Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ymgiprys Am Y Gwpan

Annog y myfyrwyr i ystyried beth sy’n bwysig yn eu golwg nhw, waeth beth fydd penderfyniadau’r rhai o’u cwmpas.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried beth sy’n bwysig yn eu golwg nhw, waeth beth fydd penderfyniadau’r rhai o’u cwmpas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi rhywun i fod yn Arweinydd a dau arall i fod yn ddau Ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Ar 11 Mai, bydd Gêm Derfynol Tlws yr FA yn Wembley.

    Rhowch fanylion byr am y ddau dîm sy'n ymgiprys am y gwpan.

    Mae hon bob amser wedi bod yn gystadleuaeth sy'n synnu pawb gyda'i chanlyniadau annisgwyl. Mae'r tîm gwannaf wedi gallu goresgyn y cewri ar fwy nag un achlysur. Y tymor hwn bu perfformiad dau dîm o Gynghrair y Gyngres, Luton Town a Macclesfield Town yn rowndiau canolog y Gwpan yn neilltuol o ryfeddol.

    Efallai bod enghraifft fwy cyfredol o gyflawniad un o'r timau gwannaf a lwyddodd i gyrraedd y Rownd Derfynol y gallech sôn amdano yn lle'r enghraifft hon.

    Fel mae'n digwydd, mae'n ymddangos bod y nifer o weithiau lle bu i'r annisgwyl ddigwydd wedi cynyddu yn y ganrif hon. Ymhlith y cystadleuwyr annisgwyl a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol ers y flwyddyn 2000 oedd Wycombe Wanderers, Sheffield United, Southampton, Millwall (ddwywaith), Caerdydd a Barnsley. Dydw i ddim yn dymuno bychanu'r timau hyn, ond nid yw'r garfan o chwaraewyr sydd ganddyn nhw erioed wedi rhagori ar dimau gorau'r Uwch Gynghrair fel Manchester United, Manchester City, Arsenal, Chelsea, Lerpwl, Everton a Tottenham Hotspur. Byddai'n gwneud synnwyr i dimau fel y rhain i fod ar y blaen yn rowndiau pellach Cwpan yr FA. Beth sydd i'w gyfrif nad yw hynny o anghenraid yn digwydd?

    Darllenydd 1 I'r timau gorau, nid Cwpan yr FA yw'r tlws mwyaf arbennig i'w ennill. Mae cyrraedd y brig ar yr Uwch Gynghrair a Chynghrair y Pencampwyr yn llawer pwysicach.

    Darllenydd 2 Eto, i'r timau o'r cynghreiriau is dyma'r un cynnig a gânt i chwarae yn Wembley.

    Darllenydd 1 I'r timau gorau, mae'r arian mawr i'w ennill yn Ewrop ac o'r arian teledu ddaw o'r Uwch-Gynghrair. Yn y pen draw, yr arian yw’r peth sy’n cyfrif.

    Darllenydd 2 I'r timau sy'n is yn y rhengoedd, gall y cyfle o fod yn rhan mewn un gêm yn erbyn un o'r prif dimau, lle mae arian mawr ynghlwm wrthi, yn gallu troi colledion y tymor yn enillion buddiol.

    Darllenydd 1 Hyd yn oed os ydych yn llwyddo i ennill Cwpan yr FA, y cyfan mae'n ei warantu i chi yw mynediad i Gynghrair Europa. Mae'n amlwg mai tlws eilradd ydyw.

    Darllenydd 2 Pêl-droed Ewropeaidd! Dyna fyddai cynnig go iawn.

    Darllenydd 1 I'r prif dimau, mae Cwpan yr FA yn ddefnyddiol yn unig oherwydd ei bod yn rhoi cyfle i ddod â chwaraewyr i mewn i'r tîm, er mwyn rhoi'r profiad iddyn nhw.

    Darllenydd 2 I'r timau hynny sydd heb fod ymhlith y prif dimau, mae'n rhoi'r anogaeth iddyn nhw i oresgyn yr hyn sy’n eu gwneud dîm gwannach.

  2. Arweinydd Felly, mae'n ymddangos ei fod yn fater o flaenoriaethau. Os yw Cwpan yr FA yn cynnig rhywbeth sy'n werth mynd amdani, yna bydd yn derbyn blaenoriaeth uchel. Bydd timau'r cynghreiriau is felly'n breuddwydio ac yn ymdrechu at gael y cyfle i brofi eu sgiliau yn erbyn y prif dimau, am unwaith. Fodd bynnag, gall Cwpan yr FA fod yn debyg bron i unrhyw gêm arall mewn rhestr sydd eisoes yn llawn i’r ymylon o gemau. Fel mater o ffaith, yn ddiweddar, rhoddwyd caniatâd i Manchester United gan yr FA i beidio â chymryd rhan o gwbl am un tymor ar sail hynny. Mae'r cyfan yn ymwneud â blaenoriaethau.

Amser i feddwl

Arweinydd Beth yw eich blaenoriaethau ar hyn o bryd? I rai, bydd y bar wedi ei osod yn uchel. Efallai y bydd yn ymwneud â chyflawni gradd uchel mewn arholiad cerdd, clyweliad dawnsio, arholiad TGAU neu gael eich dewis yn aelod o dîm sirol. Bydd y dewis ynghylch sut i dreulio amser - yn cymdeithasu, yn ymlacio, yn hyfforddi, yn astudio - yn cael ei benderfynu gan y budd a gewch chi ohono mewn perthynas â'ch prif flaenoriaeth. I eraill, gall blaenoriaethau ymddangos yn fwy bydol - cael cyflwyno darn o waith cartref ar amser, neu allu meistroli tri o gordiau ar y gitâr, adfer perthynas ar ôl ffrae, cael ymuno â mainc yr eilyddion yn nhîm yr ysgol. Nid yw blaenoriaethau uchel, ar yr olwg gyntaf, er eu bod yn ymddangos wedi cael eu sefydlu er mwyn cyflawni safon uwch, ddim o reidrwydd yn bwysicach ar lefel unigol, na'r blaenoriaethau eraill sydd ar un olwg yn fydol. Bydd y naill a'r llall, pa beth bynnag yw, yn cynrychioli'r posibilrwydd o gyflawniad i'r unigolyn dan sylw ac fe fyddan nhw o bosib yn gofyn yn union yr un ymdrech gennych yn nhermau neilltuo amser, dyfalbarhad ac egni.

Sut gallwn ni wneud i'n gwahanol flaenoriaethau gyd-fynd â'i gilydd? Yn gyntaf, rwy'n credu y dylem ddangos yr un diddordeb ym mlaenoriaethau'r naill a'r llall. Gallwn ofyn i'n gilydd bob dydd sut y mae pethau'n mynd. Yn ail, rwy'n credu y gallwn ddathlu pob cyflawniad fel ei gilydd, yn sicr ar lefel breifat. Ychydig o amser mae’n ei gymryd i ddweud ‘Da iawn’, eto gall fod yn effeithiol dros ben i roi hwb i hunanddelwedd rhywun. Yn olaf, os ydym ein hunain yn ymwneud â helpu eraill tuag at gyflawni eu blaenoriaethau, boed y rheini'n uchel neu is, bydd y cyfan yn troi'n ymdrech dîm a bydd y deilliannau cadarnhaol sy'n dilyn yn perthyn i ni i gyd.

Pwy sy’n mynd i godi'r Cwpan? Does gen i ddim syniad, ond pa un ai’r ffefryn neu'r un sydd leiaf tebygol o ennill, rwy'n gobeithio y bydd y profiad yn un boddhaus i bawb sy'n cymryd rhan.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am yr holl dargedau yr ydym yn gorfod anelu atynt nhw,
ac am y blaenoriaethau i'w penderfynu.
Diolch i ti am ffrindiau sy'n cyd-weithio â ni i'w cyflawni.
Boed i ni fod yn barod i ymgymryd â'r holl ymdrech.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Lean on me’ gan Bill Withers 

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon