Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Perthnasoedd Teflon

Annog y myfyrwyr i ystyried strategaethau ymarferol y gallan nhw’u defnyddio pan fydd angen rhoi sylw i berthnasoedd personol.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried strategaethau ymarferol y gallan nhw’u defnyddio pan fydd angen rhoi sylw i berthnasoedd personol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy badell ffrio, un sydd â golwg hen ac wedi llosgi arni, ac un arall newydd sbon - math gydag arwynebedd anlynol, fel Teflon.

Gwasanaeth

  1. Pwy sy’n hoffi golchi’r llestri ar ôl bwyta pryd o fwyd?

    Rhowch gyfle i’r myfyrwyr ymateb ac i chithau fel arweinydd wneud rhai sylwadau.

    Yn fy mhrofiad i, un o’r pethau anoddaf eu golchi yw padell sydd wedi cael ei defnyddio i ffrio bwydydd.

    Dangoswch y badell ffrio ddu!

    Mae fel petai’r broses o goginio’n weldio’r cig, y llysiau neu’r wy (sydd wedi dechrau llosgi), ar arwynebedd y badell. Mae hyd yn oed y peiriant golchi llestri ‘n methu delio â pheth fel hyn. Rhaid golchi’r badell â llaw, gan ddefnyddio pad sgwrio a rhwbio’n galed, galed, a gall hynny beri i’ch braich fod yn boenus wedyn am oriau.

  2. Heddiw fe hoffwn i gyflwyno i chi Dr Roy Plunkett, ymchwilydd ar ran Kinetic Chemicals o New Jersey yn yr UDA. Ym mis Ebrill 1938, 75 mlynedd yn ôl, roedd yn gweithio i geisio cynhyrchu oerydd newydd i'w ddefnyddio mewn oergelloedd. Yn ystod ei arbrofion fe ddarganfu bod ochrau mewnol ei fflasgiau yn cael eu gorchuddio gyda rhyw sylwedd gwyn hufennog anadnabyddus oedd yn rhyfeddol o lithrig. Rhoddwyd yr enw Teflon ar y sylwedd fflworoblastig. Gwnaed defnydd helaeth ohono mewn peiriannau lle'r oedd angen llithriad llyfn arnynt. Fodd bynnag, bu raid disgwyl tan y flwyddyn 1954 cyn i beiriannydd Ffrengig, Marc Gregoire, yn dilyn awgrym gan ei wraig, roi haen o Teflon ar ochr mewnol padell, ac o ganlyniad gynhyrchu'r badell ffrio gyntaf fyddai'n anlynol.

    Dangoswch yr ail badell ffrio, newydd a glân.

    Bydd Dr Plunkett a Monsieur Gregoire yn nyled dragwyddol bawb sydd wedi elwa o'r ffordd rwydd y gellir golchi padell anlynol.

  3. Mae'n beth anodd osgoi creu llanast, yn dydy? Mae'n ymdebygu i'r dywediad, allwch chi ddim gwneud omlet heb dorri wyau. A dydw i ddim yn sôn yn unig am greu llanast y gegin. Beth bynnag a wnawn ni, neu beth bynnag y byddwn ni’n ei ddweud neu’n ei feddwl, yn aml fe fydd rhai materion i'w datrys. Mae yna ganlyniad i bob penderfyniad a wnawn. Mae modd i rywun gamddehongli pob gair a lefarwn. Mae'r rhai sydd agosaf atom â'r ddawn hyd yn oed o allu darllen ein meddyliau.

    Yn anochel, fe fydd perthnasoedd gwyrgam i'w cael. Felly pan fydd rhywun yn gas wrthym, neu wedi cael eu brifo gennym ni, wedi pellhau oddi wrthym, neu pan fydd perthynas yn suro, pa mor dda ydym ni am allu tacluso'r llanast?
  1. Yn gynharach fe ofynnais i'r cwestiwn: ‘Pwy sy’n hoffi golchi’r llestri ar ôl bwyta pryd o fwyd?

    Pwy sy'n hoffi golchi'r llestri ar ôl bwyta pryd o fwyd?’ Doedd yna ddim llawer ohonoch yn mynegi unrhyw frwdfrydedd i wneud y gwaith. Yr un fath, os ydyn ni'n awyddus i gael gwared â'r llanast yn ein perthnasoedd, mae'n hanfodol i rywun ysgwyddo'r cyfrifoldeb o'r cychwyn.

    Fydd llanast sy'n cael ei adael i grawni ddim ond yn gwaethygu. Yn y gegin, fe all arwain yn y pen draw at wenwyn bwyd. Mewn perthynas, fe all arwain at bethau gwaeth fyth. Hyd yn oed pan fyddwn yn teimlo mai ni oedd ar fai yn wreiddiol, mae'n syniad da i ni ysgwyddo'r cyfrifoldeb a rhoi cychwyn ar y gwaith o glirio’r llanast. Fel mater o ffaith, pe bydden ni i gyd yn ymddwyn yn y fath fodd, yna fe fyddai modd delio â'r llanast o bob ochr.

  2. Yna wedyn, gadewch i'r cyfrifoldeb arwain at weithred benodol. Nid yw bwriadau da yn ddigon. Mae angen geiriau neu weithredoedd i bontio'r agendor sydd rhwng pobl. Ond byddwch yn barod i dderbyn peth ymateb wrth i chi adeiladu'r bont. Efallai nad yw'r person arall yn barod eto. Efallai fod ganddyn nhw ryw euogrwydd neu boen i ddelio ag ef yn gyntaf.

    Yn wir, fe allai pethau waethygu cyn iddyn nhw wella. Ond daliwch ati. Nid oes pwrpas i bont nad yw'n cyrraedd y lan gyferbyn. Neu efallai y bydd raid i chi aros nes bydd y person arall yn dechrau adeiladu o'u hochr nhw? Mae rywsut yn debyg i adael padell fudr i fwydo mewn dwr sebon cynnes am ysbaid cyn delio â hi drachefn.
  1. Mae popeth rydw i wedi ei grybwyll hyd yn hyn yn swnio braidd yn debyg i'r dull golchi llestri llafurus. Efallai y byddai'n well pe byddem yn gallu creu perthnasoedd Teflon, rhai lle nad oes ddim yn glynu. Gallai'r man cychwyn fod pan yw perthynas wedi cael ei glanhau, ac yna maddau ac anghofio’r hyn a fu. A phob dicter, ofn a materion llosg yn cael eu gadael yn y gorffennol.

Amser i feddwl

Fe roddodd Iesu gyfres o awgrymiadau am yr hyn fyddai person yn ymdebygu iddo mewn perthynas Teflonaidd. Fe ddywedodd mai’r bobl sy'n sychedu am hawliau a chyfiawnder, sy'n dangos trugaredd, ac sy'n ceisio adfer heddwch, yw'r rhai fydd yn byw bywyd sy'n llawen a bendithiol. Pam? Oherwydd eu heiddo nhw yw bywyd llawn o berthnasoedd iach, lle mae'r golchi llestri bob amser yn cael ei wneud a lle nad oes unrhyw beth yn glynu.

Dangoswch y ddwy badell.

Pa un hoffech chi fod? Chi piau’r dewis.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am berthnasoedd cryf ac iach.
Diolch am y pleser a gawn ni pan fydd perthynas oedd wedi torri’n cael ei hadfer.
Heddiw, gofynnaf i ti fy helpu i gymryd peth cyfrifoldeb
ynghylch clirio unrhyw annibendod sy’n parhau yn fy mywyd neu ym mywyd fy ffrindiau.

Cerddoriaeth

I’ll stand by you’ gan y Pretenders.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon