fyddai’n teithio o le i le. Byddai'n mynd ar drên a byddai'n chwilio ym mhob man arni am dameidiau o fwyd y byddai'n gallu eu rhannu, neu bethau y byddai'r teithwyr wedi eu gadael ar eu hôl ac y byddai'n gallu eu gwerthu. Weithiau byddai'n cael hyd i ddarnau o arian! Ond oherwydd bod y trenau'n aml yn teithio'n bell, byddai i ffwrdd o gartref am ddyddiau lawer.
Darllenydd Un diwrnod, pan oeddwn i’n bump oed, aeth Guddu â mi gydag ef. Fe wnaethon ni neidio ar drên lleol oedd â chut ieir arni. Fe wnaethon ni stwffio'r wyau hynny i fyny'n crysau, ond yna fe welodd y gwarchodwyr ni, ac fe gawsom ni ein gwahanu. Er na allwn i ddarllen nac ysgrifennu, fe allwn i gofio'r ffordd yn ôl adref, ac fe gerddais ar draws y ddinas ar ben fy hun, gyda'r wyau nad oedd wedi torri.
Fe ddechreues i deithio ymhellach oddi cartref yng nghwmni Guddu.
Un noson, fe aethon ni i'r orsaf i weld beth fydden ni'n dod o hyd iddo. Fe wnaethon ni deithio am ddwy awr, ac yna roedd hi'n nos, felly fe wnaethon ni ddal y trên adref, ac fe wnes i syrthio i gysgu.
Y diwrnod wedyn, pan wnes i ddeffro, roedd y trên yn parhau i deithio. Doedd dim sôn am Guddu. Roeddwn i ar fy mhen fy hun - heb arian, heb fwyd, a dim syniad i ble roedd y trên yn mynd. Wyddwn i ddim ychwaith beth oedd enw'r dref roeddwn i'n byw ynddi. Roeddwn i'n bum mlwydd oed ac ar goll yn llwyr.
Arweinydd Yn y diwedd, fe gafodd Saroo ei hun yn y ddinas enfawr, Calcutta. Am wythnosau, fe deithiodd i mewn ac allan o'r ddinas, yn gobeithio y byddai'n cael hyd i'r ffordd adref ond ni lwyddodd. Yn y diwedd, cafodd ei hun mewn canolfan plant, yng ngofal Cymdeithas Indaidd ar gyfer Nawdd a Mabwysiad.
Yn y cartref plant amddifaid, cafodd Saroo ddillad glân a'i ddysgu sut i ddefnyddio cyllell a fforc. Yn y diwedd, cafodd ei fabwysiadu gan John a Sue Brierley, cwpl oedd yn byw yn Tasmania, Awstralia. Fe wnaethon nhw roi cartref cariadlon iddo a gofalu'n dyner amdano. Fe aeth i'r brifysgol a dechrau gweithio ar gwmni gwefan ei rieni.
Darllenydd Eto, roeddwn yn gwybod fod gen i deulu arall yn rhywle, fy nheulu biolegol. Felly, fe wnes i benderfynu ceisio dod o hyd iddyn nhw.
Arweinydd Mae India yn wlad enfawr, ac ni wyddai Saroo hyd yn oed enw ei dref enedigol. Ond fe wyddai'n fras faint gymerodd y trên i gyrraedd Calcutta. Ac felly, gan ddefnyddio lluniau ar ‘Google Earth’, fe ddechreuodd edrych ar ysgubiad o gylch y teithiau trên, gan edrych ar nodweddion y trefi gwahanol.
Darllenydd Ac yna, fe welais i'r lle! Yr afon gyda rhaeadr, y seidins trên, y bont a'r tanc diwydiannol - roedden nhw'n gyfarwydd i mi – roedden nhw’n sillafu’r gair ‘cartref’. Roeddwn i'n gwybod mai hwn oedd y lle. Fe gefais hyd i glipiau fideos ar 'YouTube' ac yna grwp 'Facebook' o'r dref.
Arweinydd Yn y diwedd, 25 mlynedd ar ôl iddo adael, cafodd Saroo ei hun yn ôl yn India. Teithiodd i'r dref, yna rhedodd i'w hen gartref. Ond doedd ei fam ddim yno.
Darllenydd Fe wnes i gyfarfod â dyn mewn oed, ac roedd yn adnabod fy mam! Roedd hi wedi dod yn Fwslim ac wedi newid ei henw, ac roedd hi wedi symud ty. Fedrwn i ond prin siarad fy mamiaith, ond rywfodd roedd o wedi deall pwy oeddwn i'n chwilio amdani!
Arweinydd Cafodd Saroo ei arwain gan y dyn i dy cyfagos. Cododd gwraig oedrannus ei golygon i fyny, gwelodd Saroo, a'i gymryd i'w breichiau, dan grio.
Cafodd Saroo ei ail-gyflwyno i'w deulu biolegol, dair blynedd ar ôl iddo ddechrau chwilio amdano.
Amser i feddwl
Beth ydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf?
Eich ffrindiau? Eich teulu? Eich ffôn newydd? Eich lle yn yr ysgol?
Pa mor werthfawr yw eich teulu i chi? Cymaint fel eich bod yn chwilio amdanyn nhw am dair blynedd?
Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolch i ti am deuluoedd –
teuluoedd biolegol
teuluoedd mabwysiedig
teuluoedd meithrin
llys-deuluoedd –
yr holl bobl sy'n gofalu amdanom, a'r
rhai rydyn ni’n eu caru.
Helpa ni bob amser i fod yn werthfawrogol
o'r bobl sy'n ein caru ni, ac sy'n gofalu amdanom ni.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.