Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pe Bawn I'n Gallu Llunio Deddf...

Annog y myfyrwyr i feddwl am y broses ddemocrataidd yn gyffredinol, ac yn neilltuol am lunio deddfau.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl am y broses ddemocrataidd yn gyffredinol, ac yn neilltuol am lunio deddfau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Porwch trwy’r ffilmiau byrion sydd wedi eu llunio gan bobl ifanc, ar y wefan hon:  www.makewav.es/story/485967/title/lightscameraparliament2013winners

  • Dewiswch ffilm rydych chi’n meddwl y bydd o ddiddordeb i’ch myfyrwyr, a threfnwch fod gennych y modd i’w dangos iddyn nhw yn y gwasanaeth. Does dim un yn fwy na thri munud o hyd.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ffilm rydych chi wedi ei dewis a gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r myfyrwyr. Gofynnwch iddyn nhw godi eu dwylo fel ateb i bob cwestiwn yn ei dro.

    – Pwy sy’n cytuno y byddai hon yn ddeddf dda i’r senedd ei deddfu? 
    – Pwy sy’n meddwl na fyddai’n ddeddf dda? 

  2. Gofynnwch am sylwadau’r myfyrwyr ar y ddeddf sy’n cael ei hawgrymu – a yw’r myfyrwyr yn gweld unrhyw broblemau posibl gyda hyn, er enghraifft, neu a fyddai’n bosib ei gwella mewn unrhyw ffordd?

  3. Eglurwch fod y ffilmiau wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer cystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei rhedeg gan y Senedd a’r  mudiad Makewaves. Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddweud wrth y Senedd am ddeddf y bydden nhw’n hoffi ei llunio, a hynny trwy gyfrwng ffilm sy’n para tri munud. Awgrymwch y byddai’r myfyrwyr efallai’n hoffi dechrau meddwl am ddeddf yr hoffen nhw ei llunio ac ystyried gwneud ffilm fer i’w hegluro.

Amser i feddwl

Holwch y myfyrwyr beth sy’n digwydd yn y broses o lunio deddf dda?
Fe ddylai deddf dda fod yn glir, yn hawdd ei deall, ac yn mynd i'r afael â mater neilltuol- rhywbeth sydd angen ei newid er gwell.
Fe ddylai fod yn deg â phob dinesydd, nid dim ond yn ateb anghenion un grwp neilltuol yn unig.
Nodwch fod deddf dda yn anodd ei llunio!
Gofynnwch i’r myfyrwyr, ‘Pe baech chi’n gallu llunio un ddeddf, beth fydda’r ddeddf honno?’

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch unrhyw gerddoriaeth y byddai’r myfyrwyr yn ei mwynhau wrth iddyn nhw ymadael â’r gwasanaeth. 

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon