Calon Cariad A Chalon Friw
Ystyried ein hagwedd tuag at berthnasoedd ar Ddiwrnod Sant Ffolant.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried ein hagwedd tuag at berthnasoedd ar Ddiwrnod Sant Ffolant.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewiswch bedwar darllenydd.
- Mae’r dyfyniadau o’r Beibl i’w cael yn 1 Corinthiaid pennod 13.
Gwasanaeth
- Arweinydd: Felly, mae’n Ddiwrnod Sant Ffolant! Oeddech chi’n gwybod bod dynion, yn ôl y sôn, yn gwario dwywaith cymaint ar anrhegion Ffolant nag y mae merched yn ei wneud? Ac a oeddech chi’n gwybod bod siopau blodau’n manteisio ar hyn ac yn codi prisiau rhosod coch yn ystod yr ychydig ddyddiau cyn Chwefror 14?
Ond y peth trist hefyd yw bod 1 y cant o ferched America, yn ôl pob golwg, yn prynu blodau iddyn nhw’u hunain ar Ddiwrnod Sant Ffolant – rhag ofn i neb arall brynu blodau iddyn nhw. - Gall Diwrnod Sant Ffolant ennyn amrywiaeth o emosiynau.
Darllenydd 1 (yn nerfus) Pan fydda i’n deffro ar Ddiwrnod Sant Ffolant fe fydda i’n teimlo’n llawn gobaith ac yn llawn disgwyliadau. Fydd rhywun yn anfon cerdyn neu anrheg i mi heddiw? Ydi’r unigolyn hwnnw sy’n golygu rhywbeth i mi wedi penderfynu dangos ei gariad (neu ei chariad) tuag ataf fi? Pwy a wyr, efallai y byddaf yn cael cerdyn neu anrheg annisgwyl.
Darllenydd 2 (yn ddig) Wel, rydw i’n gobeithio y bydd rhywun wedi anfon rhywbeth ataf fi heddiw . . . neu fe fydd yma le! Dydw i ddim yn mynd i gael fy nghymryd yn ganiataol. Fydda i ddim yn fodlon oni bai fy mod i’n cael cerdyn beth bynnag, a blodau neu siocledi. Os na chaf fi o leiaf rywbeth felly fe fydd y berthynas ar ben - rydw i o ddifrif.
Darllenydd 3 (yn drist) Rydw i’n gwybod y byddaf yn cael fy siomi. Fydda i byth yn cael cerdyn na blodau. Fe fyddai’n dda gen i pe byddai pawb yn anghofio am heddiw – fel mae pawb yn anghofio amdanaf fi.
Darllenydd 4 (yn llawn embaras) Rydw i wedi gwneud rhywbeth gwirion, wedi anfon cerdyn i mi fy hun! Dwi’n gwybod na fydd neb yn anfon ataf fi, ac fe fyddai pawb yn dod i wybod hynny. Ond, o diar, fe fyddan nhw’n chwerthin wrth weld beth wnes i sgwennu. Fe fydda i’n destun sbort o ddifrif. Fe fyddai’n dda gen i pe bawn i heb anfon y cerdyn hwnnw. - Arweinydd Nid dim ond amrywiaeth o emosiynau sydd yma, ond emosiwn yn ei eithafion. Fe fydd rhai ohonoch chi wedi gwirioni’n lân efallai ynghylch perthynas sy’n dechrau o’r newydd heddiw. Fe fydd rhai eraill ohonoch a’u calon wedi torri’n llwyr, naill ai am na chyflawnwyd eich disgwyliadau neu am eich bod yn teimlo eich bod wedi cael eich gwrthod.
Mae Diwrnod Sant Ffolant yn adeg beryglus. - Eto, mae Diwrnod Sant Ffolant i fod i ymwneud â chariad. Fe siaradodd Iesu am sut mae cariad yn sylfaenol i’n perthnasoedd. Fe ddywedodd wrthym am garu ein cymdogion, y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw o ddydd i ddydd. Fe aeth ymhellach na hynny wedyn a dweud wrthym am garu ein gelynion hyd yn oed, y bobl hynny fydd yn brifo ein teimladau.
Felly, sut gallwn ni ofalu bod Diwrnod Sant Ffolant yn ddiwrnod o gariad ar gyfer pob un, y rhai sy’n llawen a’r rhai sy’n drist, y rhai sy’n agos atom a’r rhai rydyn ni’n eu hosgoi, y rhai rydyn ni’n eu hoffi a’r rhai dydyn ni ddim mor hoff ohonyn nhw? - Ym mhennod 13 yn ei lythyr at yr Eglwys yng Nghorinth, fe nododd Paul ddisgrifiad swydd ar gyfer bod yn gariadlon. Fe ddywedodd mai peth fel hyn yw cariad:
Darllenydd 1 ‘Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo.’
Arweinydd Rydw i’n meddwl y byddai’n bosib cymhwyso hyn i’r ffordd mae rhai ohonoch chi’n teimlo heddiw. Efallai eich bod chi’n teimlo’n eiddigeddus am fod rhywun arall wedi cael ei ddewis, neu ei dewis, yn hytrach na chi. Ond, ar y llaw arall, efallai eich bod yn cael eich temtio i lawenhau yn eich llwyddiant.
Fy nghwestiwn i chi yw: Allwch chi yn lle hynny, oresgyn eich teimladau a bod yn amyneddgar a charedig tuag at eraill sy’n teimlo’n isel eu hysbryd? - Arweinydd Gadewch i ni glywed ychydig rhagor o’r hyn sydd gan Paul i’w ddweud.
Darllenydd 2 ‘Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio ...’
Arweinydd Pan fydd pethau ddim yn mynd yn iawn i ni, mae’n hawdd iawn bod yn hunan ganolog. Mae hyn yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n ymateb i hyd yn oed y sylwadau mwyaf diniwed. Un ffordd o oresgyn yr agwedd negyddol hon yw edrych tuag allan yn fwriadol a bod yn gadarnhaol yn y ffordd rydyn ni’n trin a thrafod pobl eraill. - Arweinydd Ac felly, fe awn ni ymlaen at rywbeth arall y mae Paul yn ei nodi yn y bennod hon:
Darllenydd 3 ‘ ... nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.’
Arweinydd Mae Diwrnod Sant Ffolant yn llawn cyfrinachau. Weithiau mae’r gwir yn mynd ar goll, a phan fydd hynny’n digwydd mae ein dychymyg yn mynd yn drech na ni. Pa mor hir y byddwn ni’n dyfalbarhau nes byddwn ni’n darganfod hyn ac yn gofalu does dim camddealltwriaeth yn digwydd? - Arweinydd Wrth gwrs, mae’r cariad y mae Paul yn cyfeirio ato yn fwy na chariad rhamantus y byddwn ni’n ei gysylltu fel arfer â Diwrnod Sant Ffolant.
Y broblem gyda chariad rhamantus yw ei fod fel bom heb ffrwydro, ac fe all achosi llawer o niwed os yw’n ffrwydro’n ddamweiniol.
Mae’r cariad y mae Iesu a Paul yn sôn amdano yn cael ei gyfeirio tuag at drwsio rhywfaint o’r niwed sydd wedi ei achosi, ac mae’n mynd y tu hwnt i heddiw, ymlaen i yfory a’r wythnos nesaf ac ymhellach na hynny hefyd.
Amser i feddwl
Gwrandewch eto ar eiriau Paul. O’r disgrifiad hwn sydd ganddo o gariad, dewiswch rywbeth a allai eich helpu chi heddiw.
Darllenydd 1 ‘Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo.’
Darllenydd 2 ‘Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio ...’
Darllenydd 3 ‘... nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.’
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am fwyniant cariad ieuenctid.
Diolch i ti am y perthnasoedd sy’n dechrau heddiw, neu sy’n cael eu cadarnhau neu eu cryfhau heddiw.
Gad i ni fod yn sensitif i’r amrywiaeth eang o emosiynau sy’n dod i’n rhan, a gad i ni fod ag agwedd gariadus tuag at ein gilydd.
Cerddoriaeth
‘Make you feel my love’ gan Adele