Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pa Ddyn Yw Hwn?

Ennill mwy o ddealltwriaeth am yr effaith a gafodd bywyd ac athrawiaeth Iesu ar bobl, a’r ysbrydoliaeth a fu ar artistiaid. Fe wnawn hyn trwy ystyried gweithiau pwysig ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf.

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ennill mwy o ddealltwriaeth am yr effaith a gafodd bywyd ac athrawiaeth Iesu ar bobl, a’r ysbrydoliaeth a fu ar artistiaid. Fe wnawn hyn trwy ystyried gweithiau pwysig ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n fanteisiol defnyddio adnoddau rhyngweithiol er mwyn darlunio rhai o’r gweithiau unigol y cyfeirir atyn nhw yn y gwasanaeth hwn, gweithiau a ysbrydolwyd gan fywyd Crist.

  • Paratowch recordiad o rannau o gampweithiau cerddorol (fel yn rhif 3), yn cynnwys cerddoriaeth grefyddol, i’w chwarae ar yr adegau perthnasol.

  • Dangoswch ddelweddau o eglwysi cadeiriol enwog.

  • Dangoswch gasgliad o lyfrau Cristnogol a Beiblau.

  • Dangoswch ddelweddau o’r gweithiau celf enwog, rhai crefyddol a seciwlar, wrth i chi gyfeirio atyn nhw.

Gwasanaeth

  1. Ar hyd yr oesoedd, mae pobl wedi cael eu cofio am eu gorchestion, eu campau, neu’r hyn wnaethon nhw ei gyflawni. Mae enwau pobl a oedd yn byw gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn parhau'n adnabyddus i ni oherwydd y gweithiau mawr y maen nhw wedi eu gadael ar eu hôl.

  2. Arlunwyr fel Leonardo da Vinci, a beintiodd y Mona Lisa; Michelangelo, a beintiodd y nenfwd yng Nghapel Sistine; a Picasso, a beintiodd y darlun Weeping Woman: maen nhw'n cael eu hadnabod fel arlunwyr mawr eu cyfnod ac fe fyddai gwaith gwreiddiol gan unrhyw un ohonyn nhw'n gwerthu am filiynau o bunnoedd heddiw. Fe all Damien Hirst, sy'n arlunydd modern, ac sydd wedi defnyddio anifeiliaid marw i greu ei gelfyddyd, gael ei gofio fel arlunydd mawr yn y dyfodol, neu efallai na fydd.

    Weithiau, ni chaiff gwaith arlunydd mawr ei gydnabod tan ar ôl iddo ef neu hi farw. Un darlun yn unig (Y Berllan Goch), a lwyddodd Vincent Van Gogh i'w werthu yn ystod ei fywyd. Ond mae wedi dod yn un o'r arlunwyr mynegiadol mwyaf poblogaidd, a bydd llawer o blant wedi gwneud copi o'i ddarluniau 'blodyn yr haul' mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad.

  3. Mae cerddorfeydd yn parhau i chwarae cerddoriaeth gan gyfansoddwyr oedd yn byw gannoedd o flynyddoedd yn ôl: Mozart, er enghraifft, a fu’n cyfansoddi cerddoriaeth ers pan oedd mor ifanc â phump oed. Yn ddiweddarach yn ei fywyd fe gyfansoddodd sawl concerto i’r piano ac operâu, fel Priodas Figaro a Don Giovanni. Cafodd cerddoriaeth Handel ei ganu yn ystod coroni'r Frenhines Elizabeth II (Zadok yr Offeiriad); cyfansoddodd Beethoven beth o'i weithiau mwyaf pan oedd bron yn gyfan gwbl fyddar. Ni chafodd cerddoriaeth Johann Sebastian Bach ei lawn werthfawrogi tan tua 80 mlynedd ar ôl ei farwolaeth.

  4. Mae enw Christopher Wren yn enwog am ei gynllun o Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain. Cafodd ei gladdu yng Nghadeirlan Sant Paul, ac ar ei fedd ceir y geiriau: ‘If you seek his monument look around you.’ Fe gynlluniodd pensaer arall, Antoni Gaudi, yr Eglwys Gadeiriol La Sagrada Familia (Y Teulu Sanctaidd) yn ninas Barcelona. Bu'n gweithio ar ei gynllun trwy gydol ei fywyd, ac mae yn un mor gymhleth a manwl fel bod y gwaith arno yn parhau dros 70 mlynedd ar ôl iddo farw; nid oes disgwyl iddo gael ei gwblhau tan y flwyddyn 2026.

  5. Mae gweithiau gan awduron fel William Shakespeare a Charles Dickens yn parhau i gael eu hastudio gan blant ysgol ac ysgolheigion ledled y byd. Mae'r ddau awdur wedi marw, ond mae eu gwaith wedi goroesi flynyddoedd lawer ar eu hôl.

  6. A beth am Iesu Grist? Ni pheintiodd ef ei hun ddarlun erioed, hyd y gwyddom ni - ond mae arlunwyr wedi paentio mwy o ddarluniau a golygfeydd o hanes ei fywyd ef nag unrhyw berson arall. (Fe allech chi ddangos rhai enghreifftiau yma.)

    Ni chyfansoddodd Iesu erioed ddarn o gerddoriaeth ychwaith hyd y gwyddom ni - ond mae mwy o gerddoriaeth wedi cael ei ysbrydoli gan ei fywyd na chan fywyd unrhyw un arall. (Fe allech chi chwarae cerddoriaeth grefyddol yma.)

    Mae’n bosib na chynlluniodd adeilad erioed - ond mae rhai o'r adeiladau mwyaf hardd ac ysbrydoledig yn y byd wedi cael eu hadeiladu i'w glodfori ef. (Fe allech chi ddangos lluniau yma.)

    Mae mwy o eiriau a mwy o lyfrau wedi cael eu hysgrifennu amdano a'i ddysgeidiaeth nag am unrhyw berson arall – ond yr unig ysgrifennu y cofir iddo'i wneud oedd ysgrifennu arwydd mewn tywod, cyn iddo arbed dynes rhag wynebu cosb greulon. (Fe allech chi ddangos Beiblau a llyfrau Cristnogol yma.)
  1. Tair blynedd y parhaodd gweinidogaeth Crist, ond dros 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'n cael ei gofio; ei gofio nid am yr hyn a adawodd ar ei ôl, ond am bwy ydoedd a'r hyn a wnaeth. Mae Cristnogion yn credu mai ef yw mab Duw a'i fod wedi dod i ddangos cariad Duw dros y byd; bu farw ac atgyfodi drachefn, gan roi gobaith a hyder i bawb sy'n credu ac ymddiried ynddo.

Amser i feddwl

Pwy ydych chi'n credu yw'r person mwyaf enwog sy'n byw heddiw? Beth, gredwch chi, sy'n ei wneud ef neu’n ei gwneud hi'n enwog?

Am beth yr hoffech chi gael eich cofio?

Trafodwch pwy, o blith 'enwogion' y dyddiau hyn, y mae'r myfyrwyr yn credu a fydd yn debygol o gael eu cofio yn y dyfodol.

Pa lyfrau plant y maen nhw'n credu a fydd yn cael eu darllen gan genedlaethau'r dyfodol?

Ystyriwch rai o'r pethau a ddywedodd Iesu am feddiannau, am gariad at eraill, am faddeuant, a gostyngeiddrwydd. Sut ydym ni'n ymateb i'w eiriau heddiw?

Gellir ystyried bywydau rhai o 'fawrion' y dyddiau a fu yng ngoleuni'r hyn wnaethon nhw eu cyflawni, a'r gwaddol y maen nhw wedi ei adael i ni heddiw.

Gweddi
Diolchwn i ti am bobl y gorffennol sydd wedi ysbrydoli eraill
a chreu gweithiau celf a gweithiau llenyddol mawr.
Diolchwn i ti am bobl sydd heddiw yn ein hysbrydoli ni i wneud ein gorau ac i ddefnyddio ein doniau’n ddoeth.
Diolchwn i ti yn arbennig am Iesu,
sydd yn esiampl o gariad ac ufudd-dod perffaith.
Gad i ni, fesul diwrnod, geisio dilyn ei esiampl
a chofio am ei gariad at bob un ohonom.

Cerddoriaeth

Chwaraewch unrhyw ddarn o gerddoriaeth y cyfeiriwyd ato yn ystod y gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon