Esblygiad, Gwyddoniaeth A Chrefydd
Awyrennau papur a rhai meddyliau ar gyfer y Garawys
gan The Revd John Challis
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Codi cwestiynau gyda’r myfyrwyr am esblygiad a’r modd mae gwyddoniaeth a chrefydd yn cymysgu.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr y gerddoriaeth ‘Fragile’ gan Sting (ar gyfer diweddu’r gwasanaeth).
- Fe fydd arnoch chi angen darn arall o gerddoriaeth fyfyriol hefyd (ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’).
- Lluniwch awyren bapur ar ffurf silindr, fel a ganlyn:
Plygwch stribed modfedd o led ar hyd ymyl hiraf dalen o bapur A4. Parhewch i blygu’r papur dros y stribed modfedd hwn nes bydd tua hanner y ddalen wedi ei chynnwys o fewn y plygiad modfedd.
Dewch â dwy ymyl fer y papur at ei gilydd i wneud siâp silindr (fe allech chi ddefnyddio tun ffa pob neu gawl yma neu rywbeth felly i’ch helpu i gael y siâp, os hoffech chi.) Fe ddylai un ymyl orgyffwrdd y llall tua 2 fodfedd dros ei gilydd.
Defnyddiwch dâp gludiog clir i lynu’r ymylon ynghyd ar du mewn a thu allan y silindr.
Daliwch y silindr papur gyda’r ymyl dew yn wynebu draw oddi wrthych chi, a thaflwch y silindr fel pêl-droed i wneud iddo hedfan. - Fe fydd arnoch chi angen dalen arall o bapur A4 hefyd, y byddwch chi’n ei blygu fel a ganlyn, wrth siarad yn nes ymlaen:
Gwasanaeth
- Mae diwinyddion a gwyddonwyr yn aml yn ceisio profi neu wrthbrofi bodolaeth Duw. Heddiw, mae gen i’r meitr (het) esgob yma (daliwch i fyny’r awyren bapur siâp silindr rydych chi wedi ei gwneud, sydd hefyd yn edrych yn debyg i benwisg esgob - meitr) i gynrychioli’r Eglwys, ac mae gen i ddalen o bapur A4 sy’n cynrychioli gwyddoniaeth.
Mae gwyddoniaeth a chrefydd yn aml yn ymddangos fel pe bydden nhw’n wrthgyferbyniol i’w gilydd. - Yn ddiweddar, fe glywais am wyddonydd yn holi pam nad yw anifeiliaid wedi esblygu fel eu bod yn gallu amddiffyn eu hunain rhag bodau dynol.
Rydyn ni i gyd yn meddwl bod esblygiad yn egluro sut mae bywyd ar y ddaear wedi datblygu o’r organebau cyntaf i fodau dynol. Ond pam nad yw anifeiliaid, yn ôl pob golwg, ddim wedi esblygu yn y fath fodd fel eu bod yn gallu amddiffyn eu hunain rhag bodau dynol?
Cymrwch, er enghraifft, y pysgodyn cyffredin penfras - cod. (Wrth i chi siarad, cymerwch eich dalen bapur A4 a’i blygu fel mae’n dangos uchod.) Mae dynoliaeth wedi llwyddo i ddifodi llawer o anifeiliaid oddi ar ein planed, Daear. O’r dodo i’r ych gwyllt (bison) yng Ngogledd Affrica, ac mae pryder y bydd y pysgodyn penfras yn diflannu hefyd. Mae gan anifeiliaid ffyrdd ardderchog o amddiffyn eu hunain rhag anifeiliaid eraill, ac mae’r rhain ambell dro’n gweithio yn ein herbyn ninnau hefyd. Ond fel mae’n ymddangos ein bod ni’n gallu goresgyn dulliau amddiffyn yr anifeiliaid, does gan yr anifeiliaid ddim modd o amddiffyn eu hunain rhagom ni.
Mae’r penfras yn bwyta ei ysglyfaeth ef ac rydyn ninnau’n bwyta’r penfras. A dyma sy’n ddiddorol, fel mae niferoedd y penfras yn gostwng mae ysglyfaeth y penfras - y bwyd mae’n ei fwyta - yn rhydd, ac felly’n gallu bwyta mwy a mwy o’i hoff fwyd yntau, sef malwod môr. Yn y can mlynedd diwethaf, mae’r falwen fôr wedi esblygu yn yr ardaloedd lle does dim llawer o’r penfras, ac mae ‘n amddiffyn ei hun gyda chragen lawer caletach. Sut bynnag, mewn llefydd lle mae digonedd o benfras, dyw’r falwen fôr ddim wedi gorfod datblygu’r math hwn o amddiffynfa.
Felly, mae anifeiliaid yn esblygu, a hynny’n gyflym weithiau, ac eto dydyn nhw ddim yn esblygu yn ein herbyn ni. Dydw i ddim yn mynd i gynnig rheswm i chi, ond mae’n rhywbeth gwerth meddwl amdano. - Nawr, meddyliwch am y meitr esgob yma, pan oeddwn i’n ifanc fe dreuliais i wythnosau’n ceisio llunio’r awyren bapur ddelfrydol. Erbyn heddiw, mae gwyddonwyr wedi gallu datblygu awyren bapur ddelfrydol – ac mae’n gallu hedfan a hedfan. (Gadewch i’r meitr esgob sydd gennych chi hedfan uwchben eich cynulleidfa.)
Mae’r meitr esgob sydd, fel y dywedais i, yn cynrychioli’r eglwys hefyd yn awyren bapur.
Rydw i wedi plygu’r darn papur sydd gen i ac sydd, fel y dywedais i, yn cynrychioli gwyddoniaeth. Ond y cyfan sydd gen i yw rhywbeth fel hyn, dydw i ddim wedi gallu gwneud dim llawer ohono. Gwerth dim! Waeth i mi ei rwygo, am wn i! (Rhwygwch y papur plygedig lawr ei ganol ar ei hyd.) - Wrth i mi feddwl am esblygiad a gwyddoniaeth, rydw i hefyd yn meddwl am grefydd. Mae rhywbeth sy’n ymddangos yn werth dim, ac yn ymddangos fel pe byddai ddim yn mynd i lwyddo, yn aml yn gallu bod yn rhywbeth pwysig iawn. Weithiau, ni sydd ddim yn meddwl bod rhywbeth yn bosib.
Pan oedwn i’n ifanc doedd neb yn meddwl ei bod hi’n bosib plygu papur yn ei hanner fwy na saith gwaith. Mae’r myth hwnnw wedi ei wrthbrofi gan rywun yn America.
Ydi hi’n bosib plygu papur yn ei hanner fwy na saith gwaith?
Ydi hi’n bosib gwneud i silindr hedfan?
Pam nad yw anifeiliaid yn esblygu yn ein herbyn ni, fodau dynol?
(Agorwch blygiadau’r papur rydych chi wedi ei rwygo. Ymysg y darnau, yr hyn ddylai fod gennych chi’n weddill yn eich llaw yw croes bapur maint A4.) Beth pe byddai’r hyn sy’n cael ei adrodd yn y Beibl yn iawn wedi’r cyfan?
Ydi hi’n bosib cymysgu gwyddoniaeth a chrefydd?
Amser i feddwl
Chwaraewch gerddoriaeth a gadewch i’r myfyrwyr ystyried pethau’n dawel am foment.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
I ddiweddu’r gwasanaeth chwaraewch y gerddoriaeth ‘Fragile’ gan Sting (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd)
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.