Beth Allwch Chi Ei Gredu?
Ystyried dylanwad y cyfryngau ar draddodiad Diwrnod Ffwl Ebrill, ac ystyried a ydyn ni’n bobl y mae’n bosib ymddiried ynddyn nhw.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried dylanwad y cyfryngau ar draddodiad Diwrnod Ffwl Ebrill, ac ystyried a ydyn ni’n bobl y mae’n bosib ymddiried ynddyn nhw.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr yr eitemau canlynol:
www.youtube.com/watch?v=27ugSKW4-QQ
www.youtube.com/watch?v=rznYifPHxDg
www.mirror.co.uk/tv/tv-news/simon-cowell-and-david-walliams-fool-778084
Gwasanaeth
- Heb air o eglurhad, dangoswch y clip o You Tube https://www.youtube.com/watch?v=27ugSKW4-QQ i'r plant.
Pan fydd y clip wedi dod i ben, gwnewch y sylw bod yna rai pobl yn yr ystafell sydd wedi edrych arno heb ddim amheuaeth yn eu meddyliau. Fel mater o ffaith, mae'r clip wedi ei gymryd oddi ar raglen Panorama'r BBC a ddarlledwyd ar Ddydd Ffwl Ebrill yn y flwyddyn 1957! Yn dilyn y rhaglen cafodd y stiwdios eu llethu â phobl yn holi ymhle y gallan nhw gael gafael ar goed spaghetti a holi am fanylion ynghylch sut i fynd ati i'w tyfu! - Dangoswch y clip www.youtube.com/watch?v=rznYifPHxDg. Dyma'r hyn ryddhaodd Google ar Ddydd Ffwl Ebrill yn y flwyddyn 2012, yn cyhoeddi eu fersiwn diweddaraf o Fapiau Google. Yn ôl pob golwg roedd pobl wedi ceisio llwytho i lawr y fersiwn hwn ar unwaith, gan feddwl mai hwn oedd y tuedd diweddaraf!
- Mae'r cyfryngau torfol yn hanfodol ar gyfer lledaenu eitemau o newyddion a rhoi gwybod i ni am wahanol sefyllfaoedd yn y byd. Yn gyffredinol, fe fyddech yn disgwyl bod yna rywfaint o wirionedd yn yr hyn sydd yn cael ei weld ar y newyddion neu'r hyn sy'n cael ei ysgrifennu yn y papurau newydd – ond a wyddech chi mai oherwydd y cyfryngau torfol yn bennaf y mae Dydd Ffwl Ebrill wedi dod mor boblogaidd yn y wlad hon?
Dangoswch yr enghreifftiau o'r math o ffwlbri Dydd Ffwl Ebrill sydd wedi digwydd yn y cyfryngau torfol:
1977 – Fe gyhoeddodd y papur newydd The Guardian atodiad saith tudalen yn cynnwys disgrifiadau manwl o ynys o'r enw San Serriffe yng Nghefnfor India. Fe gredodd llawer o bobl y stori, ond celwydd golau oedd y cyfan. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y ffwlbri Ffwl Ebrill gan y cyfryngau torfol.
2012 – Y stori o garwriaeth rhwng Simon Cowell a David Walliams. - Darllenwch yr enghreifftiau eraill hyn i'r plant.
- Un flwyddyn ym Mharis, fe gyhoeddodd rhywun fod trafnidiaeth Ewrop gyfan yn mynd i yrru ar ochr chwith y ffordd, yn hytrach nag ar yr ochr dde, o 1 Ebrill ymlaen. Fe gredodd llawer o bobl y stori a chychwyn am eu gwaith ar yr ochr anghywir i'r ffordd. Fe achosodd y mwstwr rhyfeddaf!
- Yn 1980, adroddodd y BBC fod Big Ben yn newid i fod yn gloc digidol. Fe wnaethon nhw dderbyn cannoedd o gwynion ac fe ffoniodd rhywun y stiwdio o Japan yn holi a oedd modd iddo brynu bysedd y cloc!
- Fe gyhoeddodd y cynhyrchydd ceir BMW unwaith ei fod wedi datblygu car ag olwyn lywio oedd yn dod i ffwrdd, a chyda phedalau ar ochr y gyrrwr yn ogystal ag ochr y teithiwr, er mwyn i'r car allu cael ei yrru yn y DU ac ar y cyfandir!
- Mae'n ymddangos bod Burger King, yn 1998, wedi cyhoeddi eu bod o hynny ymlaen yn gwerthu burgers llaw dde yn ogystal â rhai llaw chwith. Yn ystod y dydd fe ddywedodd llawer o bobl yn benodol pa rai yr oedden nhw'n dymuno eu prynu!
- Yn y flwyddyn 2002, fe gyhoeddodd Tesco fod y cwmni wedi cynhyrchu moronen oedd â'i genynnau wedi ei haddasu fel ei bod yn chwibanu pan fyddai wedi cael ei llawn goginio! - Mae llawer o bobl yn mwynhau'r hwyl a gaiff y cyfryngau torfol wrth wneud eu ffwlbri ar Ddydd Ffwl Ebrill. Yn awr fe fyddwn yn gwylio'n ofalus rhag cael ein dal gan jôcs o'r fath, ond bob blwyddyn fe fydd llawer ohonom o hyd yn syrthio i'r fagl. Ond mae rhai pobl o'r farn na ddylai'r cyfryngau torfol ymwneud â'r fath ffwlbri, ond yn hytrach ganolbwyntio'n unig ar gyhoeddi'r newyddion.
- Mewn bywyd mae'n beth da cael hwyl a sbri. Sut bynnag, weithiau gall fod yn dasg anodd i ddyfalu beth yn wir yw'r gwirionedd. Mae angen i ni amgylchynu ein hunain â phobl fydd yn dweud y gwir wrthym ac yn bod yn onest gyda ni – hyd yn oed pan fyddwn ni weithiau ddim yn hoffi'r hyn fyddan nhw'n ei ddweud wrthym.
- A ydych chi'n un y gall pobl ymddiried ynddo? Dywedwch y gwir?
Mae dihareb yn y Beibl sy'n darllen fel hyn: ‘Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad.’ Beth, dybiwch chi yw ystyr hyn?
Mae'n dda gallu chwerthin a chael jôc, ond gadewch i ni sicrhau o ddifrif ein bod yn bobl y mae pobl eraill yn gallu ymddiried ynom ac y byddan nhw’n gwybod ein bod yn dweud y gwir.
Amser i feddwl
Treuliwch funud yn meddwl am yr adegau pryd y buoch yn chwerthin yng nghwmni eich teulu a'ch ffrindiau.
Treuliwch funud yn meddwl pa mor bwysig yw dweud y gwir. Meddyliwch eto beth mae'r adnod hon o'r Beibl yn ei olygu? ‘Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad.'
Gwnewch benderfyniad i ddweud y gwir a bod yn berson y gall pobl eraill ymddiried ynoch chi ym mhob sefyllfa.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am hwyl a sbri.
Diolch i ti am adegau i ymlacio,
pan fyddwn ni’n gallu mwynhau cwmni pobl,
chwarae a rhannu jôc a chyd-chwerthin.
Helpa ni bob amser i fod yn bobl y gall eraill ymddiried ynom ym mhob sefyllfa.