Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Canu'r Felan

Dangos bod tristwch yn rhan wirioneddol o brofiad dynol, ond hyd yn oed ar adegau trist, mae ffydd yn dod â gobaith.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Dangos bod tristwch yn rhan wirioneddol o brofiad dynol, ond hyd yn oed ar adegau trist, mae ffydd yn dod â gobaith.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen recordiad o un o ganeuon y felan (blues), a’r modd o’i chwarae yn y gwasanaeth. Yr enghraifft a ddefnyddir yma yw ‘Red House’ gan Jimi Hendrix, ond fe allech chi ddefnyddio unrhyw gân sy’n darlunio’r thema o dristwch a hiraeth, sy’n nodweddiadol o ganu’r felan. Enghreifftiau ardderchog eraill fyddai, ‘Lucille’ neu ‘The Thrill is Gone’ gan BB King, neu ‘Damn Right I’ve Got the Blues’ gan Buddy Guy.

  • Fe fydd arnoch chi angen dod o hyd i eiriau Salm 77 i’w darllen yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch funud neu ddwy o’r gân ‘Red House’ (neu unrhyw gan felan arall rydych chi wedi ei dewis).

    Mae’r felan yn genre cerddorol dylanwadol iawn. Mae llawer yn ei ystyried fel man cychwyn yr holl ganu pop, ac fe allwch chi glywed adleisiau o ganu’r felan mewn canu swing, jas, roc a rôl, R&B (rhythm and blues) a chanu’r enaid (soul). Roedd dylanwad artistiaid y felan, fel Muddy Waters, ar y Rolling Stones, er enghraifft, yn eu canu cynnar. 

  2. Mae gwreiddiau canu’r felan yn dod o’r caneuon yr oedd caethweision yn eu canu yn y planhigfeydd, ac mae’n gerddoriaeth sy’n adlewyrchu rhythm galw ac ymateb yng nghanu’r caethweision hynny.

    Gan fod canu’r felan wedi dod o brofiad y caethweision, mae’r gerddoriaeth yn nodedig o drist a hiraethus. Fel y clywsom ni yn y gân y buom yn gwrando arni, mae’r thema’n aml yn ymwneud a cholli cariad a thorri calon, neu dlodi a chaledi bywyd. Yn y gân hon, mae Jimi Hendrix yn canu am fod i ffwrdd oddi cartref am amser hir, ac am ddod yn ôl i’r ‘Red House’ lle mae ei gariad yn byw. Ond pan mae’n cyrraedd mae’n canfod nad yw hi yno.

    Mae llawer o bobl yn gweld bod cerddoriaeth y felan yn cael argraff ddofn arnyn nhw am ei bod yn cyffwrdd a’u profiad personol eu hunain o deimlo’n hiraethus ac unig. Mae tristwch yn rhan o’r cyflwr dynol - ac mae canu’r felan yn rhoi llais i’r profiad hwnnw.

  3. Wn i ddim ydych chi’n ymwybodol o hyn, ond mae yn y Beibl lyfr o ganeuon y felan - llyfr y Salmau. Llyfr o farddoniaeth yw Llyfr y Salmau, barddoniaeth oedd yn cael ei osod ar gerddoriaeth, ac mae llawer sydd yn y Salmau’n cael eu hadleisio yng ngeiriau canu’r felan - mae’r Salmau hefyd yn sôn am brofiadau o anobaith, digalondid, a hyd yn oed o deimladau o fod wedi cael eu siomi gan Dduw. Mae’r Salmau’n ddarnau gonest iawn!

    Gwrandewch ar y geiriau hyn o Salm 77: 

    Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.
    Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo’n ddiflino; 
    nid oedd cysuro ar fy enaid.
    Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; 
    pan fyfyriaf, fe balla f’ysbryd.

    Cedwaist fy llygaid rhag cau; 
    fe’m syfrdanwyd, ac ni allaf siarad . . .

    A yw Duw wedi anghofio trugarhau? 
    A yw ei lid wedi cloi ei dosturi?

  4. Efallai eich bod wedi sylwi ar rywbeth arall ynglyn â chanu’r felan hefyd. Er gwaetha’r tristwch a’r anobaith, mae yn y gerddoriaeth lawenydd hefyd. Mae’n gerddoriaeth sydd ag enaid iddi a rhythm, sy’n gwneud i chi dapio’ch traed ac yn gwneud ichi fod eisiau symud a dawnsio. Neges canu’r felan yw bod llawenydd a hapusrwydd hefyd yng nghanol y tristwch.

    Dyma hefyd yw’r neges sy’n ganolog i’r efengyl Gristnogol. Bydd, fe fydd rhai adegau’n gallu bod yn anodd, ac fe fyddwn ni’n profi dioddefaint, ond mae ffydd yn dod a gobaith a llawenydd gyda hi. Mae ffydd yn ymwneud â’r gred bod cariad yn fuddugol yn y pendraw.

    Felly, nid yw  Salm 77 yn dod i ben gyda geiriau o dristwch, ond o fuddugoliaeth. Mae’r salmydd yn cofio am yr amser y gwnaeth Duw arwain ei bobl o gaethwasiaeth i ryddid, trwy ddwr y Môr Coch. Yng nghanol y felan mae cariad Duw yn fuddugol.

Amser i feddwl

Darllenwch weddill yr adnodau o Salm 77 yn araf, gan oedi er mwyn i’r myfyrwyr gael ystyried y geiriau. Fe allech chi hefyd daflunio’r geiriau fel y gallan nhw eu gweld yn ogystal â’u clywed.

Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,

gwelodd y dyfroedd di ac arswydo . . . 

Aeth dy ffordd drwy’r môr, a’th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd ôl dy gamau.
Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cofio am bobl sydd â’r felan arnyn nhw, sydd yn ddigalon ac yn isel eu hysbryd.
Boed i ni fod yn negeseuwyr gobaith i’r rhai hynny sy’n teimlo anobaith ac yn negeseuwyr llawenydd i’r rhai hynny sy’n profi tristwch.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon