Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Siarad, Siarad

Archwilio ffyrdd o wneud cyfathrebu personol yn fwy effeithiol.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ffyrdd o wneud cyfathrebu personol yn fwy effeithiol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddau ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Sawl sgwrs ydych chi wedi ei chael heddiw? Efallai eu bod wedi digwydd gartref, neu ar y ffordd i'r ysgol, gyda'ch tiwtor dosbarth, gyda'ch ffrindiau, neu efallai gyda phobl y gwnaethoch chi'n syml gyfnewid gair neu ddau â nhw. 

    Gallai’r sgyrsiau hyn fod wedi digwydd mewn amryw o ffyrdd gwahanol: efallai mai sgyrsiau wyneb yn wyneb oedden nhw, sgyrsiau wrth siarad; sgyrsiau ar eich ffôn symudol; cyfnewid syniadau ar Facebook, hyd yn oed efallai sgwrs ar Skype neu Facetime gyda rhywun mewn gwlad wahanol. 

    (Saib)

    Oedd y sgyrsiau’n rhai da? 
    Ydych chi'n ystyried ei fod yn amser gwerth chweil? 
    Wnaethon nhw chi'n hapus? 
    Wnaethon nhw eich helpu chi i gynllunio'r diwrnod? 

    Neu

    Wnaeth y sgwrs godi unrhyw amheuaeth neu ddryswch? 
    Oes yna unrhyw beth yr ydych yn difaru ei ddweud neu ei ysgrifennu? 
    Ydych chi'n tybio y byddwch yn parhau â'r sgwrs?

  2. Dyna'r broblem gyda sgyrsiau. Dydyn nhw ddim bob amser yn troi allan yn y ffordd rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw wneud. Mewn gwirionedd, maen nhw'n gallu mynd dros ben llestri. Heddiw rwy'n mynd i geisio'ch helpu trwy awgrymu rhai sgiliau er mwyn sicrhau sgyrsiau adeiladol.

  3. Ydych chi wedi sylwi bod gan sgwrs o leiaf ddwy ochr, weithiau mwy na dwy? Gwrandewch ar y sgwrs hon.

    Darllenydd 1  Fe ges i amser rhyfeddol neithiwr.

    Darllenydd 2  Wnest ti wneud y gwaith cartref maths?

    Darllenydd 1  Aethon i lawr i'r dre, a wnei di byth ddyfalu pwy welson ni.

    Darllenydd 2  Roeddwn i'n cael adran 3 yn anodd dros ben. Doedd hyd yn oed fy mam ddim yn gallu rhoi help i mi.

    Darllenydd 1  Roedden ni'n sefyll y tu allan i McDonald’s, yn aros i Joe ddod allan, pan ddaeth o rownd y gornel.

    Darllenydd 2  Fe wnaeth i mi feddwl tybed a oedd yna gamgymeriad yn y gwerslyfr.

    Darllenydd 1  Doedden ni ddim wedi ei weld yn agos o'r blaen, ond doedd dim amheuaeth mai ef oedd yno.

    Darllenydd 2  Rydw i'n gorfod cyfaddef nad ydw i wedi ei wneud. Wyt ti'n meddwl y bydd o’n deall?

  4. Arweinydd  Mae dwy ochr i'r sgwrs yma, ond dydyn nhw ddim yn ymddangos rywsut eu bod yn cyfarfod yn y canol, ydyn nhw? 

    Mae hynny'n bod oherwydd nid rhywbeth am yr hyn y mae dau yn dymuno'i ddweud yw sgwrs. Mae'n ymwneud â'r broses o wrando yn ogystal â siarad. 

    Does dim gwahaniaeth os yw'r sgwrs yn gyfres o negeseuon testun. Mae darllen a deall cyn ymateb yn hanfodol os mai deialog adeiladol yw'r nod. 

    Efallai y byddai'n syniad da oedi ar ôl pob peth yr ydym yn ei glywed neu’n ei ddweud, ystyried os ydyn ni wedi deall yn iawn, ac ymateb wedyn. 

    Ffordd arall o ddweud hynny fyddai: ‘Gwell yw meddwl cyn agor y llifddorau.’ Mae yna hen ddywediad: mae gennym ddwy glust ond un geg!

  5. Mae yna ail bwynt. Ydych chi wedi sylwi bod sgyrsiau'n teimlo'n wahanol mewn amgylcheddau gwahanol neu gyd-destunau gwahanol? 

    (Darllenydd 1 a Darllenydd 2 yn symud i sefyll gyferbyn â’i gilydd, un i bob ochr o’r man cyflwyno)

    Mae neges destun, e-bost a Gweplyfr (Facebook) i raddau fel hyn yn nhermau cyfathrebu da. Mae hi mor hawdd cam-ddehongli geiriau ar sgrin. Mae'n debyg i gyfathrebu o bell.

    (Darllenydd 1 a Darllenydd 2 yn symud hanner ffordd tuag at ei gilydd)

    Mae Skype a Facetime yn well. O leiaf mae gennym wyneb i edrych arno ac mae'r cyd-destun yn llai ffurfiol. Wrth i ni wrando, gallwn sylwi ar donyddiaeth y llais, ond gall hwnnw hefyd weithiau fod yn afluniaidd neu doredig.

    (Darllenydd 1 a Darllenydd 2 yn symud tuag at ei gilydd nes eu bod o fewn tua metr oddi wrth y naill a’r llall)

    Os ydw i wyneb yn wyneb â'r person yr ydw i’n cynnal sgwrs ag ef, rydw i'n sensitif i graffter mynegiant yr wyneb, ystum a thôn y llais, mewn modd sy'n amhosibl i'w gyfleu mewn neges destun. Mae yna lai o bosibilrwydd o gamddeall yr hyn sy'n cael ei olygu.

Amser i feddwl

Beth fydd eich sgwrs nesaf, tybed? Gaf fi awgrymu eich bod yn canolbwyntio ar dri pheth wrth sgwrsio: 

- cadw’n agos at yr un rydych chi’n sgwrsio ag ef 
- gwrando’n astud 
- ymateb yn feddylgar.

Trwy wneud hyn, gobeithio, fe fyddwch yn gweld bod eich cyfeillgarwch yn gryfach, eich penderfyniadau’n gliriach, ac fe fydd llai o gamddealltwriaeth.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am allu sgwrsio.
Diolch i ti am newyddion i’w rannu,
am awgrymiadau y gallwn ni eu gwneud
ac am gwestiynau y gallwn ni eu gofyn.
Gad i mi wrando a darllen yn ofalus,
ymateb yn feddylgar
a byw heb fod yn edifar.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Talk’ gan Coldplay

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon