Agor Y Drws
Annog y myfyrwyr i wynebu her cyfleoedd newydd.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i wynebu her cyfleoedd newydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewiswch dri myfyriwr i ddarllen.
Gwasanaeth
- Arweinydd Archeolegydd oedd Howard Carter. Yn gyflogedig gan arglwydd Prydeinig, yr Arglwydd Carnarvon, roedd Carter yn gweithio yn Nyffryn y Brenhinoedd yn yr Aifft yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd yn chwilio am feddrod cudd o un o'r Pharoaid oedd wedi ei gladdu, yn ôl pob sôn, rywle yn yr ardal honno.
Ar 16 Chwefror 1923 safodd Carter o flaen porth wedi ei selio oedd yn arwain i . . . Wel, nid oedd yn hollol siwr i ble. Wrth iddo sefyll yn y fan honno gyda morthwyl a chyn fe fyddai llawer o bethau wedi mynd trwy'i feddwl.
Darllenydd 1 Yn gyntaf, fe fyddai'n falch ei fod, o'r diwedd, wedi gallu gwneud darganfyddiad. Roedd wedi dechrau cloddio yn yr ardal yn y flwyddyn 1914, ond roedd digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi golygu ei fod wedi gorfod gohirio'r gwaith tan 1917. Daeth ffactorau allanol i ddylanwadu ar ei waith. Ond roedd ei ddewis ef ei hun hefyd wedi golygu oedi cyn agor y drws. Er mwyn catalogio'n gywir y gwrthrychau fyddai'n dod i'r golwg yn y rhagsiambr (y mynediad i'r beddrod), yr oedd wedi eu darganfod yn ystod y mis Tachwedd blaenorol, roedd wedi penderfynu peidio â mynd ymhellach. Roedd yn ffordd broffesiynol iawn i weithredu ond rhaid bod hynny wedi achosi cryn deimladau o rwystredigaeth.
Darllenydd 2 Yn ail, roedd rhaid ystyried y felltith. Roedd honiadau ar led yn yr Aifft y byddai unrhyw un fyddai'n torri i mewn i feddrod caeedig unrhyw Pharo er mwyn cymryd oddi yno wrthrychau drudfawr oedd wedi eu cadw yno yn dioddef marwolaeth ddychrynllyd. Roedd yr honiadau hyn wedi bodoli ymhlith pobloedd Arabaidd am ganrifoedd. A oedd y felltith yn wir? Nid oedd gan Howard Carter unrhyw ffordd o wybod beth fyddai'r canlyniadau pe byddai'n torri'r seliau ar y drws.
Darllenydd 3 Fodd bynnag, er mwyn ei ysbrydoli, roedd wedi cael rhyw gipolwg o'r hyn oedd yn gorwedd tu hwnt i'r drws. Y mis Tachwedd blaenorol roedd wedi gwneud twll bach yng nghornel uchaf ochr chwith y drws ac wedi cael cip, yng ngolau cannwyll, o'r hyn oedd tu mewn. Pan ofynnwyd iddo beth yr oedd yn gallu'i weld, fe atebodd, ‘Pethau rhyfeddol.’ - Arweinydd Mae yna adegau pryd yr wyf wedi teimlo fel fy mod yn sefyll o flaen drws y gallwn ddewis ei agor neu beidio. Dydw i ddim yn golygu drws materol. Rwy'n cyfeirio at ddrws cyfle. Gall fod yn gyfle i wneud rhywbeth newydd, rhyw sialens i'w osod i mi fy hun, dechrau perthynas neu'r posibilrwydd chwilfrydig i archwilio.
(Efallai y byddwch yn dymuno rhoi enghraifft bersonol y gellid ei ehangu i ddangos y pwyntiau canlynol.) - Bydd unrhyw un ohonoch, wrth ddod wyneb yn wyneb â drws cyfle, yn debygol o gael y profiad o deimlo fod eich meddwl yn llawn o feddyliau ac emosiynau sy'n gwrthdaro â'i gilydd.
Efallai y byddwch yn ymwybodol o'r goblygiadau ymarferol o gymryd y cyfle hwn. Sut fyddwch chi'n cyrraedd yno? Beth fydd y gost? A oes gennych yr amser?
Byddwch yn sicr yn teimlo'r pwysau a allai fod ynghlwm wrth gyfle unwaith mewn oes. Os na fyddwch yn ei gymryd yn awr efallai na ddaw'r cynnig heibio byth eto.
Yna mae'r risg. Beth petai'r cyfan yn mynd o chwith? A fyddwch chi'n debygol o ddifaru'r hyn wnaethoch chi?
Fodd bynnag, mae'n bosib eich bod wedi derbyn peth anogaeth. Efallai eich bod wedi siarad ag eraill sydd wedi cymryd cyfle tebyg. Efallai eich bod wedi ymchwilio'r manylion yn fanwl neu wedi mynychu sesiwn arbrofol. Ond byddwch yn dal i bendroni - a ydych chi'n agor y drws ai peidio? - Fe agorodd Howard Carter y drws a daeth wyneb yn wyneb â'r beddrod mwyaf afradlon a gwych a ddarganfuwyd erioed. Beddrod y Pharo ifanc Tutankhamen oedd hwn. Roedd yr arch garreg a'r trysorau o aur ac eboni o'i chwmpas yn wir yn 'bethau rhyfeddol'. Bu'r aros a'r ansicrwydd yn werth chweil.
Amser i feddwl
Arweinydd Oes cyfle yn eich wynebu'r funud hon? Ydych yn ansicr beth i'w wneud?
Cymerwch rai cynghorion o'r ffordd y gweithredodd Howard Carter.
Yn gyntaf, fe gafodd gipolwg ar yr hyn allai fod yno. Yn hytrach nag ymlwybro'n ddall at rywbeth newydd, dysgwch ychydig amdano.
Yn ail, nid oedd ar ei ben ei hun. Roedd ganddo dîm o archeolegwyr i'w gefnogi, pobl y gallai ymddiried ynddyn nhw, ac roedd yn gwerthfawrogi eu cyngor. Peidiwch â mentro ar eich pen eich hun i rywbeth newydd. Ewch gyda ffrind neu fel rhan o grwp.
Ac un awgrym pellach: cofiwch adael ffordd allan i chi eich hun rhag ofn na fydd pethau'n union fel yr oeddech wedi gobeithio iddyn nhw fod.
Efallai y byddwch yn dymuno dweud y weddi ganlynol.
Gweddi
Arglwydd,
diolch i ti fod fy mywyd yn llawn cyfleoedd.
Diolch i ti fy mod yn gallu eu hwynebu, a bod gen i deulu, ffrindiau ac aelodau o gymuned yr ysgol i alw am eu help.
Heddiw, rydw i’n dy wahodd di i'm helpu i symud ymlaen ac agor rhai drysau.
Amen.
Cerddoriaeth
‘Opportunities’ gan y Pet Shop Boys.