Ail Gyfle
Annog y myfyrwyr i ddyfalbarhau pan fyddan nhw’n profi methiant neu rwystr.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i ddyfalbarhau pan fyddan nhw’n profi methiant neu rwystr.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen un Arweinydd ac un Darllenydd.
Gwasanaeth
- Arweinydd Heddiw rydym yn mynd i gael clywed am ddigwyddiad naturiol rhyfeddol.
Darllenydd Mae Eglwys Sant Edward yn sefyll yng nghanol tref Leek, yn Swydd Stafford. Gyda'r hwyr ar 21 Mehefin, y Dydd Hwyaf, mae'n arferol i weld tyrfa fawr o bobl wedi dod ynghyd yn y fynwent, ac yn troi eu golygon at Wastadedd Caer, 10 milltir i ffwrdd.
Mae ymylon y Gwastadedd wedi eu nodi â bryn eithaf mawr, sy'n adnabyddus fel Bosley Cloud. Mae'r haul wrth fachludo yn llithro i lawr tuag at ran uchaf ochr chwith Bosley Cloud ac, am ennyd, aiff pobman yn dywyll, gyda chysgodion yr hwyr yn nesu at y dorf. Yna, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Mae'r haul, a oedd wedi machlud rhai munudau ynghynt, yn graddol ymddangos unwaith yn rhagor ar y llethr fertigol sydd ar ochr dde'r bryn. Mae golau dydd yn arllwys dros y dirwedd am ychydig funudau'n hwy cyn i ail fachlud ddigwydd ar orwel syth Gwastadedd Caer. - Arweinydd Mae machludiadau yn rhan atgofus o'r profiad dynol. Mae machlud yn cynrychioli diwedd rhywbeth. Cyn yr adeg pan ddaeth golau trydan, dyma oedd, i bob pwrpas, ddiwedd y diwrnod gwaith. Mae'r machlud hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan awduron fel symbol o fywyd ynddo'i hun, fel ein bod yn graddol wywo tuag at farwolaeth anochel. I ni, gall fod yn symbol o gyfle a fethwyd, apwyntiad na chafodd ei gadw, profiad bendigedig sy'n anochel wedi dod i ben, methiant nad oes modd ei gywiro. Pan fydd yr haul yn machlud, mae llinell glir yn cael ei thynnu. Dyna'r diwedd . . . neu . . .?
- Arweinydd Fe hoffwn i ddefnyddio'r machlud dwbl sy'n digwydd yn Leek i'n helpu ni ystyried pa un ai yw'r diwedd bob amser yn ddiwedd. Fe hoffwn i ni ystyried y syniad o ail-gynnig. Mae'n syniad Cristnogol gwirioneddol. Ni chollodd Iesu ei ffydd mewn pobl, hyd yn oed pan wnaethon nhw ei siomi. Rhoddodd ail-gynnig iddyn nhw. Nid oedd Iesu byth yn derbyn y ffaith na ellid datrys problem. Roedd ganddo gynllun B. Fe heriodd Iesu derfynoldeb marwolaeth ei hun pan atgyfododd ar fore'r Pasg cyntaf hwnnw, felly pam y dylem ni dderbyn mor hawdd bod y diwedd mor derfynol?
Gadewch i ni ddechrau gyda pherthnasoedd. Pan fydd dau berson priod yn ysgaru, mae rhai yn dweud bod hyn wedi digwydd oherwydd bod yna fethiant anadferadwy yn y berthynas, ond pam y dylai unrhyw berthynas gael ei labelu'n anadferadwy? Gall fod yn anodd dweud ‘Sori’, i ofyn am faddeuant, ymrwymo i ddechrau o'r newydd, ond mae'n bosib os yw'r dymuniad a'r ewyllys ar gael. A yw hyn yn berthnasol i unrhyw berthnasoedd yn eich bywyd chi?
Beth am fethiannau? Os yw rhywun yn ceisio clirio'r bar yn y naid uchel ac yn methu â gwneud hynny, mae ganddo ef neu hi ddwy ymgais arall. Yn aml, wedyn, bydd y neidiwr yn llwyddo gyda'r naid. Mae'n cyfrif fel naid glir os yw'n digwydd ar y tro cyntaf neu ar yr ymgeision dilynol. Fel mater o ffaith, mae cael pethau'n anghywir yn rhan o gael pethau'n iawn.
Rhan syml o'r broses ddysgu yw methiant. Fe ddylen ni sefyll yn syth, edrych arnom ein hunain a dechrau o'r dechrau unwaith yn rhagor, nes ein bod yn llwyddo. Fe ddylen ni roi ail-gynnig, tri neu bedwar cynnig arall i ni'n hunain.
Yn olaf, mae Cristnogion yn credu bod maddeuant Duw yn ysgubo ymaith yr euogrwydd, y rhwystredigaeth a'r negyddiaeth sydd ynghlwm wrth ein ffaeleddau. Nid oes unrhyw beth - dim camgymeriad, dim gair neu weithred gas fwriadol - na all gael eu gwella. Efallai na fydd yn beth hawdd, ond mae ail-gynnig ar gael bob amser.
Amser i feddwl
Arweinydd Ceisiwch edrych ar yr haul yn machlud ryw noswaith yn ystod y mis hwn. Gwyliwch yr haul yn mynd o’r golwg yn araf a, thra byddwch chi’n gwylio, meddyliwch am beth fyddai cael ail gyfle’n ei olygu i chi.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am ail gyfle, beth bynnag fydd y cyfleoedd rheini.
Gad i mi, yn gyntaf, fod yn barod i wynebu unrhyw fethiant ac achosion o edifarhau am rywbeth.
Gad i mi, wedyn, fod yn barod i ddyfalbarhau, i greu cyfle newydd yn fy mywyd ac ym mywydau pobl eraill.
Cerddoriaeth
‘Never gonna give you up’, yn cael ei chanu gan Rick Astley
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.