Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nanoblocks

Ystyried ein hangen am wrthrychau sy’n ein hatgoffa o beth sy’n bwysig i bob un ohonom.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried ein hangen am wrthrychau sy’n ein hatgoffa o beth sy’n bwysig i bob un ohonom.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dangoswch fodelau wedi’u gwneud o Lego a rhai wedi’u gwneud gyda blociau Nanoblock, neu tafluniwch ddelweddau o rai (yn enwedig y rhai wedi’u gwneud gyda blociau Nanoblocks, gan fod y modelau hyn yn fach iawn).

  • Dangoswch goeden bonsai, os byddwch yn gallu dod o hyd i un.

  • Llwythwch i lawr luniau o’r Safleoedd Treftadaeth Byd y mae cyfeiriad atyn nhw yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Lego yw un o'r teganau mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae'r briciau bach a'r ffigurau bach wynebau melyn yn brif degan yn ystafell wely llawer o blant, ac mae gan lawer o oedolion atgofion melys hefyd amdanyn nhw’u hunain yn chwarae â Lego. Mae cefnogwyr hyn Lego wedi creu cynlluniau anghyffredin, yn aml yn cynnwys gwerth cannoedd o bunnoedd o friciau ac yn ymestyn dros arwynebedd eang. 

  2. Mae Lego yn boblogaidd hefyd yn Japan. Ond mae Japan yn farchnad unigryw ar gyfer teganau creadigol. Mae gan Japan boblogaeth uchel iawn ac mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn cynnwys ardaloedd mynyddig y mae’n amhosib byw ynddyn nhw. Mae miliynau o bobl wedi cael eu gwthio i mewn i ardaloedd gwastad sydd o amgylch yr arfordiroedd. O ganlyniad i hyn, mae tir yn ddrud iawn ac mae llawer o'r Japaneaid yn byw mewn fflatiau bychan, heb fawr o le sbâr. Mae hyn yn un o'r prif ffactorau pam mae'r Japaneaid yn gwerthfawrogi gwrthrychau bychan manwl a dyrys, fel yr enghraifft fwyaf enwog, sef y bonsai. Coed bychan iawn yw'r Bonsai, sydd yr un maint â phlanhigion sil ffenest yn y ty. Bydd eu perchnogion yn eu tocio'n rheolaidd, i sicrhau eu bod yn aros yn gymen a gweddus. Eto mae'r arddull hon, sy'n fach a chain, yn nodweddiadol mewn dull coginio Japaneaidd, yn enwedig sushi, yn ogystal ag mewn rhannau eraill o ddiwylliant Japaneaidd.

  3. Fe barodd i'r sefyllfa unigryw hon greu bwlch yn y farchnad ar gyfer Nanoblocks: tegan adeiladu bach gyda darnau bychan iawn sy'n cael eu defnyddio i wneud modelau o dirnodau enwog, ynghyd â phethau eraill. Mae'n fwy o hobi gan  oedolion nag yw o degan plentyn, ac yn weithgaredd anodd iawn, oherwydd bod maint y darnau mor fach. Ond mae'r modelau gorffenedig yn gweddu: maen nhw'n fach ac yn fanwl iawn. 

  4. Mae'r dewis o dirnodau byd-eang, fel Mont Saint-Michel yn Ffrainc, neu Canolfan Ofod Cape Canaveral yn Florida, yn adrodd cyfrolau hefyd am ddiwylliant Japaneaidd. Gall Japan ymffrostio bod ganddi rai o Safleoedd Treftadaeth Byd mwyaf nodedig, fel y temlau hynafol yn Kyoto a chastell ysblennydd Himmeji. Eto, mae llawer o'r Japan modern wedi ei adeiladu o goncrid, dur a gwydr. Cafodd dinasoedd cyfan yno eu dinistrio'n llwyr ym mlynyddoedd olaf yr Ail Ryfel Byd, ac nid dim ond y targedau i'r bom atomig yn Hiroshima a Nagasaki. Fe arbedwyd Kyoto oherwydd ei harddwch, ond fe ddinistriwyd llawer o'r cofebion eraill a oedd yn arddangos diwylliant unigryw'r Japaneaid wrth i luoedd y Cynghreiriaid geisio dinistrio safleoedd diwydiannol Japan a chwalu hyder a thorri calon ei phobl. Heddiw, mae gwarchod a gwerthfawrogi Safleoedd Treftadaeth y Byd gartref a thramor yn rhan bwysig o’r seice Japaneaidd.

  5. Mae'r byd mawr yn parhau i ryfeddu at bopeth Japaneaidd: mae gwrthrychau bach, manwl yn boblogaidd drwy'r byd. Mae'r cynnydd mewn cyfleoedd sy’n ymwneud â thwristiaeth heddiw yn golygu, yn fwy nag o'r blaen, bod modd cael mynediad at y Safleoedd Treftadaeth Byd hynny sy'n cael eu modelu mewn Nanoblocks. Eto i gyd, fel y mae rhyfeloedd yn parhau a hinsawdd y byd yn newid, mae llawer o'r pethau hyn sy'n rhan o hanes y ddynoliaeth yn fregus. Rhaid i ni sicrhau nad yw'r lleoedd hyn yn diflannu fel a ddigwyddodd i rannau helaeth o hanes Japan: ac nad ydyn nhw’n aros fel atgofion yn unig, neu fel modelau ar silff.

Amser i feddwl

Pe byddech chi'n gallu gwneud model bychan o unrhyw beth sy’n bwysig yn eich golwg chi, beth fyddai hwnnw?
Daliwch y lle hwnnw, neu'r gwrthrych hwnnw, yn eich meddwl am foment.
Yn awr diolchwch amdano.

Saib

Boed i bawb ohonom ymdrechu i sicrhau bod y lleoedd arbennig hyn yn aros mewn gwirionedd yn ogystal ag aros yn ein calonnau a'n meddyliau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Llwythwch i lawr gerddoriaeth nodweddiadol Japaneaidd i’w chwarae wrth i’r myfyrwyr fynd allan o’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon