Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod Y Derby

Annog y myfyrwyr i ystyried eu hymrwymiad i achos pwysig.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried eu hymrwymiad i achos pwysig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

  • Dewch o hyd i lun pobl wedi’u gwisgo’n grand sy’n gwylio rasys ceffylau, a dangoswch y llun yn ystod y gwasanaeth.

  • Mae un clip sy’n dangos beth ddigwyddodd ar y diwrnod hanesyddol hwnnw yn 1913, ond nid yw’r ansawdd yn dda iawn (edrychwch ar y wefan:  www.britishpathe.com/video/emily-davison-throws-herself-under-the-kings-derby) Mae’n anodd gweld, ond mae yn dangos yr hyn a ddigwyddodd os gallwch chi chwilio am y foment honno a manylu arni.

  • Nodwch nad yw pob hanesydd yn cytuno gyda’r dehongliad o’r digwyddiadau yn 1913, fel maen nhw’n cael eu disgrifio isod. Mae rhai pobl yn meddwl mai dim ond croesi’r trac yr oedd Emily Davison, am ei bod yn meddwl bod pob un o’r ceffylau wedi pasio, ac mai damwain hollol oedd y digwyddiad.

Gwasanaeth

Arweinydd (fel pe byddai'n sylwebydd chwaraeon) Croeso, ar y diwrnod hyfryd hwn o Fehefin, i'r Derby yn Epsom 1913. Ynghyd â bod y prif ddigwyddiad yn nhymor rasio ceffylau ar y gwastad, mae'r ras heddiw yn cynnig cyfle i'r elit o blith y gymdeithas yn Llundain weld, a chael eu gweld. Mae Ei Fawrhydi'r Brenin Siôr y Pumed yn bresennol, ynghyd â sawl aelod o'r teulu brenhinol, yn cynnwys y Frenhines Mary. Maen nhw yma i gefnogi Anmer, ceffyl o'u stablau eu hunain, sy'n cael ei farchogaeth heddiw gan y joci enwog Herbert Jones.

Mae'r ceffylau'n awr wedi cychwyn, ac yn carlamu i lawr y llain syth o’r man cychwyn. Gan mai sbrint yw'r ras, fe ddylen nhw ddod i'r golwg yn fuan. 

Mae'n ddrwg gen i ddweud ond nid yw Anmer wedi cael dechreuad rhy dda i'r ras, ac mae'n drydydd o'r ceffyl olaf fel y maen nhw'n cymryd congl lem Tattenham Corner er mwyn cyrraedd y llain syth ar ddiwedd y ras.

O! Na! Fedra' i ddim coelio'r hyn rwy'n ei weld! Mae dynes wedi gwyro o dan y ffens ac ar y trac. Mae'r rhan fwyaf o'r ceffylau yn y ras wedi mynd heibio iddi, ond mae hi'n bwrw ei hun at geffyl y Brenin, ac yn ymestyn i gyrraedd ei ffrwyn. Mae Anmer wedi ei tharo'n galed, gan luchio corff y ddynes i fyny i'r awyr, ac mae'r joci wedi cael ei daflu dros ben y ceffyl.

Darllenydd 1 Y ddynes oedd Emily Wilding Davison, aelod adnabyddus o'r 'Suffragettes' - Mudiad dros Hawliau Merched.

Darllenydd 2 Mudiad oedd y 'Suffragettes' a sefydlwyd ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg (bryd hynny roedden nhw'n cael eu galw'n 'Suffragists'), mudiad a oedd yn lobïo ar ran merched yn y Deyrnas Unedig i gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau. Ar y cychwyn roedden nhw'n lobïo'n heddychlon, ond fe newidiodd eu tactegau pan gymerodd Emmeline Pankhurst a'i dwy ferch, Christabel and Sylvia, yr awenau er mwyn tynnu mwy o sylw at eu hachos a chyflymu'r newid. Fe wnaethon nhw dorri ar draws cyfarfodydd gwleidyddol, llosgi eglwysi, torri ffenestri siopau ar Oxford Street yn Llundain, cadwyno'u hunain i reiliau Palas Buckingham a dechrau ar ymgyrch o lwgu eu hunain. 

Darllenydd 1 Emily Davison oedd un o'r aelodau mwyaf milwriaethus. Rhoddodd flychau post ar dân, taflodd beli metel wedi eu labelu fel ‘bomb’ trwy ffenestri, cuddiodd ei hun deirgwaith oddi mewn i adeilad y Senedd ac roedd yn aml yn llwgu ei hun. Roedd hi i mewn ac allan o'r carchar yn aml iawn.  Un tro, pan oedd hi yn y carchar, fe daflodd ei hun oddi ar falconi, a'r rhwyd oedd wedi ei gosod i atal rhai rhag cyflawni hunanladdiad a'i hachubodd. Fe ysgrifennodd bod ei naid yn fwriadol mewn ymgais i aberthu ei bywyd er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i hawl merched i gael y bleidlais. Mae yna ddadl gref o blaid y syniad ei bod wedi rhedeg ar y trac rasio yn ras y Derby yn Epsom am yr union reswm. Bu farw o'i hanafiadau bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Arweinydd A oedd y 'Suffragettes' yn iawn yn yr hyn wnaethon nhw? A oes gan ferched yn union yr un hawliau i bleidleisio â dynion? Nid wy'n credu y gall unrhyw un wadu bod eu hachos yn un cyfiawn. Mae'n ymddangos yn anghredadwy nad oedd gan ferched yn y Deyrnas Unedig yr hawl i bleidleisio fel yr oedd gan ddynion – a hynny lai na chan mlynedd yn ôl,. Eto i gyd, edrychwyd ar brotestiadau'r merched Pankhursts ac Emily Davison yr adeg honno fel digwyddiadau gwarthus. Er gwaethaf y ceisiadau tawel a rhesymol, cafodd eu hiawnderau dynol eu gwrthod gan system wleidyddol oedd yn cael ei thra-arglwyddiaethu gan ddynion. Dyna paham yr oedden nhw'n teimlo ei bod hi'n angenrheidiol i ffyrnigo'u hymdrechion, gan arwain at weithred aberthol Emily Davison.

Mae anghyfiawnderau yn digwydd o'n cwmpas o hyd, yn y wlad hon yn ogystal â'r byd ehangach. A oes gennych chi'r dewrder i brotestio? Gall hynny fod mewn ffordd hamddenol a rhesymol - ysgrifennu llythyrau, gwneud galwadau ar y ffôn, anfon negeseuau testun. Mae mudiadau fel Amnest Rhyngwladol yn gallu rhoi manylion i chi am y ffordd orau i weithredu, ond efallai y bydd adeg pryd y gallai gweithred gyhoeddus fwy uniongyrchol fod yn fodd i  helpu codi ymwybyddiaeth o broffil yr achos dan sylw. Nid wyf am funud yn awgrymu y dylai unrhyw un ohonoch ddechrau tân neu fynd ati i dorri ffenestri, ac yn sicr ddim ymgymryd â gweithredoedd hunan-laddol fel un Emily Davison. Gall gorymdaith brotest, boicot, neu rali gyhoeddus gyflawni llawer, fel y dangosodd Dr Martin Luther King, Jr, hanner can mlynedd yn ôl. Yr hyn sy'n cyfrif yw pa mor bwysig yw'r achos.

Amser i feddwl

Gadewch i ni gael ein hysbrydoli gyda hanes Emily Davison, a bod yn barod i ymrwymo ein hunain i fynd i’r afael â rhai pethau sy’n anghyfiawn yn ein gwlad ac yn ein byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am y rhyddid sydd gennym ni yn y wlad hon i fynegi ein barn.
Gad i ni fod â’r dewrder i ddefnyddio’r rhyddid hwnnw fel y gall eraill fod yn rhydd hefyd.
Gad i ni fod yn barod i fynd i’r afael â phethau sy’n ein rhwystro nes bydd iawnderau dynol yn rhwydd i bawb.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Which side are you on?’ gan Natalie Merchant (cân brotest o’r 1930au)

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon