Pwy Hoffech Chi Ei Gyfarod (WLTM)
Pwy hoffech chi ei gyfarfod ar Ddydd Sant Ffolant?
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i ystyried beth maen nhw’n chwilio amdano mewn perthynas, ac egluro ei bod hi’n bosib i berthynas glos wrthsefyll y tyndra a’r straen sydd i’w cael ambell dro mewn sefyllfaoedd yn eich bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewiswch dri i ddarllen.
Gwasanaeth
- Arweinydd Mae iaith tecstio wedi ein gwneud ni’n bobl greadigol a hefyd yn peri i ni fod yn gynnil wrth ddefnyddio iaith. Rydyn ni’n byrhau geiriau, gan adael y llafariaid allan yn aml, ac yn troi brawddegau neu ddywediadau’n acronymau trwy gymryd llythyren gyntaf bob gair yn unig.
Er enghraifft, fe welwch chi rywbeth tebyg i hyn, sy’n cynnwys y ddau acronym canlynol, yn aml mewn cylchgronau: Fun loving 16-year-old with GSOH WLTM similar for parties, films and travel.
Beth yw ystyr GSOH a WLTM?
(Derbyniwch atebion gan y myfyrwyr: GSOH = Good Sense of Humour, WLTM = Would Like To Meet.) - Fy nghwestiwn i, i chi heddiw, yw: Pwy fyddech chi’n hoffi ei gyfarfod ar y Dydd Sant Ffolant hwn? Pwy oeddech chi’n gobeithio fyddai wedi anfon cerdyn atoch chi heddiw?
Mewn byd perffaith, pwy fyddech chi’n hoffi derbyn cerdyn ganddo neu ganddi? Pwy fyddech chi’n dewis anfon cerdyn ato, neu ati? - Yn uchel ar restr gofynion llawer o bobl fyddai rhywun sy’n edrych yn eithaf golygus. Pa un ai ydyn nhw’n teimlo ydi hynny’n iawn ai peidio, mae’n amlwg ein bod, fel rheol, yn cael ein denu at ein gilydd oherwydd y ffordd rydyn ni’n ymddangos (er nad yw pawb ohonom yn rhannu’n union yr un hoffter o bethau bob tro).
Mae personoliaeth yn dod yn ail agos, gyda’r GSOH yn ddewis poblogaidd iawn. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael gwên ar ein hwynebau pan fyddwn ni mewn perthynas.
Mae bod yn rhannu’r un diddordebau’n help hefyd. Ydyn ni’n chwilio am rywun sy’n hoff o weithgareddau awyr agored, neu rywun sy’n well ganddo ef neu hi fod i mewn, sy’n dewis gwrando ar fath o gerddoriaeth neilltuol, rap, roc neu gerddoriaeth glasurol, sy’n hoffi noson wyllt allan neu noson dawel yn y ty?
Os ydych chi ddim ond yn chwilio am berthynas fer, mae’r meini prawf hyn yn debygol o fod yn rhai y byddech chi’n eu defnyddio. Ond beth os yw’r berthynas yn parhau am dymor hir? Nid yw’n beth anghyffredin i rywun gwrdd â phartner oes pan fydd yng nghanol ei arddegau neu yn ei arddegau hwyr, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n setlo gyda’i gilydd cyn teithio rhywfaint, cwblhau astudiaethau coleg, neu ddechrau gyrfa. - Mae’r Gwasanaeth Priodas, pa un a fydd hwnnw mewn eglwys neu leoliad seciwlar, yn cynnwys rhai syniadau allweddol ynghylch adeiladu perthynas sydd wedi ei bwriadu i barhau. Mae’r syniadau hyn yn mynd â ni ymhellach na’r edrychiad, y bersonoliaeth a’r rhannu diddordebau.
Mae un rhan gyfarwydd iawn yn nodi fel a ganlyn:
Darllenydd 1 Er gwell (saib) er gwaeth.
Darllenydd 2 Er cyfoethocach (saib) er tlotach.
Darllenydd 3 Yn glaf (saib) ac yn iach.
Arweinydd Beth mae’r brawddegau hyn yn ei olygu? - Mae’r gyntaf (‘er gwell, er gwaeth’) yn realistig ynghylch troeon yr yrfa, y pethau da a’r pethau sydd ddim cystal sy’n gallu digwydd mewn perthynas.
Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n mynd allan efo rhywun gan obeithio gwneud ein bywyd yn well (ac rydyn ni’n gobeithio bod yr un peth yn wir yn achos y person arall hefyd) ond dydi pethau ddim yn digwydd felly bob tro. Mae pethau’n gallu mynd o chwith, mae camddealltwriaeth yn gallu digwydd, ac mae canlyniadau ambell dro nad oedd neb wedi meddwl amdanyn nhw yng ngwrid cyntaf y rhamant.
Eto, fe all perthynas glos wrthsefyll y math hwn o dyndra a straen. - Mae’r ail (‘er cyfoethocach, er tlotach’) yn ymwneud â realaeth byw mewn cyfnod o wasgfa gredyd.
Mae’n bosib y byddwn ni i gyd yn mynd trwy adegau pan fydd arian yn brin: wrth dalu dau ddogn o fenthyciadau myfyrwyr efallai, neu dalu morgais, a chadw’r cardiau credyd dan reolaeth yn wyneb temtasiynau sy’n cael eu peledu atom drwy hysbysebion.
Fe all perthynas glos sefyll y math hwn o dyndra a straen. - Mae’r trydydd (‘yn glaf ac yn iach’) yn ymwneud â’r ffaith real y gallwn ni gael cyfnodau o fod yn wael ein hiechyd, pa un ai pwt o annwyd neu ffliw fydd hynny neu gyflwr mwy difrifol all fod yn fygythiad i fywyd. Ac mae rhywun sy’n sâl yn gallu bod yn fyr ei dymer, yn ddiamynedd, ac o bosib yn anodd byw gydag ef neu hi ar adegau hyd yn oed.
Fe all perthynas glos sefyll y math hwn o dyndra a straen.
Amser i feddwl
Mae’n bosib nad oes yr un ohonoch chi’n fwriadol yn chwilio am bartner oes ar y Dydd Sant Ffolant hwn. Mwy na thebyg dydych chi ddim yn edrych llawer pellach na dod o hyd i rywun i fynd allan gyda chi yn ystod y penwythnos sydd i ddod.
Ond mae rhywbeth sy’n dal i fod yn berthnasol yn y geiriau o’r Gwasanaeth Priodas. Un peth yw nos Sadwrn, ond pam na chwiliwch chi am rywun sydd yr un mor ddeniadol ar fore Llun pan fyddwch chi’n cyrraedd yr ysgol yn hwyr ac yn ddrwg eich hwyl am nad ydych chi wedi gwneud eich gwaith cartref?
Pam na chwiliwch chi am rywun sy’n dal i fod eisiau treulio amser yn eich cwmni hyd yn oed pan fyddwch chi heb arian i’w wario?
Pam na chwiliwch chi am rywun y byddwch chi’n gwybod a fydd yno i chi pan fyddwch chi’n sâl efo’r ffliw, neu’n ddi-hwyl am ryw reswm? Pam na wnewch chi edrych ymhellach na’r ffordd mae rhywun yn edrych, neu’r GSOH?
Felly, pwy fyddech chi’n hoffi ei gyfarfod ar y Dydd Sant Ffolant hwn?
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am gyffro perthnasoedd cariad
gyda’u holl droeon uchel ac isel.
Diolch i ti am gefnogaeth ac anogaeth ffrindiau da.
Gad i ni fod yn ddoeth ac yn ofalus wrth ffurfio perthnasoedd
sy’n gadarn, yn ddiogel ac yn debyg o barhau.
Cân/cerddoriaeth
‘Love is’ gan Martyn Joseph