Gobeithion A Breuddwydion
Annog y myfyrwyr i anelu at eu breuddwydion, a’u tymheru gyda realiti.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i anelu at eu breuddwydion, a’u tymheru gyda realiti.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allech chi lwytho i lawr rai delweddau o’r enwogion y byddwch chi’n cyfeirio atyn nhw yn ystod y gwasanaeth (gwelwch isod).
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a phump o fyfyrwyr i ddarllen y gwahanol rannau.
Gwasanaeth
Darllenydd 1 Fy enw i yw Bob Crowe. Pan oeddwn yn iau, roedd yn freuddwyd gennyf i fod yn bêl-droediwr proffesiynol neu, fel arall, yn rheolwr ar dîm pêl-droed. Er hynny, doeddwn i ddim digon da gyda phêl-droed, felly, pan wnes i ymadael â'r ysgol fe gefais swydd ar y rheilffordd. Fe fûm i'n gweithio ar ran yr undeb a dyma fi, flynyddoedd yn ddiweddarach, yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Gweithwyr y Rheilffyrdd, y Morwyr a Chlydwyr ac yn aelod o Gyngor Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur. Mae'n bell i ffwrdd oddi wrth bêl-droed, ond rwy'n teimlo bod yna bwrpas mawr i'm bywyd oherwydd fy mod yn cefnogi a llefaru ar ran yr aelodau, gan warchod eu hawliau a'u bywydau.
Darllenydd 2 Fy enw i yw Michel Roux Jr. Cefais fy ngeni ym Mhrydain, ond rwy'n hanner Ffrengig, ac rwy'n hanu o deulu o ben-cogyddion a pherchnogion tai bwyta o fri. Roedd fy mryd bob amser ar fod yn ben-cogydd, felly fe wnes i ymadael â'r ysgol pan oeddwn yn 16 oed a mynd i wasanaethu fel prentis - nid bob amser ym musnesau'r teulu, ac weithiau'n ymostwng yn is ar yr ysgol yrfa er mwyn cael gweithio gyda phen-cogydd neilltuol. Nawr rwy'n berchen ar fy nhy bwyta 2-seren fy hun ac efallai eich bod wedi fy ngweld ar y teledu, ar y rhaglen Professional Masterchef a rhaglenni eraill.
Darllenydd 3 Fy enw i yw Jessica Jones. Pan oeddwn yn blentyn, roeddwn yn Gristion i'r carn a breuddwyd gennyf o fod yn genhades, ond pan oeddwn ym mlynyddoedd fy llencyndod, fe wnes i sylweddoli bod addysgu yn rhywbeth mwy dibynnol. Felly, am flynyddoedd lawer, roeddwn yn athrawes wyddoniaeth mewn ysgol uwchradd. Yna, fe wnes i hyfforddi i fod ymhlith y merched cyntaf rheini gafodd eu hordeinio'n offeiriaid yn Eglwys Loegr ac, ymhellach ymlaen, fe wnes i adael gweinidogaeth blwyf i ysgrifennu a hyfforddi gweinidogion eraill. Bu'n daith ryfedd!
Darllenydd 4 Fy enw i yw Samira. Rydw i wedi bod eisiau cael bod yn actor erioed, ac fe lwyddais i gael lle ar gwrs mewn coleg drama ar ôl gadael yr ysgol. Mae gen i radd mewn theatr gerddorol, ond, ers graddio, dydw i ddim ond wedi gweithio'n ysbeidiol, yn bennaf am y treuliau'n unig. Am weddill yr amser rwy'n gweithio mewn canolfan alwadau, ond rwy'n dal i aros yn obeithiol!
Darllenydd 5 Rydw i'n ysgrifennu hwn yn fy fflat un ystafell ger gorsaf Omika yn Hitachi, Japan. Rydw i wedi bod yma bellach am flwyddyn. Iaith anodd iawn i gael unrhyw afael arni i rywun o'r Gorllewin fel fi yw Japanaeg, yn cael ei hysgrifennu mewn dwy wyddor ffonetig a llythrennau wedi eu haddasu o'r Tsieinëeg. Mae'r diwylliant yn enwog am fod yn ynysig ac yn anodd i rywun estron ei ddeall. Wedi dweud hynny, mae'n wlad hardd, wedi ei phoblogi gan bobl garedig sy'n barod iawn â'u cymorth ac wedi ei sylfaenu ar economi hynod o lwyddiannus.
Mae tua 3.4 miliwn o bobl Brydeinig yn byw oddi allan i'r DU. Tra bo llawer ohonyn nhw'n bensiynwyr, yn mwynhau eu hymddeoliad yn heulwen Sbaen neu Bortiwgal, mae nifer cynyddol ohonyn nhw'n bobl ifanc, yn arbennig felly, raddedigion prifysgol. Mae tua 15 y cant o raddedigion Prydeinig yn byw dramor. Mae sawl rheswm am hyn. Y cyntaf yw bod llawer o raddedigion am weld y byd a dysgu sgiliau newydd mewn gwlad wahanol cyn dychwelyd adref ac ymgymryd â gyrfaoedd sy'n talu'n dda iddyn nhw fel graddedigion.
Mae'r ail reswm yn peri mwy o bryder. Nid yw'n gyfrinach bod cyflogaeth ymhlith yr ifanc yn y D.U. yn isel iawn ac nad yw cyflogaeth i raddedigion wedi cael ei hadfer i'r hyn oedd hi cyn y trafferthion economaidd. Gyda graddedigion yn wynebu rhagolygon gwael am waith, ynghyd â môr o ddyled, mae llawer yn chwilio am waith sy'n talu'n dda mewn gwledydd eraill. Yn Tsieina, De Corea, Japan a Fietnam, mae galw mawr am siaradwyr Saesneg brodorol i weithio fel athrawon ac mae'r proffesiwn hwnnw'n denu llawer. Rwyf wedi dod ar draws llawer o allfudwyr Gwyddelig sydd wedi mynd dramor i weithio o achos y trafferthion economaidd dybryd yn eu gwlad eu hunain. Tra bo bywyd yn dda yn Asia, mae'r sefyllfa hon yn peri trafferthion gwleidyddol i'r D.U., oherwydd wrth gael eu haddysgu ar draul trethdalwyr yn y D.U., mae'r budd economaidd o'u gwaith yn awr yn mynd i Japan.
Mae'n fywyd da am fod y gwaith yn ddiddorol ac yn ariannol enillfawr, y cymdeithasu rhyngwladol yn hwyl ac fe allan nhw fynd draw i Tokyo fel y mynnan nhw. Eto i gyd, mae anfanteision hefyd o fyw ar ochr arall y byd. Er enghraifft, er gwaethaf hwylustod y cyfathrebu ar draws y cyfandiroedd gyda Gweplyfr (Facebook) a Skype, ac ati, gall y berthynas rhwng cyfeilion ddechrau edwino. Mae'n haws cynnal cyfeillgarwch os oes modd cyrraedd at y naill berson a'r llall a siarad wyneb yn wyneb. Mae byw fel mewnfudwr yn gallu dod â chyfnodau o straen yn ei sgil, yn enwedig pan fydd angen hawlen waith newydd arnoch. Mae bod yn fewnfudwr, hyd yn oed yn y ffurf hwylus a gwarchodol hon, yn gwneud i chi sylweddoli pa mor anodd yw hi'n gallu bod ar lawer allfudwr economaidd.
Pan wnes i raddio o'r brifysgol ddwy flynedd yn ôl, rhaid i mi gyfaddef nad oedd gen i syniad y byddwn yn cael fy hun yma. Ar ôl graddio, roeddwn i'n ddigon lwcus i gael cynnig swydd yn Ffrainc fel cynorthwyydd iaith, ond roeddwn i bob amser yn credu y byddwn yn gweithio naill ai mewn swyddfa gyda gwydr a phren mahogani rhywle yn Llundain neu'n parhau i fod yn llyfrgell y brifysgol. Fe wnes i gyrraedd yma am fod yna gyn lleied o waith i mi gartref. Mae'r cyfan i'w weld yn llwyddiant. Rydw i'n mwynhau fy mywyd yma. Yn y mwyafrif o'r sefyllfaoedd, mae rhai pwyntiau da a rhai pwyntiau drwg. Daw hapusrwydd trwy wneud y gorau o'r sefyllfa yr ydych yn cael eich hun ynddi.
Arweinydd Rhai storïau gwahanol, i gyd yn seiliedig ar bobl go iawn. Tybed beth yw'r gobeithion a'r breuddwydion sydd gennych chi ar gyfer eich bywyd gwaith? A ydyn nhw'n rhai realistig - pa mor galed y byddwch yn gorfod ymladd i wireddu'r yrfa yr ydych yn ei dymuno? A oes gennych chi'r ddawn i gystadlu yn eich maes dewisol?
A fydd raid i chi weithio am ddim yn y maes hwnnw er mwyn cael dechrau?
Pa mor bwysig yw hi i ennill gradd - ai peidio?
Darllenydd 1 Rwyf wedi fy synnu i ble'r arweiniodd fy mywyd. Doeddwn i ddim digon da i fod yn bêl-droediwr proffesiynol.
Darllenydd 2 Fe wnes i ddal at fy mreuddwyd ac mae'r gwaith wedi bod yn werthfawr i mi.
Darllenydd 3 Byddaf yn edrych yn ôl ac yn gweld sut y bu i droeon yr yrfa roi'r sgiliau i mi yr wyf yn eu defnyddio'r dyddiau hyn.
Darllenydd 4 Rwyf am roi pum mlynedd iddi, yna meddwl o'r newydd os na fyddaf wedi dod o hyd i'r agoriad rydw ei angen.
Darllenydd 5 Dyma fi, dydw i ddim yn gwneud yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud yn wreiddiol, ond rwy'n cael amser da.
Amser i feddwl
Meddyliwch am eich gobeithion a'ch breuddwydion ar gyfer y dyfodol. Sut y byddech hi'n mynd ati i'w haddasu pe na fyddai modd eu gwireddu?
Fe ddywedodd rhywun unwaith, mae bywyd fel tapestri – dim ond trwy edrych yn ôl yn unig y gall rywun weld y patrwm, nid pan ydych chi yn ei ganol. Boed i dapestri eich bywyd fod yn un hardd, gyda rhai pethau fydd yn peri syndod i chi.
Byddwch lawen.